Cyhoeddi yn gyntaf: 27 Ionawr 2026 -
Wedi diweddaru: 27 Ionawr 2026 -
Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol
Biliau rhatach, cartrefi gwyrddach: sut mae Nyth yn cadw Cymru’n glyd
Mae cynllun gwelliannau i ynni’r cartref am ddim yn helpu miloedd o aelwydydd - gan ostwng biliau, mynd i’r afael â thlodi tanwydd a lleihau allyriadau.
:fill(fff))
Ni ddylai fod yn rhaid i neb yng Nghymru fyw mewn cartref oer. Ond â chostau byw yn cynyddu, mae rhai aelwydydd yn ei chael yn anodd talu eu biliau gwres.
Mae cynllun Nyth wedi ymrwymo i wneud cartrefi yn fwy effeithlon o ran ynni, gan helpu i ostwng costau. Yn ogystal â rhoi cyngor ar ynni i unrhyw un sydd ei angen, gall drefnu gwelliannau i gartrefi fel gwell insiwleiddio, boeler newydd neu baneli solar ar y to – am ddim i’r rhai sydd eu hangen fwyaf.
Ers 2011, mae’r rhaglen wedi uwchraddio mwy na 60,000 o gartrefi yng Nghymru. Mae ar gael i berchnogion cartrefi a thenantiaid preifat, cyn belled â’u bod ar incwm isel neu’n derbyn budd-dal sy’n dibynnu ar brawf modd. Mae cartrefi yn gymwys i gael eu gwella os oes ganddynt sgôr perfformiad ynni gwael, neu o leiaf un preswylydd â chyflwr iechyd cronig.
Yn ôl yn y cynhesrwydd
Er y gall unrhyw un wneud cais i Nyth am gymorth, mae hefyd yn gweithio gyda phartneriaid yr ymddiriedir ynddynt. Mewn sefyllfa o argyfwng, gallant symud yn gyflym – fel pan fydd rhywun yn cael ei adael heb wres a dŵr poeth.
Elusen sy’n helpu pobl hŷn i barhau i fyw’n annibynnol gartref yw Care & Repair Cymru. Pan dynnwyd ei sylw at ŵr 82 oed o Sir Benfro a adawyd heb wres ar ôl i’w foeler dorri, anfonwyd peiriannydd i’w gartref o fewn oriau. A diolch i Nyth, roedd boeler newydd effeithlon wedi’i osod ac yn weithredol yn y tŷ o fewn tri diwrnod.
Meddai Iwan Davies, swyddog ynni cartref yn Care & Repair Gorllewin Cymru: “Mae’r cwsmer yn byw ar ei ben ei hun, mae ganddo gyflyrau iechyd cymhleth, ac mae ar incwm isel – nid oedd yn gallu talu am blymer. Roedd wedi bod heb ddŵr poeth am bron i fis.
“Cysylltodd ei ferch â ni, ac fe wnaethom ni atgyfeiriad argyfwng i Nyth. Fe wnaeth y peiriannydd asesu ar unwaith bod angen boeler newydd. Gallai ddisodli’r model 14 oed a oedd wedi torri gyda boeler combi categori A newydd wedyn.”
“Roedd cyflymder y gwaith gosod yn golygu bod y cleient heb wres ar y dydd Gwener ond â chartref cynnes erbyn y dydd Llun.”
Iwan Davies, Care & Repair
Yn ogystal â darparu cartref clyd, cafodd y system wresogi newydd effaith fawr ar ansawdd bywyd deiliad y tŷ. Meddai Iwan: “Mae ganddo broblemau symud sylweddol, felly nid yw’n gallu cyrraedd yr ystafelloedd i fyny’r grisiau yn ei dŷ - a dyma’r unig fan lle gellid gosod boeler.
“Gyda’r un newydd, mae ganddo reolydd pell ar gyfer y thermostat, a gall weithredu’r gwres o’r llawr isaf. Mae ganddo reolaeth bellach dros ei wres a pha mor gynnes y mae eisiau ei gartref. Cyn hynny, roedd yn rhaid iddo ffonio ei ferch a gofyn iddi ddod draw os oedd eisiau gwres am awr neu ddwy.”
Gwres o’r haul
Bythefnos ar ôl gosod y boeler, ail-ymwelodd beiriannydd Nyth i gynnal asesiad ynni llawn. Dangosodd hwn ei fod yn gymwys i gael mwy o welliannau am ddim. Yn fuan wedyn, trefnodd Nyth i baneli solar gael eu gosod ar y to, wedi’u cysylltu â batri storio yng nghefn y tŷ.
Meddai: “Mae’r paneli solar a’r batri eisoes wedi fy helpu i arbed arian ar fy miliau. Mae’n anhygoel yr hyn sydd wedi cael ei wneud, a’r cwbl o fewn mis o ffonio Nyth. Mae wedi newid fy mywyd. Ni fyddwn i byth wedi gallu fforddio popeth sydd wedi cael ei roi i mewn.”
Bydd y gwelliannau yn arbed cyfanswm o £825 y flwyddyn ar filiau ynni’r aelwyd, yn ôl amcangyfrif yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni. Bydd effeithlonrwydd y boeler newydd, yn ogystal ag ychwanegu pŵer solar at gymysgedd ynni’r aelwyd, hefyd yn lleihau’r allyriadau carbon sy’n gysylltiedig â gwresogi’r tŷ.
Gyda degau o filoedd o gartref wedi’u cynorthwyo eisoes, a phwyslais ar dechnolegau carbon isel, mae Nyth yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o drechu tlodi tanwydd a gwella iechyd a llesiant pobl. A drwy’r amser, mae’n helpu Cymru i gyflawni ei huchelgais o gyrraedd sero net erbyn 2050.
Rhagor o wybodaeth
Gall unrhyw un yng Nghymru ffonio Nyth am gyngor diduedd ar arbed ynni ac arian. Gallwch ffonio am ddim ar 0808 808 2244 (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 6pm) neu wneud cais am alwad yn ôl gan un o gynghorwyr arbenigol Nyth.
Gallant gynnig cyngor ar ddod o hyd i’r tariff ynni a dŵr gorau ar gyfer eich cartref, ar osod eich technoleg effeithlon o ran ynni eich hun, ac ar lawer o ffyrdd eraill i roi hwb i incwm eich aelwyd tra’n lleihau eich ôl-troed carbon.
Ceir gwybodaeth ar-lein am ba aelwydydd sy’n gymwys i gael gwelliannau effeithlonrwydd ynni am ddim yn y cartref gan Nyth.
Hyd yn oed os nad ydych yn gymwys, efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer rhaglenni eraill fel Cartrefi Gwyrdd Cymru, Cynllun Inswleiddio Prydain Fawr, Connected for Warmth a’r Cynllun Uwchraddio Boeleri. Bydd cynghorwyr Nyth yn hapus i’ch helpu i ddod o hyd i’r cynllun iawn ar gyfer eich anghenion.
:fill(transparent))