Cyhoeddi yn gyntaf: 22 Ionawr 2026 -
Wedi diweddaru: 23 Ionawr 2026 -
Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol
Canllaw Autotrader i brynu car trydan wedi'i ddefnyddio
Mae ceir trydan wedi bod o gwmpas ers blynyddoedd bellach, ac felly mae yna lawer o fathau a modelau wedi'u defnyddio ar gael am bris da. Yn wir, mae dau o bob pump cerbyd trydan ail-law o dan £20,000.
Gall car trydan ail-law fod yn opsiwn da, ond mae'n helpu i ddeall sut maen nhw'n gweithio a beth i gadw llygad amdano. Bydd y canllaw hwn yn eich tywys trwy hyn.
:fill(fff))
Pam mae rhai pobl yn dewis car trydan wedi'i ddefnyddio
Mae sawl rheswm pam mae ceir trydan wedi'u defnyddio yn dod yn fwy cyffredin.
Mwy o gyflenwad
Wrth i bobl newid eu ceir trydan presennol am rai mwy newydd, mae'r cyflenwad o geir ail-law yn cynyddu.
Gallant gostio llai i'w rhedeg
Gall trydan fod yn rhatach na phetrol, yn enwedig os gallwch chi wefru gartref. Mae gan lawer o geir trydan lai o rannau sy’n symud hefyd, sy’n gallu golygu llai o atgyweiriadau a llai o waith cynnal a chadw rheolaidd.
Mae'r batris yn para'n hirach nag y mae llawer o bobl yn meddwl
Mae ymchwil yn dangos bod batris ceir trydan yn colli bron dim pŵer fesul blwyddyn. Mae llawer ohonyn nhw wedi'u hadeiladu i bara 10 i 15 mlynedd, rhai hyd yn oed yn para’n hirach. Fel gyda cheir petrol a diesel, mae traul yn amrywio gyda defnydd a chynnal a chadw a gall effeithio ar berfformiad y batri dros amser.
Mae nifer y milltiroedd yn aml yn addas i fywyd go iawn
Mae'r rhan fwyaf o geir trydan wedi’u defnyddio yn gallu teithio yn ddigon pell ar ôl eu gwefru unwaith i wneud y daith gyfartalog yng Nghymru, sy'n tueddu i fod yn wyth neu naw milltir. Dim ond yn wythnosol neu bob pythefnos y bydd angen i lawer o yrwyr, sydd ond yn gyrru ychydig o filltiroedd, wefru eu ceir. Os ydych chi'n gyrru'n lleol yn bennaf, efallai y bydd car trydan wedi'i ddefnyddio yn diwallu eich anghenion heb unrhyw drafferth.
Pethau i’w hystyried cyn prynu car trydan wedi'i ddefnyddio
Dyma gwestiynau syml i'ch helpu i benderfynu a allai car trydan wedi'i ddefnyddio fod yn iawn i chi.
Pa mor bell ydych chi'n gyrru bob wythnos?
Os yw'ch teithiau'n fyr, bydd nifer milltiroedd y rhan fwyaf o geir trydan wedi eu defnyddio yn ddigon. Os ydych chi'n gwneud teithiau hir yn aml, gwiriwch nifer milltiroedd y car i wneud yn siŵr y bydd yn gallu ymdopi â'r pellter neu os na, meddyliwch am ble y gallech wefru ar y ffordd.
Ble fyddwch chi'n ei wefru?
Os gallwch chi wefru gartref, mae'n debygol y bydd o fudd i chi fod ar y tariffau rhataf ac arbed y mwyaf o arian. Os na, chwiliwch am wefrwyr cyhoeddus yn eich ardal. Mae bron i 4,000 o wefrwyr ledled Cymru erbyn hyn, ac mae mwy o wefrwyr yn cael eu hychwanegu bob blwyddyn, ond gall argaeledd amrywio yn ôl ardal.
A fyddwch chi'n gallu gwefru'n hawdd ar wefrwyr cyhoeddus?
Mae rhai ceir trydan llawer hŷn yn defnyddio math o borth gwefru sy'n dod yn llai cyffredin. Gwiriwch hyn cyn prynu fel eich bod chi'n gwybod ble gallwch chi wefru.
Deall iechyd y batri
Y batri yw calon car trydan. Dyma beth ddylech chi ei wybod:
Mae batris wedi'u hadeiladu i bara llawer o flynyddoedd.
Mae llawer o frandiau yn cynnig gwarantau hir ar y batri yn unig.
Gallwch wirio iechyd y batri gyda thaith brawf fer.
Mae gan rai gwneuthurwyr apiau neu declynnau sy'n dangos cyflwr y batri.
Gall batri sy'n disgyn o dan tua 85% o ran iechyd olygu y bydd yn gallu gwneud llai o filltiroedd.
Nid oes angen i chi fod yn arbenigwr. Gofynnwch i'r gwerthwr am wybodaeth a chymerwch eich amser i ddeall beth all y car ei wneud.
:fill(fff))
Gwefru eich car trydan wedi’i ddefnyddio yng Nghymru
Mae sawl ffordd o wefru'ch car.
Gwefru gartref
Dyma'r opsiwn hawsaf. Byddwch yn plygio i mewn dros nos, a bydd y car yn barod yn y bore. Mae gwefru gartref fel arfer yn rhatach na defnyddio gwefrwyr cyhoeddus. Os ydych chi'n rhentu eiddo, byddai angen caniatâd y landlord arnoch i osod gwefrydd.
Gwefru cyhoeddus
Mae gan Gymru rwydwaith cynyddol o wefrwyr cyhoeddus a all fod yn arbennig o ddefnyddiol ar deithiau hir neu os na allwch wefru gartref. Cymru sydd â'r trydydd nifer uchaf o bwyntiau gwefru fesul poblogaeth yn y DU y tu allan i Lundain. Mae llawer ohonyn nhw wedi'u lleoli lle bydd pobl yn torri siwrnai beth bynnag - mewn meysydd parcio, ardaloedd preswyl, neu ger siopau bwyd ar briffyrdd.
Gwefrwyr chwim a chwim iawn
Gall y rhain ychwanegu llawer o filltiroedd mewn amser byr, ond byddwch yn talu mwy am hyn. Maent yn ddefnyddiol ar gyfer teithiau ledled Cymru, er enghraifft o Gaerdydd i Aberystwyth neu o Landudno i Gasnewydd. Yng Nghymru, mae 20% o’r gwefrwyr yn 50kW neu fwy.
Costau rhedeg car trydan wedi'i ddefnyddio
Trydan
Gall gwefru gartref fod yn llawer rhatach na phrynu petrol neu diesel. Mae gwefru chwim cyhoeddus yn costio mwy ond gallech fod ar eich hennill o hyd.
Cynnal a chadw
Mae gan geir trydan lai o rannau sy'n treulio. Gall hynny olygu llai o angen i newid yr olew, llai o rannau sy’n symud, a llai o angen am rannau newydd.
Atgyweiriadau
Er y gall gwasanaethu’r car fod yn rhatach, gall atgyweiriadau sy'n ymwneud â'r batri neu'r systemau trydanol gostio mwy. Mae gwirio hanes y car yn eich helpu i osgoi’r annisgwyl.
Treth
Ers mis Ebrill 2025, mae'n rhaid i geir trydan yn y DU dalu Treth Car (treth ffordd). Bydd cerbydau trydan newydd yn talu cyfradd fach yn y flwyddyn gyntaf (tua £10) ac yna'r gyfradd safonol (tua £195 y flwyddyn). Bydd cerbydau sydd â phris rhestr dros £50,000 hefyd yn ysgwyddo’r Atodiad Ceir Drud, sydd tua £425 y flwyddyn yn ychwanegol, am hyd at bum mlynedd.
Beth i'w wirio cyn prynu
Mae prynu car trydan wedi'i ddefnyddio yn debyg i brynu unrhyw gar wedi’i ddefnyddio. Gwnewch yn siŵr eich bod yn:
Gwirio’r llyfr log V5C a hanes gwasanaethu’r car
Edrych ar y corff, y teiars, y brêcs a’r olwynion
Profi’r sgriniau, botymau, goleuadau a rhannau trydanol
Gwneud yn siŵr bod y ceblau gwefru wedi'u cynnwys
Chwilio am unrhyw ddifrod i'r porth gwefru
Mynd ar daith brawf a gwrando am synau rhyfedd (mae ceir trydan yn dawel, felly mae synau'n amlwg).
Cymerwch eich amser a pheidiwch â rhuthro'r penderfyniad.
Pryd allai fod yn amser da i brynu?
Gall prisiau ceir trydan wedi’u defnyddio godi neu ostwng trwy gydol y flwyddyn. Mae prisiau weithiau'n gostwng pan fydd modelau newydd yn cael eu cyflwyno, neu pan fydd mwy o geir trydan wedi'u defnyddio yn dod i'r farchnad. Os nad ydych ar frys, gall cadw llygad ar brisiau eich helpu i gael bargen well.
Gall car trydan wedi'i ddefnyddio fod yn ddewis da i lawer o bobl yng Nghymru, yn enwedig os ydych chi'n gallu gwneud y rhan fwyaf neu eich holl wefru gartref a’ch bod eisiau arbed arian ar danwydd. Mae'r batris yn para'n hirach nag y byddech chi'n ei ddisgwyl, a gall costau rhedeg y car fod yn isel. Ond mae'n bwysig gwirio'r batri, deall sut a ble y byddwch chi'n gwefru, a gwneud yn siŵr bod y car yn bodloni'ch gofynion o ran eich ffordd o fyw.
Cymerwch eich amser, gofynnwch gwestiynau, a dewiswch gar sy'n teimlo'n iawn i chi. Gallai car trydan wedi’i ddefnyddio fod yn gam clyfar, syml i yrru glanach, rhatach, tawelach a mwy pleserus.
I wybod mwy
Ar goll mewn jargon EV? Mae geiriadur EV Autotrader yn esbonio'r termau allweddol y mae angen i chi deall ar gerbydau trydan.
Wedyn, beth am ddarganfod pam wnaeth Gwenllian a Dave newid i gerbydau trydan.
:fill(transparent))
:fill(transparent))