Cyhoeddi yn gyntaf: 3 Rhagfyr 2025 -
Wedi diweddaru: 3 Rhagfyr 2025 -
Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol
Wythnos Hinsawdd Cymru
Wythnos Hinsawdd Cymru yw digwyddiad blaenllaw Cymru ar gyfer gweithredu dros yr hinsawdd, gan ddod â chymunedau, busnesau, gwasanaethau cyhoeddus, ac unigolion ynghyd i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.
Yn cael ei chynnal bob mis Tachwedd, mae'n wythnos o baneli arbenigol, gweithdai rhyngweithiol, a sgyrsiau cymunedol sy'n canolbwyntio ar greu atebion ymarferol ar gyfer lleihau allyriadau carbon, addasu i'r hinsawdd, a dyfodol sy’n fwy teg a gwyrdd i bawb yng Nghymru.
Mae’r nod yn syml: codi ymwybyddiaeth, rhannu arferion gorau, a grymuso pobl i weithredu.
O leihau allyriadau carbon a gwella effeithlonrwydd ynni i ddatblygu gwydnwch yn erbyn tywydd eithafol, mae Wythnos Hinsawdd Cymru yn helpu pawb i chwarae rhan wrth greu Cymru gynaliadwy.
Ymunwch â'r sgwrs. Gweithredwch. Lluniwch y dyfodol.
Cymerwch olwg ar yr holl fewnwelediadau a drafodwyd gan ein harbenigwyr yn eu prif areithiau, podlediadau, trafodaethau panel a gweithdai yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru yma.