Climate Action Wales Logo

Cyhoeddi yn gyntaf: 14 Ionawr 2026 -

Wedi diweddaru: 14 Ionawr 2026 -

Paneli solar

Mae paneli solar ar y to yn cynhyrchu trydan glân, fforddiadwy i'ch cartref, gan helpu i leihau eich biliau ynni a'ch ôl troed carbon.

Mae costau gosod bellach yn is nag erioed, ac mae solar yn gweithio'n ddi-dor gyda thechnolegau clyfar eraill fel batris yn y cartref a phympiau gwres.

Mae dros 1.4 miliwn o gartrefi ledled y DU eisoes yn defnyddio ynni solar - ac mae'r nifer hwnnw'n dal i dyfu bob blwyddyn.

Pam cael paneli solar?

Coin icon

Gostwng eich biliau

Gostwng eich costau ynni blynyddol - mae aelwydydd yn arbed dros £500 y flwyddyn ar gyfartaledd.

tick icon

Ennill arian o bŵer dros ben

Gallwch werthu unrhyw drydan nad ydych chi'n ei ddefnyddio yn ôl i'r grid a chael eich talu am yr hyn rydych chi'n ei gynhyrchu.

Charging icon

Pweru eich technoleg arall

Cewch hyd yn oed mwy o arbedion pan fyddwch yn cyfuno solar gyda batri yn y cartref, pwmp gwres neu gerbyd trydan.

Energy bolt icon

Lleihau eich ôl troed carbon

Defnyddio ynni adnewyddadwy o'r haul i leihau eich allyriadau.

compost icon

Bod yn fwy hunangynhaliol

Gallwch olrhain a rheoli eich ynni'n hawdd gydag apiau clyfar, amseryddion a thariffau hyblyg.

buildings icon

Cynyddu gwerth eich cartref

Mae gwella eich sgôr Tystysgrif Perfformiad Ynni yn gwneud eich cartref yn fwy deniadol i brynwyr y dyfodol.

A yw paneli solar yn iawn i chi?

Mae paneli solar yn gweithio orau ar doeau sy'n wynebu'r de lle nad oes cysgod coed neu adeiladau cyfagos arnynt. Gall toeau sy'n wynebu'r dwyrain a'r gorllewin hefyd fod yn effeithiol, a gall systemau gyda 'optimeiddiwyr' helpu i leihau effaith unrhyw gysgod.

Gwirio potensial eich cartref

Defnyddiwch Asesiad Ynni Cartref y Llywodraeth i weld a yw paneli solar - neu welliannau arbed ynni eraill - yn addas i'ch eiddo chi.

Cymorth ariannol

Edrychwch ar ein tudalen cymorth ariannol i wybod a allech fod yn gymwys i gael gwelliannau ynni cartref am ddim neu ffynonellau eraill o gymorth.

Gall Gwasanaeth Cynllunio Ynni Cartref Which? hefyd greu cynllun personol am ddim ar gyfer eich cartref i wella effeithlonrwydd ynni, darparu amcangyfrif o’r costau a ffyrdd o leihau eich biliau ynni.

Paneli solar: Beth ddylwn i ei wybod?

tools icon

Caniatâd cynllunio

Ni fydd angen caniatâd cynllunio ar y rhan fwyaf o gartrefi i ychwanegu paneli solar, ond mae'n werth gwirio gyda'ch awdurdod cynllunio lleol cyn i chi ddechrau.

tick icon

Cofrestru eich system

Rhaid i bob system paneli solar fod wedi'i gofrestru gyda'ch Gweithredwr Rhwydwaith Dosbarthu lleol. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd eich gosodwr yn gwneud hyn ar eich rhan.

Mwy o wybodaeth

Mae canllawiau a chyfrifiannell solar yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni yn darparu cyngor defnyddiol ar gostau, perfformiad, ac arbedion disgwyliedig.

Os ydych chi'n byw mewn adeilad hŷn, efallai y bydd angen cryfhau adeiladwaith eich to cyn gosod paneli solar. Ceir mwy o wybodaeth am osod paneli solar, yn ogystal â systemau ynni adnewyddadwy eraill, yn y canllaw hwn gan Cadw. 

I gael rhagor o gymorth neu gyngor ffoniwch

0300 0604400

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol