Cyhoeddi yn gyntaf: 14 Tachwedd 2025 -
Wedi diweddaru: 14 Tachwedd 2025 -
Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol
Allai bywyd gyda phwmp gwres ‘ddim bod yn fwy clyd'
Soniodd Rhiannon o Gaerdydd wrthym am fywyd gyda phwmp gwres yn ei chartref teras 120 oed.
:fill(fff))
Os ydych chi'n adnewyddu cartref, mae'n amser gwych i ystyried uwchraddio i bwmp gwres, esboniodd Rhiannon, sydd wedi adnewyddu cartref ei theulu dros y tair blynedd diwethaf.
Roedd yr eiddo wedi dirywio, ar ôl bod ar rent am 30 mlynedd ac roedd ganddo hen foeler nwy.
Yn ogystal ag inswleiddio a rhoi rendrad calch newydd, penderfynodd y teulu osod pwmp gwres o’r aer, gan leihau eu hallyriadau carbon a defnyddio llai o ynni i wresogi eu cartref.
"Roedd y gost ymlaen llaw yn ystyriaeth i ni, ond roedden ni'n gwybod mai dim ond unwaith yr oeddem ni eisiau gwneud y math hwn o waith, felly roedden ni eisiau ei wneud yn iawn y tro cyntaf," esboniodd Rhiannon.
"Roeddem ni’n gallu defnyddio Cynllun Uwchraddio Boeleri Llywodraeth y DU. Fe wnaethom gais am y grant o £7,500 trwy ein gosodwyr, a gyflwynodd y cais ar ein rhan, felly roedd yn hawdd dros ben!
"Nawr allai ein cartref ni ddim bod yn fwy clyd," meddai Rhiannon. Mae eu system wresogi yn gweithredu ar dymheredd isel felly mae'n rhedeg am gyfnodau hirach nag y byddai boeler nwy yn ei wneud fel arfer, ond mae'n dal i ddefnyddio llai o ynni.
"Mae gennym thermostats o amgylch y tŷ sy'n cadw llygad ar dymheredd ein hystafelloedd, felly dydy’r tŷ byth yn oer nac yn boeth, mae'n gyson. Mae'r un peth yn wir pan fyddwch chi'n symud o gwmpas y tŷ, does dim mannau oer nawr.
"Pan oedd gennym foeler nwy fe wnaethon ni ganfod ei fod yn darparu gwres uchel am gyfnod byr ac yna’n oeri eto yn gyflym pan fyddech chi'n ei ddiffodd - byth yn ddelfrydol."
:fill(fff))
Er mwyn rheoli'r gwres a'r dŵr poeth, mae teulu Rhiannon yn defnyddio sgrin gyffwrdd ar y wal sy'n caniatáu iddyn nhw addasu unrhyw osodiadau yn gyflym, fel diffodd y pwmp gwres pan fyddan nhw’n mynd ar wyliau neu wirio tymheredd eu dŵr poeth.
Mae wedi cael effaith gadarnhaol ar eu biliau hefyd.
"Gan nad ydym ni wedi ein cysylltu â’r cyflenwad nwy mwyach, rydyn ni ond yn talu am drydan a gallwn ni fanteisio i’r eithaf ar arbedion trwy ddefnyddio tariffau sy'n amrywio trwy gydol y dydd, sy'n golygu y gall y tŷ gynhesu pan fydd trydan yn rhad!
"Pan fydd y gwynt yn chwythu’n galed ac mae llawer o ynni adnewyddadwy ar y grid, weithiau mae ein cyflenwad trydan am ddim."
Y cam nesaf i deulu Rhiannon yw gwneud cais am fenthyciad di-log Cartrefi Gwyrdd Cymru er mwyn gosod paneli solar a batri.
"Gan fod y pwmp gwres mor effeithlon o ran ynni, rydyn ni'n gobeithio y bydd adegau pan fydd ein hen deras Fictoraidd yn gweithredu'n gyfan gwbl ar ynni adnewyddadwy yn y dyfodol agos - gyda bron dim biliau." meddai Rhiannon.
"Doedden ni ddim yn meddwl bod hynny'n bosibl pan ddechreuon ni, ond os gallwn ni wneud hynny mewn hen adeilad sydd wedi dirywio fel hwn, mae'n bosibl mewn unrhyw dŷ teras."
Gweld drosoch eich hun
Mae Rhiannon bellach yn westeiwr gyda'r gwasanaeth Ymweld â Phwmp Gwres sydd am ddim ac yn hawdd ei ddefnyddio.
Trwy ymweld â'r wefan, gallwch chwilio am westeiwr lleol sy'n hapus i ateb cwestiynau am ei bwmp gwres ei hun a chofrestru ar gyfer ymweliad. Gallwch glywed popeth am y profiad o osod a chael gwybod faint mae wedi'i arbed ar filiau blynyddol.
Cyngor am ddim
Gallwch hefyd gael cymorth gydag effeithlonrwydd ynni yn eich cartref gan Nyth.
Gallan nhw roi cyngor diduedd am ddim i chi ar ba fesurau y gallech eu hystyried ar gyfer eich cartref, a sgwrsio am y grantiau a'r benthyciadau di-log sydd ar gael.
:fill(transparent))
:fill(transparent))