Cyhoeddi yn gyntaf: 15 Hydref 2025 -
Wedi diweddaru: 28 Hydref 2025 -
Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol
Sut i gefnogi Wythnos Hinsawdd Cymru 2025: Rhannwch, addunedwch a lledaenwch y gair
Mae Wythnos Hinsawdd Cymru (3-5 Tachwedd 2025) yn ôl - ac mae digwyddiad eleni’n bwysicach nag erioed. Wrth i’r argyfwng hinsawdd barhau i effeithio ar gymunedau ledled Cymru, bydd y llwyfan cenedlaethol hwn i weithredu’n dod â phobl, sefydliadau, a chymunedau at ei gilydd i rannu syniadau, i ffurfio partneriaethau, ac i lunio dyfodol polisi ar yr hinsawdd.
:fill(fff))
Thema 2025 fydd creu cynllun ymarferol i leihau allyriadau carbon am y pum mlynedd nesaf, a manteisio ar fuddiannau cymdeithasol, economaidd, ac amgylcheddol gweithredu ar newid hinsawdd.
Eleni, byddwn yn taflu goleuni ar dri maes allweddol lle mae gan Gymru’r grym i arwain:
Sut rydym yn teithio
Sut rydym yn cynhesu ein cartrefi
Sut rydym yn gofalu am ein tir
Ond os ydym am wneud unrhyw gynnydd gwerth chweil, bydd angen cymaint o leisiau â phosibl i ymuno yn y trafodaethau - a dyma sut y gallwch chi gyfrannu.
Os ydych chi mewn llywodraeth, busnes, addysg, neu’r sector gwirfoddol - gall eich llais, eich platfform, a’ch rhwydweithiau ein helpu i gyrraedd pob cwr o Gymru. Dyma sut y gallwch helpu Wythnos Hinsawdd 2025 ac ysbrydoli eraill i ymuno â’r mudiad.
Pedwar ffordd hawdd i gefnogi Wythnos Hinsawdd Cymru
1. Ychwanegu llofnod e-bost Wythnos Hinsawdd Cymru
Gall pob e-bost y byddwch yn ei anfon helpu i godi ymwybyddiaeth. Ychwanegwch lofnod e-bost Wythnos Hinsawdd Cymru ar waelod eich negeseuon yn ystod ac yn y cyfnod yn arwain at y digwyddiad. Mae’n ffordd hawdd o ddangos cefnogaeth ac annog cydweithwyr, partneriaid, a chymheiriaid i gymryd rhan hefyd.
Lawrlwythwch y llofnod e-bost ac asedau eraill
2. Rhannwch Wythnos Hinsawdd Cymru ar gyfryngau cymdeithasol
Cyfryngau cymdeithasol yw un o’r ffyrdd cyflymaf o ledaenu’r gair. Rydym wedi creu graffeg a phostiadau dwyieithog enghreifftiol, sy’n barod i’w defnyddio ar nifer o gyfryngau cymdeithasol. Gall un post annog sgyrsiau, cyrraedd cynulleidfaoedd newydd, ac ysbrydoli mwy o bobl i gofrestru.
Lawrlwythwch asedau cyfryngau cymdeithasol
3. Anfonwch gylchlythyr at eich rhwydwaith
A yw eich sefydliad/busnes yn cyhoeddi cylchlythyr neu fwletin staff rheolaidd? Defnyddiwch ein templed cylchlythyr i rannu gwybodaeth allweddol am Wythnos Hinsawdd Cymru â’ch rhwydwaith. Os bydd yn cyrraedd aelodau, staff, neu sefydliadau partner, mi all eich e-bost fod yn ddigon i berswadio rhywun i gymryd rhan.
Lawrlwythwch y templed cylchlythyr
4. Gwnewch Adduned Wythnos Hinsawdd Cymru - a’i rannu
Dangoswch ymrwymiad eich sefydliad i weithredu ar newid hinsawdd drwy wneud Adduned Wythnos Hinsawdd Cymru. Defnyddiwch ein templedi cyfryngau cymdeithasol i rannu eich Adduned ac i annog eraill i wneud yr un peth. Gorau po fwyaf o Addunedau a gawn i gryfhau’r mudiad.
Mwy o wybodaeth yn dod yn fuan
Pam mae eich cyfraniad yn bwysig
Mae eich cefnogaeth i hyrwyddo Wythnos Hinsawdd Cymru yn ein helpu i:
Cyrraedd mwy o bobl ar hyd a lled Cymru
Casglu mwy o wybodaeth, syniadau a chwestiynau i ddylanwadu ar ddyfodol polisi ar yr hinsawdd
Adeiladu momentwm i weithredu ar yr hinsawdd ym mhob carfan o gymdeithas
Gyda’n gilydd, mi allwch greu Cymru decach, fwy gwyrdd, a mwy cydnerth - ond rhaid cael cymaint o leisiau â phosibl i ymuno yn ein trafodaethau.
Ymunwch â ni ar gyfer Wythnos Hinsawdd 2025
🗓️ Dyddiadau’r Digwyddiad: 3-5 Tachwedd 2025
💻 Lleoliad: Cynhadledd rithwir
📬 I weld sut y gallwch gymryd rhan: cliciwch yma
Byddwch yn rhan o’r mudiad. Rhannwch, addunedwch a lledaenwch y gair. Gyda’n gilydd, mi allwn wneud #WythnosHinsawddCymru yn drobwynt mewn gweithredu ar newid hinsawdd yng Nghymru.
:fill(transparent))