Climate Action Wales Logo

Cyhoeddi yn gyntaf: 21 Chwefror 2024 -

Wedi diweddaru: 23 Ionawr 2026 -

Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol

Beth am gael cerbyd trydan?

Mae mwy a mwy o yrwyr yn dewis cerbyd trydan wrth i'r DU baratoi i roi diwedd ar werthu ceir petrol a diesel newydd erbyn 2030. P'un a ydych chi newydd ddechrau ar eich taith cerbyd trydan neu'n barod i uwchraddio, mae'n amser gwych i weld beth sydd ar gael.

Ymunwch â'r nifer sydd wedi mynd amdani - mae dros 90% yn dweud na fyddent yn newid yn ôl.

A man stood next to an electric vehicle that's plugged in to charge

Pam dewis trydan?

Mae newid i gerbyd trydan yn haws nag erioed - ac mae llawer o fanteision gwirioneddol i'ch poced, eich profiad gyrru, a'r amgylchedd. Mae dros 140 o fodelau ar gael bellach a mwy o bwyntiau gwefru yn ymddangos ledled y DU, felly ni fu erioed amser gwell i newid i drydan.

Coin icon

Rhatach i'w redeg

Gall gwefru gartref gostio cyn lleied â 2c y filltir, o'i gymharu â thua 18c ar gyfer petrol. Hefyd, mae gan gerbydau trydan llai o rannau sy’n symud, sy'n golygu costau gwasanaethu a chynnal a chadw is fel arfer.

Dewisiadau mwy fforddiadwy

Mae ceir trydan yn dod yn rhatach bob blwyddyn. Mae modelau newydd yn dechrau o dan £25,000 - a rhai o dan £16,000 - a gellir dod o hyd i gerbydau trydan sydd wedi'u defnyddio am lai na £5,000. Ychwanegwch grant newydd y llywodraeth ac arbedion posibl o gynlluniau aberthu cyflog, a gall y newid gostio llawer llai nag y byddech chi’n meddwl.

Cleaner driving icon

Profiad gwych, bob dydd

Mae cerbydau trydan yn cyflymu ar unwaith ac yn rhoi perfformiad llyfn a thawel. Maen nhw wedi'u cynllunio i fod yn ymatebol, yn gyfforddus ac yn bleserus ar bob taith.

Emissions cloud icon

Gwell i'r amgylchedd

Er bod y broses o’u cynhyrchu yn gadael ôl troed carbon, mae cyfanswm allyriadau cylch bywyd cerbydau hybrid a thrydan hyd at 89% yn llai o'i gymharu â cherbydau injan hylosgi mewnol. A gan nad oed allyriadau egsôst, maen nhw’n helpu i wella ansawdd yr aer yn eich ardal leol.

Milltiroedd sy'n addas i'ch ffordd chi o fyw

Mae'r rhan fwyaf o gerbydau newydd bellach yn cynnig 250-300 milltir o deithio - bron i bythefnos o yrru i fodurwr cyffredin y DU. Gall rhai modelau deithio mwy na 400 milltir ar ôl ei wefru.

Batri fydd yn para

Mae batris cerbydau trydan wedi'u cynllunio ar gyfer defnydd hirdymor, gydag gwarant o 8 mlynedd o leiaf. Mae'r rhan fwyaf yn dal i gadw 80-90% o'u capasiti ymhell ar ôl hynny, gan roi hyder i chi am y blynyddoedd i ddod.

Cleaner driving icon

Mae milltiroedd cerbydau trydan yn aros yn gyson hyd yn oed yn y gaeaf

Mae cerbydau diesel, petrol a thrydan yn colli milltiroedd yn yr oerfel, ond gall nodweddion clyfar ac arferion leihau'r effaith ar gerbydau trydan. Bydd dadmer eich cerbyd trydan tra ei fod wedi'i blygio i mewn i'r gwefrydd yn defnyddio trydan o’r prif gyflenwad, nid eich batri. Mae gwresogi'r seddi a'r olwyn lywio yn hytrach na'r caban i gyd hefyd yn fwy effeithlon o ran ynni - yn enwedig os oes gan eich cerbyd bwmp gwres.

Beth allai gyrru cerbyd trydan ei arbed i chi?

Edrychwch ar y rhifau drosoch eich hun, fe gewch amcangyfrif cyflym yn seiliedig ar eich teithiau a'ch costau ynni.

Sut mae gwefru cerbydau trydan?

Mae'n syml, yn glyfar ac yn fwy cyfleus nag y byddech chi'n meddwl.

Gwefru gartref

Gall perchnogion cerbydau trydan arbed hyd at £1,400 y flwyddyn mewn costau rhedeg a chynnal a chadw o'i gymharu â char petrol neu diesel. Plygiwch i mewn dros nos a deffro i fatri llawn. Mae'r rhan fwyaf o gerbydau trydan wedi gwefru’n llawn mewn tua 6-10 awr wrth wefru gartref.

Charging icon

Gwefru clyfar

Defnyddiwch dechnoleg gwefru clyfar i wefru'n awtomatig yn ystod oriau tawel - sydd tua 2c y filltir.

Gwefru cyhoeddus

Gwefrwch ar y ffordd gan ddefnyddio un o'r 82,000+ o bwyntiau gwefru cyhoeddus ledled y DU. Gall gwefrwyr cyflym iawn ychwanegu tua 150 milltir mewn cyn lleied â 15 munud.

Straeon am gerbydau trydan

I gael rhagor o gymorth neu gyngor ffoniwch

0300 0604400

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol