Cyhoeddi yn gyntaf: 23/07/2025 -

Wedi diweddaru: 24/07/2025 -

Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol

Mae Dragon Group yn gweithredu ar newid hinsawdd: dyma sut y gall eich busnes chi wneud hynny hefyd

Eisteddodd Alex Cuthbert, cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru, i lawr gyda ni i esbonio sut mae ei fusnes ef yn cymryd cynaliadwyedd o ddifrif, o newid i oleuadau LED i ddefnyddio deunyddiau ailgylchadwy. 

A man sitting at a table, smiling

Pan rydym yn meddwl am y camau gweithredu bob dydd sy’n helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd, rydym yn aml yn meddwl am yr hyn y gall pobl a theuluoedd ei wneud – ond mae gan fusnesau ran fawr i’w chwarae hefyd.  

Un enghraifft yw Dragon Group, cwmni balch o Gymru sy’n cynnwys sawl busnes gan gynnwys Dragon Signs, Route Media, Sportin Wales, a BusinessIn Wales. 

Wedi’i sefydlu ar y cyd gan gyn-chwaraewr rhyngwladol Cymru, Alex Cuthbert, mae’r cwmni’n blaenoriaethu dewisiadau gwyrdd ac arferion busnes sy’n ystyriol o’r amgylchedd. 

Mae gan bob busnes yng Nghymru gyfrifoldeb cymdeithasol i gymryd camau i helpu’r hinsawdd, gan gynnwys mabwysiadu arferion busnes cynaliadwy. Mae llawer o fusnesau hefyd yn gallu ein helpu ni i wneud dewisiadau gwyrddach yn ein bywydau bob dydd.  

Mae cynaliadwyedd yn Dragon Group yn ymwneud â mwy na bod yn ystyriol o’r amgylchedd yn unig. Yr hyn sydd ei angen er mwyn helpu i leddfu’r argyfwng hinsawdd yw newid mewn meddylfryd. 

Meddai Alex: “Erbyn hyn, mae’r cwmni yn ystyried yr effaith amgylcheddol ym mhob tasg rydyn ni’n ei wneud: sut rydyn ni’n prynu ein cynnyrch, ein cadwyn gyflenwi, monitro a datblygu ein harferion, masnachu’n gynaliadwy, ein moeseg a chydraddoldeb, ac addysgu pawb am hyn ledled y Grŵp, o’n staff i’n cleientiaid a’n cynulleidfa. 

“Yn Sportin a BusinessIn Wales, rydyn ni’n gwneud yn siŵr bod ein cylchgrawn misol yn cael ei argraffu ar bapur sydd wedi dod o goedwigoedd sy’n cael eu cyrchu a’u rheoli’n gynaliadwy. 

“Mewn cydweithrediad â’n hargraffwyr, Stephens & George Print Group, rydyn ni’n falch o ddweud bod ein holl argraffiadau wedi’u hardystio gan PEFC, sy’n ardystiad coedwigoedd sy’n cael ei gydnabod yn fyd-eang ac sy’n helpu i hyrwyddo rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy.” 

Mae goleuadau yn faes arall lle y gall busnesau wneud cyfraniad mawr. Yn ddiweddar, mae Route Media wedi newid eu sgriniau, eu faniau digidol a’u hysbysfyrddau i oleuadau LED – arfer llawer mwy cynaliadwy o ran goleuadau. Mae Dragon Signs yn cyrchu deunyddiau arwyddion gan werthwyr lleol, gan wneud yn siŵr ei bod yn bosibl eu hailgylchu’n gyfan gwbl, bod llai o ynni’n cael ei ddefnyddio i’w cynhyrchu, neu eu bod yn gallu cael eu hailddefnyddio. 

Yn Colour Studios, mae modd ailgylchu eu waliau arddangos yn llwyr ar ddiwedd eu hoes, ac maen nhw hyd yn oed yn cynhyrchu biniau ailgylchu, sydd wedi’u gwneud o gardbord.  

Dywed Alex: “Mae’r biniau hyn wedi gwneud y newid meddylfryd i ailgylchu yn llawer haws i’n staff ni ac, erbyn hyn, mae ailgylchu’n ail natur i bawb yn y cwmni. 

“Fel y bydd llawer o bobl yn gwybod, yn 2024, daeth yn ofynnol o dan y gyfraith i bob busnes yng Nghymru sortio ei wastraff i’w ailgylchu. 

“Ers gwneud y newidiadau yn Dragon Group, yr effaith fwyaf rydyn ni wedi’i gweld yw’r newid yn ymddygiad ac agweddau ein staff tuag at ailgylchu a’r amgylchedd.  

“Rydyn ni nawr yn gweld llawer mwy o ystyriaeth yn cael ei rhoi i rywbeth a oedd yn arfer bod yn weithred syml, sef rhoi rhywbeth mewn bin. 

“Rydyn ni wedi lleihau’n sylweddol faint o wastraff cyffredinol rydyn ni’n ei gynhyrchu, ac mae hyn wedi treiddio i rannau eraill o’n busnesau, gyda’n staff yn fwy ymwybodol nawr o’u heffaith ar yr amgylchedd.” 

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae Dragon Goup wedi cymryd camau breision tuag at weithredu arferion busnes cynaliadwy, diolch yn rhannol i adnoddau digidol Gweledigaeth Werdd Busnes Cymru, sy’n cynnwys offer, canllawiau ac astudiaethau achos i rannu profiadau busnesau yng Nghymru; gan gynnig cyngor arbenigol i gefnogi busnesau bach a chanolig wrth iddynt ddatgarboneiddio a defnyddio adnoddau’n fwy effeithiol.  

Gyda phecynnau ar gael i’w lawrlwytho ac astudiaethau achos ar gael, gall perchnogion cwmnïau archwilio sut y gallant gyflwyno newid yn eu busnes eu hunain. 

Ewch i’n tudalen diwydiant i ddarllen mwy am y ffordd y gall eich busnes ddod yn fwy amgylcheddol gynaliadwy.

I gael manylion am gyfraith ailgylchu yn y gweithle Cymru, ewch i llyw.cymru/ailgylchu-yn-y-gweithle

I gael rhagor o gymorth neu gyngor ffoniwch

0300 0604400

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol