Climate Action Wales Logo

Cyhoeddi yn gyntaf: 17 Medi 2026 -

Wedi diweddaru: 17 Medi 2026 -

Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol

Mae paneli solar 'plygio i mewn' bellach ar gael yng Nghymru. Dyma'r hyn sydd angen i chi ei wybod.

Sut mae paneli solar plygio i mewn yn gweithio, faint maen nhw'n costio a beth sydd angen i chi ei wirio cyn eu prynu.

Plug in solar panel on display in a garden

Beth yw paneli solar plygio i mewn?

Mae paneli solar plygio i mewn yn systemau ynni solar llai o faint y gellir eu defnyddio heb osod set lawn o baneli ar eich to.

Efallai y byddwch chi hefyd yn clywed yr enwau canlynol amdanynt:

  • Paneli solar balconi

  • Paneli solar bach

  • Paneli solar plygio a chwarae

  • Paneli solar DIY

Sut mae paneli solar plygio i mewn yn gweithio?

Mae paneli solar plygio i mewn yn troi golau dydd yn drydan y gall eich dyfeisiau ei ddefnyddio.

Dyma sut maen nhw’n gweithio:

  1. Mae’r paneli solar yn dal ynni o olau dydd ac yn ei droi’n drydan.

  2. Mae dyfais fach o’r enw micro-wrthdroydd yn cysylltu â’r panel(i) solar ac yn troi’r trydan hwn yn fath o drydan a ddefnyddir yn eich cartref.

  3. Mae’r system yn bwydo’r trydan i’ch cartref drwy soced plwg addas.

  4. Mae offer sy’n rhedeg ar yr adeg honno yn defnyddio’r trydan solar, gan leihau faint o bŵer y mae angen i’ch cartref ei gymryd o’r grid.

  5. Gan eich bod yn prynu llai o drydan o’r grid, gallwch arbed arian ar eich bil ynni.

Dydy paneli solar plygio i mewn ddim fel arfer yn storio trydan.

Yn hytrach, mae’r trydan maen nhw’n ei wneud yn cael ei ddefnyddio o amgylch eich cartref wrth iddo gael ei gynhyrchu. Felly, mae angen i’ch cartref dynnu llai o drydan o’r grid, sy’n gallu helpu i leihau eich bil ynni.

Er enghraifft, os yw eich oergell, llwybrydd Wi-Fi, teledu ac offer eraill yn defnyddio 600 watt, a bod eich paneli’n cynhyrchu 500 watt, dim ond 100 watt y mae angen i’ch cartref ei gymryd o’r grid.

Os byddwch chi’n troi offer mwy pwerus ymlaen, fel tegell, bydd y paneli’n dal i ddarparu pa faint bynnag o drydan maen nhw’n ei gynhyrchu. Mae’r grid yn cyflenwi’r gweddill yn awtomatig.

Does dim angen i chi fynd ati eich hun i newid rhwng trydan solar a thrydan grid. Mae eich cartref yn rheoli hyn yn awtomatig.

Faint mae paneli solar plygio i mewn yn ei gostio?

Yn ôl UKSOL, cwmni solar yn y DU, bydd un o’i becynnau un panel cyntaf yn costio £699, a bydd pecyn dau banel yn costio £1,089.

Mae Llywodraeth y DU yn disgwyl i brisiau setlo ar tua £400 i £600 wrth i ragor o systemau gael eu datblygu ac wrth i fwy o fanwerthwyr ddechrau eu gwerthu.

Cyn prynu, holwch beth yn union sydd wedi’i gynnwys yn y pris. Efallai y bydd angen i chi dalu am y canlynol hefyd:

  • Archwiliad diogelwch trydanol

  • Soced awyr agored addas

  • Offer mowntio diogel

  • Help i osod y paneli’n ddiogel

  • Danfon

Mae’n werth cymharu’r gost lawn â’r swm rydych chi’n debygol o’i arbed bob blwyddyn.

Byddwch yn ofalus rhag ofn y bydd unrhyw werthwr yn addo arbedion mawr iawn neu’n honni bod system plygio i mewn am bweru eich cartref cyfan.

A fydd paneli solar plygio i mewn yn arbed arian i mi?

Fe allen nhw, er y byddan nhw’n cynhyrchu llai o drydan ac yn sicrhau llai o arbedion na system solar llawn ar y to.

Mae ymchwil gan Lywodraeth y DU yn awgrymu y gallai cartref arbed rhwng £70 a £110 y flwyddyn ar ei bil trydan.

Bydd eich arbedion gwirioneddol yn dibynnu ar y canlynol:

  • Faint mae’r system yn ei gostio

  • Faint o drydan mae’n ei gynhyrchu

  • I ba gyfeiriad mae’r paneli’n wynebu

  • Ydyn nhw yn y cysgod

  • Faint o drydan rydych chi’n ei ddefnyddio yn ystod oriau golau dydd

  • Y pris rydych chi’n ei dalu am drydan

  • Oes gennych chi system solar ar y to yn barod

Rhywle sy’n wynebu’r de a ddim yn y cysgod fydd yn cynhyrchu’r mwyaf o drydan fel arfer. Bydd y paneli’n dal i weithio ar ddiwrnodau cymylog, ond byddan nhw’n gwneud llai o bŵer nag y bydden nhw mewn haul llachar.

Cartrefi sy’n defnyddio mwy o drydan yn ystod y dydd sy’n debygol o arbed fwyaf oherwydd eu bod yn gallu defnyddio mwy o’r trydan wrth iddo gael ei gynhyrchu.

Faint o drydan y mae paneli solar plygio i mewn yn ei gynhyrchu?

O dan y rheolau newydd, ni all system solar plygio i mewn anfon mwy nag 800 watt o drydan i’ch cartref.

Efallai y bydd rhai pecynnau’n cynnwys paneli solar sy’n gallu cynhyrchu mwy na hyn, ond bydd y micro-wrthdroydd yn cyfyngu faint sy’n dod i mewn i’r cartref i 800 watt.

Mae Llywodraeth y DU yn dweud y gallai hyn ddarparu tua un rhan o bump o drydan cyfartalog cartref cyffredin tra bo’r paneli’n cynhyrchu eu hallbwn llawn.

Gallai hynny helpu i dalu am y trydan a ddefnyddir gan offer sy’n rhedeg drwy gydol y dydd, gan gynnwys:

  • Oergell neu rewgell

  • Llwybrydd Wi-Fi

  • Setiau teledu

  • Cyfrifiaduron a monitorau

  • Dyfeisiau sy’n cael eu gadael yn y modd segur

  • Rhai peiriannau golchi dillad neu beiriannau golchi llestri pan fyddan nhw ymlaen

Ni fydd yn pweru pob cyfarpar yn eich cartref ar unwaith.

Er enghraifft, gall tegell ddefnyddio tua 3,000 watt. Os yw’r paneli’n cynhyrchu 800 watt wrth i chi droi’r tegell ymlaen, gall y paneli ddarparu rhan o’r trydan, a’r grid yn darparu’r gweddill.

Y nod yw lleihau faint o drydan rydych chi’n ei brynu yn ystod y dydd, yn hytrach na newid eich cyflenwad trydan arferol.

Allwch chi arbed y trydan ar gyfer yn nes ymlaen?

Na, nid gyda’r systemau solar plygio i mewn safonol sy’n dod o dan y rheolau newydd. Dydy’r rheini ddim yn cynnwys systemau solar plygio i mewn sy’n darparu trydan i’w storio, felly mae angen defnyddio’r trydan tra bo’r paneli’n ei gynhyrchu.

  Ni ddylai’r systemau gynnwys batri cartref i storio trydan dros ben ar gyfer gyda’r nos neu ddiwrnod arall.

Os yw eich paneli’n cynhyrchu mwy o drydan nag y mae eich cartref yn ei ddefnyddio, bydd y trydan ychwanegol yn llifo’n ôl i’r grid.

Fodd bynnag, mae’n annhebygol y cewch eich talu amdano. Ni fydd systemau plygio i mewn yn gymwys fel arfer ar gyfer y Gwarant Allforio Clyfar, sy’n talu rhai cartrefi am drydan adnewyddadwy sy’n cael ei anfon i’r grid.

Y rheswm am hyn yw nad oes angen gosod ac ardystio systemau plygio i mewn o dan y Cynllun Ardystio Microgynhyrchu yn yr un modd â’r rhan fwyaf o systemau solar ar y to.

Er mwyn manteisio i’r eithaf ar ynni solar plygio i mewn, mae’n gwneud synnwyr i ddefnyddio offer yn ystod oriau golau dydd pan fydd y paneli’n cynhyrchu trydan.

Er enghraifft, gallech chi ddefnyddio eich peiriant golchi dillad neu’ch peiriant golchi llestri yn ystod rhan fwyaf heulog y dydd, cyn belled â’ch bod yn dilyn cyfarwyddiadau diogelwch yr offer.

Ydy paneli solar plygio i mewn yn addas ar gyfer pob cartref?

Nac ydy. Dydy “plygio i mewn” ddim yn golygu bod pob cartref yn barod i ddefnyddio un yn ddiogel.

Mae’r elusen diogelwch defnyddwyr Electrical Safety First wedi codi pryderon am sut gallai solar plygio i mewn ryngweithio â rhai dyfeisiau diogelwch trydanol hŷn.

Mae’r dyfeisiau hyn, o'r enw dyfeisiau cerrynt gweddilliol neu RCDs, wedi’u dylunio i ddiogelu pobl rhag siociau trydanol.

Mae Electrical Safety First yn argymell bod trydan eich cartref yn cael ei archwilio gan drydanwr cofrestredig cyn i chi brynu system solar plygio i mewn. Mae hyn yn arbennig o bwysig os yw’r canlynol yn wir:

  • Rydych chi’n byw mewn eiddo hŷn

  • Dydych chi ddim yn gwybod pryd cafodd y gwifrau eu gwirio ddiwethaf

  • Dydych chi ddim yn gwybod pa fath o RCD sydd gennych chi

  • Mae eich socedi neu’ch blwch ffiwsys yn hen

  • Mae eich gwifrau trydan wedi achosi problemau o’r blaen

Gall trydanwr wirio a yw amddiffyniad eich gwifrau, soced ac RCD yn addas.

Pum peth i'w gwirio cyn prynu paneli solar plygio i mewn

1. Gwiriwch fod y system wedi’i chymeradwyo

Gwnewch yn siŵr bod y cynnyrch ar gofrestr gymeradwy’r Gymdeithas Rhwydweithiau Ynni.

Peidiwch â thybio bod pob cynnyrch solar sy’n cael ei hysbysebu ar-lein yn bodloni’r rheolau newydd.

2. Gwnewch yn siŵr fod eich trydan yn cael ei wirio

Gofynnwch i drydanwr cofrestredig wirio eich amddiffyniad ar gyfer eich gwifrau, socedi ac RCD cyn i chi brynu. Os bydd angen gwneud newidiadau i’ch gwifrau, eich socedi a’ch system RCD, efallai y bydd angen cymeradwyaeth Rheoliadau Adeiladu. Os oes angen cymeradwyaeth Rheoliadau Adeiladu, rhaid i’r gwaith cysylltiedig gael ei wneud gan drydanwr sydd wedi cofrestru â Chynllun Hunanardystio (a elwir hefyd yn Gynllun Personau Cymwys) neu fel arall drwy gais Rheoliadau Adeiladu i gorff rheoli adeiladu (h.y. yr Awdurdod Lleol neu Gymeradwywr Rheoli Adeiladu Cofrestredig).

Efallai na fydd angen i’r system solar ei hun gael ei gosod gan berson proffesiynol, ond rhaid i’ch cartref fod yn addas ar ei gyfer.

3. Peidiwch byth â defnyddio cebl estyniad

Rhaid peidio â chysylltu system solar plygio i mewn drwy’r canlynol:

  • Cebl estyniad

  • Rîl cebl

  • Addasydd aml-blwg

  • Addasydd teithio

  • Addasydd RCD plygio i mewn

Gall y rhain gael eu gorlwytho neu orboethi.

4. Cysylltwch un system yn unig

Dim ond un ddyfais solar plygio i mewn gymeradwy a ganiateir fesul eiddo ar hyn o bryd (i gael rhagor o fanylion, gweler Argymhelliad Peirianneg G98 Rhifyn 2 Gwelliant 1 2026).

 Rhaid i chi beidio ag uno sawl cit gyda’i gilydd na newid y plwg, y cebl na’r micro-wrthdroydd.

5. Prynwch gan fanwerthwr dibynadwy

Mae Electrical Safety First yn argymell prynu gan fanwerthwr sydd wedi hen sefydlu neu drwy ei wefan swyddogol.

Byddwch yn ofalus wrth brynu gan werthwyr trydydd parti ar farchnadoedd ar-lein. Efallai y bydd cynhyrchion yn edrych yn debyg ond efallai na fyddant yn bodloni rheolau diogelwch newydd y DU.

Ydy paneli solar plygio i mewn yn ddiogel?

Mae systemau solar plygio i mewn cymeradwy yn cynnwys nodweddion diogelwch sydd wedi’u dylunio i ddiogelu eich cartref a’r rhwydwaith trydan.

Mae’r micro-wrthdroydd bob amser yn gwirio’r cysylltiad rhwng y paneli, eich cartref a’r grid.

Os oes toriad yn y pŵer neu os yw’r system yn cael ei datgysylltu, dylai’r micro-wrthdroydd ganfod hyn a rhoi’r gorau i anfon trydan i’r gwifrau o fewn milieiliadau.

Mae hyn yn atal y system rhag anfon trydan byw i wifrau yn ystod toriad trydan.

Er mwyn i system solar plygio i mewn gael ei gwerthu’n gyfreithlon ym Mhrydain, rhaid iddi fodloni gofynion Llywodraeth y DU o ran cynnyrch, a chael ei phrofi yn erbyn safon G98 y diwydiant trydan.

Gallwch chi fynd i gofrestr gyhoeddus Cymdeithas y Rhwydweithiau Ynni i weld a yw cynnyrch wedi’i restru fel cynnyrch sy’n cydymffurfio.

Pam mai dim ond un system y gallaf ei chysylltu?

Mae’r rheolau presennol yn caniatáu un ddyfais solar plygio i mewn fesul eiddo. I gael rhagor o wybodaeth am hyn, gweler Argymhelliad Peirianneg G98 Rhifyn 2 Gwelliant 1 2026).

Caiff un ddyfais gynnwys mwy nag un panel solar, ond rhaid i’w hallbwn i’r cartref beidio â bod yn fwy nag 800 watt o’r micro-wrthdroydd.

Mae’r terfyn hwn wedi’i osod am resymau diogelwch. Gallai cysylltu nifer o systemau ar wahân effeithio ar y dyfeisiau diogelwch trydanol yn eich cartref.

Gall y rheolau newid yn y dyfodol wrth i’r dechnoleg ddatblygu ac wrth i fwy o dystiolaeth ddod ar gael. Am y tro, rhaid i gartref gysylltu ag un system gymeradwy yn unig.

Ble gellir gosod paneli solar plygio i mewn?

Mae angen i baneli plygio i mewn gael lle diogel yn yr awyr agored sy’n cael digon o olau dydd.

Yn dibynnu ar y cynnyrch a’r eiddo, gellid eu gosod yn y canlynol:

  • Gardd

  • Patio

  • Balconi addas

  • Adeilad allanol

  • Ardal wastad yn yr awyr agored

  • Gofod diogel arall heb gysgod

Efallai y bydd rhai paneli’n addas ar gyfer wal neu falconi, ond rhaid eu diogelu’n iawn fel na allant syrthio, symud mewn gwyntoedd cryfion na rhoi pobl eraill mewn perygl.

Efallai y bydd angen i chi gael caniatâd gan eich:

  • Landlord

  • Cymdeithas dai

  • Rhydd-ddeiliad

  • Perchennog yr adeilad

  • Awdurdod cynllunio neu reoli adeiladu lleol

Gall hyn fod yn arbennig o bwysig os ydych yn byw mewn fflat, adeilad rhestredig neu ardal gadwraeth.

Gwiriwch bob amser cyn cysylltu paneli ag adeilad neu ofod sy’n cael ei rannu.

A oes angen caniatâd cynllunio?

Mae yna gyfyngiadau a roddir hawliau cynllunio datblygiad a ganiateir ar faint y panel solar y gellir ei osod cyn bod angen caniatâd cynllunio.  Fel arfer, ni chaiff fod yn fwy na:

  • Phedair metr o uchder

  • Tair metr mewn unrhyw ddimensiwn ar y panel ei hun

  • Naw metr sgwâr o arwynebedd i’r panel i gyd. 

Gall y cyfyngiadau hyn fod yn llai, neu gallai hawliau datblygiad a ganiateir gael eu tynnu’n ôl yn gyfan gwbl mewn rhai mannau.  Byddai angen caniatâd cynllunio ar gyfer unrhyw baneli solar sy’n mynd y tu hwnt i’r dimensiwn hwn, neu lle mae hawliau datblygiad a ganiateir wedi cael eu tynnu’n ôl. Mae’n well holi eich awdurdod cynllunio lleol cyn bwrw ymlaen. 

Sut ydw i'n gosod paneli solar plygio i mewn?

Bydd systemau cymeradwy yn cynnwys pecyn gosod a chyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen offer arnoch i roi’r system at ei gilydd a diogelu’r paneli, ond does dim angen iddynt gael eu gosod gan berson proffesiynol bob amser.

Pan fydd y paneli wedi’u gosod yn ddiogel, byddwch yn eu cysylltu â’r micro-wrthdroydd ac yn plygio’r system i mewn i soced addas. Efallai mai soced yn yr awyr agored, sy’n gallu gwrthsefyll y tywydd, yw’r dewis mwyaf diogel ac ymarferol, yn dibynnu ar y system a’ch cartref.

Dilynwch gyfarwyddiadau’r gwneuthurwr yn ofalus. Peidiwch â newid y ceblau, y plwg, y paneli na’r micro-wrthdroydd.

Os nad ydych yn hyderus eich bod yn gallu gosod y paneli’n ddiogel, gofynnwch i weithiwr proffesiynol addas am help.

Oes angen i mi ddweud wrth fy nghyflenwr ynni?

Rhaid i chi roi gwybod i’ch Gweithredwr Rhwydwaith Dosbarthu (DNO) o fewn 28 diwrnod i gysylltu’r system. Dylid cael rhagor o arweiniad a gwybodaeth gan y DNO perthnasol.

Eich Gweithredwr Rhwydwaith Ardal (DNO) yw’r cwmni sy’n gyfrifol am y ceblau trydan yn eich ardal. Nid y cwmni sy’n anfon eich bil ynni atoch.

Gallwch chi chwilio am eich DNO lleol drwy ddefnyddio gwiriwr cod post y National Grid.

Dylai’r cyfarwyddiadau a roddir gyda system gymeradwy hefyd egluro pa wybodaeth y mae angen i chi ei darparu.

Ydy rhentwyr yn cael defnyddio paneli solar plygio i mewn?

Ydyn, o bosibl.

Gan nad oes angen gosod paneli solar plygio i mewn yn barhaol ar eiddo bob amser, efallai y byddan nhw’n cynnig ffordd i rai rhentwyr wneud trydan glân gartref.

Fodd bynnag, efallai y bydd angen i chi gael caniatâd eich landlord, cymdeithas dai, rhydd-ddeiliad neu berchennog yr adeilad.

Hefyd, bydd angen y canlynol:

  • Lle addas yn yr awyr agored

  • Ffordd ddiogel o osod y paneli

  • Mynediad at soced addas

  • Gwifrau trydanol sy’n ddiogel i’w defnyddio gyda’r system

Gwiriwch eich cytundeb tenantiaeth a gofynnwch am ganiatâd (e.e. gan eich landlord, cymdeithas dai, rhydd-ddeiliad neu berchennog yr adeilad) cyn prynu neu osod unrhyw beth.

Ydy hi'n werth prynu paneli solar plygio i mewn?

Efallai y byddai’n werth eu hystyried os yw’r canlynol yn wir:

  • Does dim modd gosod paneli solar traddodiadol ar y to

  • Rydych chi eisiau ffordd ratach o wneud trydan yn y cartref

  • Mae gennych ardd heulog, patio neu falconi addas

  • Rydych chi’n defnyddio trydan yn ystod y dydd

  • Rydych chi eisiau system y gellir ei symud i eiddo arall

  • Rydych chi’n deall y bydd yr arbedion yn gymharol fach

Efallai y byddan nhw’n llai addas os yw’r canlynol yn wir:

  • Mae llawer o gysgod dros eich ardal awyr agored

  • Ychydig iawn o drydan rydych chi’n ei ddefnyddio yn ystod y dydd

  • Mae angen gwneud llawer o waith ar wifrau eich cartref

  • Does dim modd i chi osod y paneli’n ddiogel

  • Dydych chi ddim wedi cael caniatâd i’w gosod (e.e. gan eich landlord, cymdeithas dai, rhydd-ddeiliad, perchennog adeilad neu awdurdod cynllunio neu reoli adeiladu lleol, lle bo hynny’n berthnasol)

Ni fydd paneli solar plygio i mewn yn pweru eich cartref cyfan nac yn cael gwared ar eich bil trydan. Ond i rai cartrefi, gallen nhw ddarparu cam cyntaf mwy fforddiadwy tuag at ynni solar.

I gael rhagor o wybodaeth am baneli solar plygio i mewn, edrychwch ar gyngor yr Energy Saving Trust ynghylch beth i'w wirio cyn prynu. Gallwch hefyd ddod o hyd i fanylebau cynnyrch Llywodraeth y DU ar gyfer dyfeisiau solar plygio i mewn yma.

Cwestiynau cyffredin am baneli solar

Ydy paneli solar plygio i mewn yn gweithio yng Nghymru yn ystod y gaeaf?

Ydyn. Mae paneli solar yn defnyddio golau dydd, nid gwres, i gynhyrchu trydan.

Maen nhw’n dal yn gallu cynhyrchu trydan ar ddiwrnodau oer neu gymylog. Fodd bynnag, byddan nhw fel arfer yn cynhyrchu llai yn ystod y gaeaf oherwydd bod llai o oriau golau dydd a bod yr haul yn is yn yr awyr.

Bydd lle clir sy’n wynebu’r de a ddim yn y cysgod yn helpu’r paneli i gynhyrchu cymaint o drydan â phosibl drwy gydol y flwyddyn.

Fyddan nhw’n gweithio yn ystod toriad yn y pŵer?

Na fyddan.

Mae systemau solar plygio i mewn cymeradwy wedi’u dylunio i ddiffodd yn awtomatig yn ystod toriad pŵer. Mae hyn yn diogelu peirianwyr a allai fod yn gweithio ar y rhwydwaith trydan.

Ni ddylid trin y systemau safonol sy’n dod o dan y rheolau newydd fel cyflenwad trydan wrth gefn.

I gael rhagor o gymorth neu gyngor ffoniwch

0300 0604400

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol