Cyhoeddi yn gyntaf: 11 Rhagfyr 2025 -
Wedi diweddaru: 11 Rhagfyr 2025 -
Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol
Pam y bydd grym cydweithio, cymunedau a chyfathrebu yn allweddol i ddatgloi ein dyfodol hinsawdd
Er bod Wythnos Hinsawdd Cymru 2025 wedi dod i ben, dyma oedd nodi dechrau pennod nesaf Cymru ar y trywydd i gyrraedd sero net.
:fill(fff))
Daeth arweinwyr y diwydiant ac arbenigwyr yr hinsawdd o’r llywodraeth, y byd busnes, y diwydiant a’r trydydd sector ynghyd am dri diwrnod o bodlediadau fideo, paneli byw a gweithdai cydweithredol. Fe rannon nhw syniadau, herio tybiaethau, a chanfod y camau ymarferol sydd eu hangen i gyflymu proses bontio Cymru tuag at ddyfodol tecach a gwyrddach.
Yn ystod y sgyrsiau hyn, daeth tair blaenoriaeth allweddol i law: Cydweithio, Ymgysylltu a Chymuned - fel pileri y mae’n rhaid iddynt lywio ein dyfodol hinsawdd a chwtogi allyriadau carbon yn ystod y ddegawd nesaf a thu hwnt.
Dewch inni gymryd golwg fanylach...
:fill(fff))
Mae cydweithio’n allweddol i wneud cynnydd
Atgyfnerthodd lawer o’n siaradwyr mai cydweithio yw’r unig ffordd i symud o uchelgais i weithredu. O dai ac ynni i ffermio a thrafnidiaeth, bydd cynnydd yn dibynnu ar nodau cyffredin, safonau cyson ac adnoddau cyfunol rhwng diwydiannau, busnesau, cynghorau lleol, rhanddeiliaid a chymunedau.
Sara Elias (Nesta Cymru), Simon Minett (Challoch Energy) a Jarrad Morris (FleetEV) yw tri o’r llu o siaradwyr i bwysleisio pwysigrwydd cydweithio.
Yn ogystal, dywedodd Steve Cranston o Tai Ar y Cyd: ‘Os ydym eisiau symud yn gyflym, rhaid inni symud yn unigol, ond os ydym eisiau mynd yn bell, rhaid inni symud gyda’n gilydd’.
Drwy rannu gwybodaeth, syniadau, adnoddau a buddsoddiadau, gall Cymru symud yn gynt a sicrhau nad oes neb yn cael ei adael.
Meithrin ymddiriedaeth drwy ymgysylltu
Roedd addysg ac ymgysylltu yn bynciau cyffredin ym mhob un sesiwn yn y gynhadledd. Soniodd lawer o siaradwyr am y dull llwybr dwbl i ymgysylltu - lle mae angen i bobl weld a theimlo buddion newid cyn y gallant gael ffydd ynddo.
Esboniodd Simon Minett o Challoch Energy y bydd ‘'cynnwys pobl a chymunedau yn y sgwrs a mynd i’r afael â’u gwir anghenion megis cysur, iechyd, ac arian yn gwneud iddynt dalu sylw, a hynny wrth eu cysylltu â gwelliannau o ran ynni’.
O ymgyrchoedd ymwybyddiaeth i arddangosiadau’r byd go iawn, pwysleisiodd siaradwyr fel Jo Ullah (Cyngor Sir Powys) a Peter Jones MBE (Cyfoeth Naturiol Cymru) fod cyfranogiad yn meithrin ymddiriedaeth. Pam mae pobl yn deall pwysigrwydd newid a sut mae’n effeithio arnynt, maent yn fwy tebygol o ddod yn bartneriaid gweithredol mewn llunio datrysiadau.
Dull pwrpasol i gymunedau
Daw cymunedau gwledig a threfol ar draws gwirioneddau gwahanol - o fynediad at drafnidiaeth gyhoeddus i gysylltedd digidol. Dyna pam na fydd dull ‘un peth i bawb’ yn gweithio.
Galwodd siaradwyr o’r tri diwrnod am ddatrysiadau lleol dan arweiniad cymunedau, sydd wedi eu teilwra i anghenion unigryw pob maes.
Cofnododd Jim Cardy o Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru'r elfen hon yn berffaith. Dywedodd: ‘Mae’n rhaid i ddatgarboneiddio trafnidiaeth weithio i bawb a bydd cymunedau’n gweithio gyda’i gilydd yn elfen allweddol o gyflawni proses bontio deg.’
:fill(fff))
Felly, beth yw’r camau nesaf ar gyfer gweithredu dros yr hinsawdd yng Nghymru?
Ynghyd â’r tair thema uchod, nododd lawer o gyfranwyr bwysigrwydd newid seilwaith a pholisi i ddatgloi cynnydd cynt - gan gynnwys Abigail Ward o Energy Saving Trust a amlygodd fforddiadwyedd fel rhwystr allweddol.
Nododd fod ‘angen i Lywodraeth y DU fynd i’r afael â phris trydan os ydym am wneud trydaneiddio gwresogi cartrefi yn fforddiadwy’.
Yn wir, o ddiwygio cynlluniau i fuddsoddi doethach, newidiadau fel hyn fydd yn helpu i gyflymu gweithredoedd a sicrhau bod uchelgeisiau hinsawdd Cymru yn trosi’n ganlyniadau go iawn.
Mae Wythnos Hinsawdd Cymru yn ei chyfanrwydd wedi ail-sbarduno sgyrsiau; meithrin cysylltiadau newydd; a chynhyrchu syniadau beiddgar y bydd Llywodraeth Cymru bellach yn eu casglu a’u defnyddio fel tystiolaeth i hysbysu a datblygu’r Gyllideb Garbon nesaf.
Mae’r ynni a’r ddealltwriaeth a rannwyd yn profi bod gan Gymru'r uchelgais yn ogystal â’r gallu i arwain drwy esiampl.
Gyda’n gilydd, byddwn yn llunio’r llwybr ar gyfer dyfodol mwy glân a thecach i Gymru.
Os hoffech wylio’r sesiynau o ddiwrnod cyntaf Wythnos Hinsawdd Cymru, gallwch wneud hynny yma.
:fill(transparent))
:fill(transparent))
:fill(transparent))