Climate Action Wales Logo

Cyhoeddi yn gyntaf: 9 Hydref 2025 -

Wedi diweddaru: 9 Hydref 2025 -

Reviewed by our Editorial Panel

Croeso i dŷ sy'n gwresogi ei hun gan ddefnyddio dim byd ond aer

Gallai cyfnewid eich boeler am bwmp gwres leihau eich biliau ynni a'ch ôl troed carbon. Gallwch hyd yn oed ymweld â chartref sydd eisoes wedi newid i bwmp gwres.

a man standing outside with his heat pump

Penderfynodd Neil Lewis, o Sir Gaerfyrddin, fuddsoddi mewn system wresogi wyrddach ar gyfer ei gartref. Tair blynedd ar ôl mentro a gosod pwmp gwres, mae wedi’i argyhoeddi’n llwyr gan ei fanteision – ac yn awyddus i argyhoeddi eraill.

"Dydyn ni ddim wedi difaru am eiliad," meddai Neil, rheolwr yn Ynni Sir Gâr, cymdeithas budd cymunedol sy'n helpu pobl i elwa ar ynni glanach, rhatach. "Mae'n well o lawer na'n hen foeler olew. Mae'n fwy cyfleus i’w gynnal, ac rydyn ni'n arbed llawer o arian."

Hyd fideo:

1 munud

Gwyliwch ar Youtube

Mae Neil yn gwirfoddoli fel lletywr gyda menter ‘Visit a heat Pump' - gan agor ei gartref yn Abergwili, Sir Gaerfyrddin, i ymwelwyr sydd eisiau cael gwybod wyneb yn wyneb am osod a chynnal pwmp gwres. "Mae yna lawer o gamddealltwriaeth ar led, sydd ddim yn gywir," meddai. "Dw i eisiau dangos bod pympiau gwres yn ffordd effeithlon iawn o wresogi’ch cartref."

Sut mae'n gweithio

Mae pympiau gwres o’r aer yn defnyddio trydan i dynnu cynhesrwydd o'r aer y tu allan i'ch cartref – ychydig fel y gwrthwyneb i oergell. Caiff yr ynni hwn ei ddefnyddio i ferwi nwy oerol, sy’n cael ei gywasgu i gynyddu ei dymheredd. Mae hyn yn cynhesu dŵr ar gyfer rheiddiaduron, tapiau a chawodydd, heb fod angen llosgi tanwydd ffosil.

Mae angen trydan ar bympiau gwres i weithio, ond gallant fod dair i bedair gwaith yn well o ran effeithlonrwydd ynni na gwresogi olew neu nwy traddodiadol, neu wresogyddion storio trydan. Nid ydynt yn cynhyrchu unrhyw allyriadau carbon o gartrefi ar adeg ei ddefnyddio.

Er bod cost ymlaen llaw wrth osod pwmp gwres, gall yr arbedion blynyddol ar eich biliau fod yn sylweddol. Fel arfer, bydd gan bwmp gwres hefyd oes hirach na boeler nwy – hyd at 20 mlynedd os caiff ei gynnal yn ofalus. Maent hefyd yn llai tebygol o fynd yn llai effeithlon dros amser.

Mae pympiau gwres yn parhau i weithio ym mhob tywydd – hyd yn oed pan fo'r tymheredd allanol mor isel â -20C, sy’n eu gwneud yn addas ar gyfer y gaeafau caletaf yng Nghymru.

"Pan fyddaf yn cael bath ar ôl beicio neu redeg, rwy'n eistedd yno mewn dŵr poeth iawn yn meddwl, 'Daeth hwn o'r awyr y tu allan – mae hynny'n rhyfeddol.'"

Neil Lewis, perchennog pwmp gwres

Beth am weld drosoch chi eich hun?

Mae gan y gwasanaeth Visit a Heat Pump letywyr ledled Cymru a'r DU ac mae’r gwasanaeth am ddim ac yn hawdd i'w ddefnyddio.

Trwy fynd i'r wefan, gallwch chwilio am letywyr lleol sy'n hapus i ateb cwestiynau am eu pwmp gwres eu hunain a gallwch gofrestru i drefnu ymweliad. Gallwch glywed am eu profiadau o osod y pwmp a chael gwybod faint maen nhw wedi'i arbed ar eu biliau blynyddol.

Meddai Neil: "Rwy'n falch iawn o gael y cyfle i gymryd rhan yn y cynllun, fel bod unrhyw un yn gallu ymweld â chartref sydd eisoes yn byw gyda'r dechnoleg. Mae gan lawer o bobl gwestiynau: a fydd y pwmp gwres yn gweithio? A fydd yn beth mawr i’w wneud? A fyddaf yn difaru ei osod? Rwy'n hoffi gallu tawelu eu meddyliau."

Yn syml i'w osod

I Neil, roedd gosod y pwmp gwres yn broses syml a gymerodd dau ddiwrnod. Fe wnaeth grant gan y llywodraeth helpu gyda chostau ymlaen llaw (ac mae cymorth ariannol ar gael o hyd ar gyfer gosodiadau newydd). Erbyn hyn, mae’n defnyddio ynni solar o'i baneli ar y to i helpu i bweru'r pwmp, gan leihau biliau ac allyriadau carbon hyd yn oed yn fwy.

Dywedodd: "Rydw i eisiau i bobl ddeall nad oes yn rhaid i chi losgi tanwydd ffosil i wresogi’ch cartref. Gallwch ei wneud dim ond o'r aer y tu allan. Dim gwyrth yw hyn – ffiseg ydyw. Os ydych chi'n ystyried cael pwmp gwres, magwch yr hyder ac ewch amdani. Fyddwch chi ddim yn difaru."

Mwy o wybodaeth

Mae cymorth ar gael gydag effeithlonrwydd ynni yn eich cartref gan Nyth.

Gallant roi cyngor diduedd am ddim i chi ar ba fesurau sydd orau ar gyfer eich cartref chi, gan gynnwys grantiau a benthyciadau di-log sydd ar gael.

I gael rhagor o gymorth neu gyngor ffoniwch

0300 0604400

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol