Cyhoeddi yn gyntaf: 02/06/2025 -
Wedi diweddaru: 02/06/2025 -
Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol
Yr ysgol yng Nghaerdydd sy’n gadael y car adre
Bob bore, mae 9 o bob 10 plentyn yn Ysgol Gynradd Howardian yn cyrraedd ar droed, ar feic neu ar sgwter. Dyma sut gyflawnon nhw’r newid.
:fill(fff))
Yn 2018, pan ddechreuodd Ysgol Gynradd Howardian annog pobl i deithio’n ddi-gar yn ôl ac ymlaen o’r ysgol, dim ond 58% o’r disgyblion oedd yn cerdded, olwyno neu’n seiclo yno. Heddiw, mae’n ganran wedi cynyddu i 90%.
Fe sicrhaodd yr ysgol o ardal Penylan fod y newid mor rhwydd â phosib i bawb. Drwy weithio gyda thîm Teithio Llesol Ysgolion Cyngor Caerdydd, sefydlwyd clybiau seiclo a sesiynau hyfforddi, gan hefyd gynnal digwyddiadau teithio er mwyn cynnwys disgyblion o’r Dosbarth derbyn i flwyddyn 6.
Hyd fideo:
1 minute 9 seconds
Mae dewis teithio llesol wedi gwella lles disgyblion a hefyd yr amgylchedd. Meddai’r pennaeth, Helen Hoyle: “Os ydy pobl yn cerdded, sgwtio neu seiclo i’r ysgol, neu’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, maen nhw’n cyfrannu at leihau allyriadau ac yn gwneud ein hamgylchedd yn fwy diogel gan fod llai o geir ar y lôn.”
Mae gweithgareddau corfforol hefyd yn lleihau straen a gorbryder, ac yn gwneud i blant deimlo’n hapusach yn yr ysgol, ac maen nhw’n profi mwy o lwyddiant academaidd ac yn gymdeithasol.”
“O’r foment gyntaf pan agoron ni ein drysau yn 2015, roedden ni’n gwybod ein bod ni eisiau bod yn ysgol deithio lesol. Fe gydweithion ni gyda Chyngor Caerdydd er mwyn gosod cynllun teithio llesol yn ei le, gan osod nod i ysbrydoli a chefnogi ein disgyblion a’u teuluoedd wrth deithio’n llesol i’r ysgol”
Helen Thomas, arweinydd teithio llesol
Un fenter sydd wedi bod yn hynod lwyddiannus ydy cynllun Traciwr Teithio Wow. Mae hyn yn cynnal diddordeb plant drwy eu gwobrwyo gyda bathodynnau am gerdded, seiclo a sgwtio yn gyson i’r ysgol. Mae’r cynllun yn cael ei ariannu gan Gyngor Caerdydd a’i gefnogi gan ‘LivingStreets’, elusen Brydeinig sy’n hybu cerdded fel y dewis naturiol i deithio’n lleol.
Meddai Helen Thomas, arweinydd teithio’n llesol yr ysgol: “Mae’r Traciwr Teithio Wow wedi bod yn wych. Mae’n helpu i feithrin teimlad o gyflawni. Mae ar gyfer pob disgybl, beth bynnag y bo eu dull o deithio – o deithiau cadair olwyn i ‘barcio a cherdded’, lle mae disgyblion yn teithio rhan o’r ffordd i’r ysgol mewn car, ac yna’n parcio’n bellach i ffwrdd gan gwblhau’r daith ar droed.”
Gwneud trafnidiaeth ysgolion yn fwy cynaliadwy
Mae tynnu’r gymuned gyfan yn yr ysgol i mewn wedi bod yn hanfodol. Mae Ysgol Gynradd Howardian yn cyfathrebu’n gyson gyda rhieni drwy’r cylchlythyr ac ar gyfryngau cymdeithasol. Mae hyn yn cynnwys eu diweddaru gyda gwybodaeth am ddigwyddiadau, cystadlaethau a llwyddiannau disgyblion.
Pan fydd disgyblion yn dechrau gyda ni ar eu taith drwy’r ysgol, rydyn ni’n eu hannog i deithio’n llesol am ddiwrnod neu ddau bob wythnos, gan ymdrechu i gynyddu hynny i deithio’n llesol bob dydd,” meddai Helen Thomas. “Rydyn ni’n rhoi digon o wybodaeth i rieni a gwarchodwyr er mwyn eu cynorthwyo gyda hyn, pethau fel mapiau sy’n clustnodi ardaloedd ‘parcio a cherdded’ arnyn nhw.”
Mae teuluoedd yn gallu mynychu digwyddiadau ar ôl ysgol, sy’n cynnwys sesiynau lle mae beiciau’n cael eu trwsio yn rhad ac am ddim. “Yn ogystal ag annog teuluoedd i ymuno yn nheithiau llesol eu plant i’r ysgol, rydyn ni hefyd eisiau iddyn nhw fagu hyder wrth deithio”, meddai Helen Thomas.
Dydy ymroddiad Ysgol Gynradd Howardian i deithio’n llesol ddim yn dod i stop wrth gatiau’r ysgol. Mae’r ysgol yn gweithio gyda Chyngor Caerdydd ac ysgolion eraill yn yr ardal, gan rannu adnoddau ac arferion da.
Mae hybu trafnidiaeth gynaliadwy yn rhan allweddol o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i daclo newid hinsawdd. Mae’n gweithio’n ddiflino i alluogi mwy o gerdded, teithio ar olwynion a seiclo, yn enwedig ymysg ysgolion ac yn cefnogi cynghorau sir i wella llwybrau a chyfleusterau ledled Cymru.
Eisiau troi dy ysgol i fod yn bencampwr teithio llesol?
Gallwn ni gyd helpu i greu Cymru sy’n fwy cynaliadwy. Dysga fwy am gynlluniau ysgolion teithio llesol Sustrans ac ymuna â’r ymdrech i greu teithiau gwyrddach ac iachach i’r ysgol.