Climate Action Wales Logo

Cyhoeddi yn gyntaf: 6 Mawrth 2026 -

Wedi diweddaru: 6 Mawrth 2026 -

Verified by our Editorial Panel

Pan fydd sbwriel yn mynd i’r lle anghywir: Deall tipio anghyfreithlon yng Nghymru

A cabinet being taken away by registered waste carrier to stop fly tipping in Wales

Dychmygwch yr olygfa, rydych chi allan am dro, gyda’r ci efallai, yn clirio’ch pen. Mae’r adar yn canu, mae awel yn chwythu drwy’r gwrychoedd. Ac yna rydych chi’n ei weld – bag du wedi’i rwygo, matres wedi’i wthio i mewn i’r coed, pentwr o ddarnau pren a theils wedi torri ar ymyl cae.  

Mae tipio anghyfreithlon yn gadael sbwriel ar ôl, ond mae hefyd yn newid sut mae lle yn teimlo.

Tipio anghyfreithlon yng Nghymru: Maint y broblem

Yn 2023, cofnodwyd 39,853 o achosion o dipio anghyfreithlon yng Nghymru ac roedd mwy na 70% ohonynt yn ymwneud â gwastraff cartrefi.  

Felly, nid o ffatrïoedd y daw’r gwastraff fel arfer. Hen soffas, toriadau o’r ardd a gweddillion DIY yw’r broblem – pethau a oedd yn arfer bod yng nghartref rhywun. 

Sut mae tipio anghyfreithlon yn dechrau yn aml

Anaml y bydd yn dechrau gyda rhywun yn meddwl, “Dwi’n mynd i wneud niwed i gefn gwlad heddiw”.

Mae’n dechrau wrth glirio neu symud tŷ. Rydych chi’n dod o hyd i rywun ar-lein sy’n dweud y gallan nhw fynd â phethau i ffwrdd yn rhad. Maen nhw’n ymddangos yn gyfeillgar, gallan nhw ddod draw heno. Mae’n teimlo fel bod popeth wedi’i sortio. 

Mae rhai casglwyr twyllodrus yn cynnig gwasanaethau rhad am arian parod ar gyfryngau cymdeithasol a grwpiau cymunedol. Efallai y byddan nhw’n edrych yn ddilys. Efallai y bydd ganddyn nhw fan gydag arwyddion hyd yn oed. Ond os nad ydyn nhw’n gludwr gwastraff cofrestredig, gallai eich gwastraff gael ei adael mewn cilfan neu goetir er mwyn osgoi costau gwaredu. 

Yn aml, fe welwch chi gymdogion yn postio lluniau o wastraff sydd newydd gael ei dipio’n anghyfreithlon ar grwpiau Facebook lleol ledled Cymru ac yn gofyn:

  • “Oes unrhyw un yn gwybod pwy wnaeth hyn?”

  • “Sut ydw i’n ei riportio?”

Mae eraill yn rhybuddio am gasglwyr gwastraff amheus maen nhw wedi’u gweld yn hysbysebu yn rhad ar-lein. Nid ystadegau yn unig ydyn nhw. Mae’n digwydd nawr yn ein cymunedau.

Eich dyletswydd gofal

Yng Nghymru, mae deiliaid tai yn gyfrifol am gyflawni rhywbeth o’r enw Dyletswydd Gofal o ran Gwastraff Cartref.

Mae hyn yn golygu, os ydych chi’n talu rhywun i gael gwared ar eich gwastraff, bod yn rhaid i chi wneud yn siŵr ei fod wedi cael caniatâd i’w gludo’n gyfreithlon.

Os bydd eich gwastraff yn cael ei ddarganfod wedi’i dipio’n anghyfreithlon yn ddiweddarach, gallech wynebu:

  • Dirwy o £300

  • Erlyniad posibl

  • Cofnod troseddol

Dydy e’ ddim yn teimlo’n deg os gwnaethoch chi dalu rhywun, ond diben y gyfraith yw atal gwastraff rhag cael ei drosglwyddo o law i law nes ei fod yn cael ei ddympio. Mae stopio hyn rhag digwydd yn dechrau ar y cam cyntaf. Dyma sut i gael gwared ar wastraff eich cartref yn gywir.

Y gost gudd i natur

Mae gwastraff sydd wedi’i ddympio yn difetha’r olygfa, ond gall hefyd:

  • Anafu defaid, gwartheg a bywyd gwyllt

  • Gollwng cemegau i bridd a nentydd

  • Blocio draeniau a chynyddu’r perygl o lifogydd

  • Creu peryglon tân

  • Gorchuddio planhigion a chynefinoedd

Mae gwirfoddolwyr ledled Cymru yn troi i fyny’n rheolaidd gyda menig a sachau sbwriel i glirio glannau afonydd, traethau a lonydd. Ddylen nhw ddim gorfod – ond maen nhw’n gwneud hynny oherwydd eu bod yn caru eu cymunedau. 

Pan fydd sbwriel yn cael ei adael mewn mannau bregus fel coetiroedd, glannau afonydd, gwlyptiroedd neu ardaloedd lle mae bywyd gwyllt yn nythu ac yn bwydo, gall achosi difrod sy’n cymryd blynyddoedd, weithiau degawdau, i’w adfer.

Gwiriadau bach sy’n gwneud gwahaniaeth mawr

Y newyddion da yw ei bod hi’n hawdd osgoi’r risg.

Cyn i rywun fynd â’ch gwastraff:

  • Gwiriwch ei fod yn gludwr gwastraff cofrestredig

  • Gofynnwch i ble y bydd eich gwastraff yn mynd

  • Ceisiwch osgoi talu gydag arian parod

  • Gofynnwch am dderbynneb

  • Gwnewch nodyn o wneuthuriad y cerbyd a’r manylion cofrestru

Dim ond ychydig funudau mae’n ei gymryd. Gallai’r ychydig funudau hynny olygu na fydd eich hen oergell yn cael ei dipio’n anghyfreithlon.

Wedi gweld e’? Riportiwch e’

Os byddwch chi’n gweld gwastraff sydd wedi’i dipio’n anghyfreithlon, rhowch wybod i’ch cyngor lleol.

Gallai’r gwastraff gynnwys deunyddiau niweidiol neu gliwiau am bwy wnaeth ei adael. Mae riportio yn helpu i glirio’r gwastraff yn gyflymach a chymryd camau yn erbyn y rhai sy’n gyfrifol am ei ddympio.

Gweithredu ar newid hinsawdd yw hyn hefyd

Mae gweithredu ar newid hinsawdd yn ymwneud â mwy nag ynni a thrafnidiaeth; mae hefyd yn ymwneud â:

  • Sicrhau bod gwastraff yn mynd i’r lle cywir

  • Diogelu ein tir a’n dŵr

  • Gofalu am y mannau rydym yn eu rhannu

Gall tipio anghyfreithlon ddechrau gydag un bag o sbwriel, ond gall un gwiriad syml ei stopio rhag digwydd. Ac mae hynny’n rhywbeth y gallwn ni i gyd ei wneud.

Am ragor o wybodaeth, dilynwch Taclo Tipio Cymru.

I gael rhagor o gymorth neu gyngor ffoniwch

0300 0604400

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol