Cyhoeddi yn gyntaf: 11 Rhagfyr 2025 -
Wedi diweddaru: 11 Rhagfyr 2025 -
Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol
Pam mae amheuaeth am dechnolegau carbon isel yn ein dal ni’n ôl
Roedd neges yr arbenigwyr tai yn Wythnos Hinsawdd Cymru 2025 yn glir - mae datgarboneiddio tai yng Nghymru yn bosibl... ond nid os ydym ni’n parhau fel yr ydym heddiw.
:fill(fff))
Daeth siaradwyr ac aelodau panel o’r sector tai ynghyd i ystyried yr heriau i daith Cymru wrth greu tai carbon isel ledled Cymru - a mynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n ein hatal, yn ogystal â’r camau gweithredu sydd eu hangen i ddatgloi newid ar gyflymder a graddfa.
Ymysg y cyfranwyr ar y diwrnod oedd Sara Elias o Nesta Cymru, Jo Ullah o Gyngor Sir Powys, Abigail Ward o Energy Saving Trust, Simon Minett o Challoch Energy a Steve Cranston o Tai Ar y Cyd, yn ogystal â phobl eraill. Gyda’i gilydd, roeddent yn troi at bedair thema allweddol drwy’r amser:
Meithrin ymddiriedaeth
Cydweithio
Datrysiadau dan arweiniad cymunedau
Polisi a fforddiadwyedd
Dewch inni gymryd golwg fanylach ar rai o’r syniadau y tu ôl i’r themâu hyn...
Meithrin ymddiriedaeth mewn technolegau newydd
Roedd amheuaeth y cyhoedd o dechnolegau carbon isel, yn enwedig pympiau gwres, yn thema gadarn drwy’r diwrnod.
Wedi’r cwbl, ni allwn ddisgwyl i bobl wneud penderfyniadau ariannol mawr ynghylch technolegau nad ydynt yn eu deall yn llwyr. Heb wybodaeth glir ac enghreifftiau amlwg, bydd ymddiriedaeth yn parhau’n fregus - a bydd llawer o gartrefi’n parhau i wneud yr hyn y maent eisoes yn ei ddeall. Mae angen iddynt ddod yn rhan o’r ‘norm’, yn hytrach na’r eithriad.
Mae syniadau ymarferol yn cynnwys darparu cyfleoedd i bobl weld systemau pympiau gwres yn gweithio mewn cartrefi go iawn a siarad yn uniongyrchol â deiliaid tai, yn ogystal â chyfathrebu â phobl am y cysylltiad rhwng tlodi tanwydd a thechnolegau carbon isel fel bod pobl yn deall y goblygiadau ariannol cadarnhaol y gallant gynnig.
:fill(fff))
Dadleuodd Abigail Ward o Energy Saving Trust dros ddull ‘llwybr dwbl’ - i sicrhau y gall pobl weld y cysylltiad rhwng mynd i’r afael â thlodi tanwydd a datgarboneiddio.
Pwysleisiodd Sara Elias o Nesta Cymru bwysigrwydd gwneud pobl yn gyfarwydd â phympiau gwres. Dywedodd, “Mae ymwybyddiaeth yn amrywio llawer, ond mae angen inni normaleiddio pympiau gwres yn hytrach na’u gwneud nhw’n eithriad ac yn rhywbeth y mae pobl yn amheus ohonynt.”
Ychwanegodd Jo Ullah o Gyngor Sir Powys “Yr allwedd yw hysbysu pobl ynghylch yr hyn sy’n digwydd i’w cartrefi a’u hiechyd pan na allant neu pan nad ydynt yn gwresogi eu cartref yn gywir.”
Pwysigrwydd cydweithio
Cytunodd y siaradwyr nad yw gwneud ein stoc dai ledled Cymru yn un garbon isel yn ‘waith i un sefydliad’. Bydd yn gofyn am ymdrech gydlynol ar draws y system dai gyfan.
Roedd gofyn:
I adeiladwyr tai, cadwyni cyflenwi, landlordiaid cymdeithasol a’r diwydiant weithio gyda’i gilydd ar newid systematig, nid ar gynlluniau ar wahân.
Am gyfres o ganllawiau clir a chyson ar gyfer yr holl adeiladwyr tai newydd, boed yn y sector cymdeithasol neu fasnachol - fel nad yw safonau a dulliau yn amrywio o un prosiect i’r llall.
Am symudiad at weithgynhyrchu oddi ar safle a dulliau adeiladu modern sy’n cynnig rheolaeth a chywirdeb gwell, yn ogystal â buddion cymdeithasol ac economaidd.
Buddsoddi mewn sgiliau a hyfforddiant, yn enwedig o ran gosod a chynnal pympiau gwres.
Dywedodd Simon Minett o Challoch Energy: “Os ydym ni’n parhau i weithio ar ein liwt ein hun, gan gyflawni un prosiect bach ar ôl y llall, byddwn yn colli’r newid systematig sydd ei angen arnom. Felly, imi, mae cydweithio yn hollol hanfodol."
:fill(fff))
Mae mentrau dan arweiniad cymunedau yn helpu i osgoi dulliau ‘un peth yn gweithio i bawb’
Yn ogystal fe bwysleisiodd ein siaradwyr y bydd opsiynau carbon isel yn amrywio’n helaeth rhwng lleoedd.
Mae strydoedd teras, pentrefi gwledig a stadau trefol i gyd oll yn wynebu gwirioneddau, cyd-destunau a chyfyngiadau adeiladu gwahanol. Felly, ni fydd y datrysiadau sy’n gweithio mewn un gymuned yn gweithio’n awtomatig i gymuned arall.
I fynd i’r afael â hyn, roedd diddordeb mewn cynlluniau peilot ar gyfer:
Systemau ynni cyffredin neu gymunedol
Rhwydweithiau gwres lleol
Dulliau sy’n edrych ar strydoedd cyfan neu gymdogaethau yn hytrach na chartrefi unigol ar eu pen eu hun.
Camau i’w cymryd pan mae polisi’n rhwystro
Rhybuddiodd siaradwyr ar y diwrnod tai fod angen inni fynd i’r afael â’r rhwystrau o ran polisïau a chostau cyn y gallwn gyflwyno technolegau carbon isel mewn cartrefi ledled Cymru. Cododd tri mater dro ar ôl tro:
Prisiau trydan - gydag ardollau presennol yn gwneud nwy yn fwy cystadleuol na gwresogi carbon isel.
Cymhlethdodau cynllunio - gall rheolau sy’n ymwneud â phympiau gwres yn benodol atal gosodiadau mewn llawer o gartrefi.
Cymhwysedd am gyllid - yn enwedig i dai mewn bandiau EPC is sydd fwyaf angen cymorth.
Felly, beth nesaf?
Bydd y dystiolaeth a gasglwyd o drafodaethau yn ystod y gynhadledd yn cael ei chrynhoi a’i defnyddio i lywio’r polisïau sydd eu hangen i gyflymu’r cynnydd tuag at Gymru wyrddach, decach a mwy ffyniannus, lle mae cartrefi carbon isel cynnes y norm - nid yr eithriad.
Os hoffech wylio’r sesiynau o ddiwrnod cyntaf Wythnos Hinsawdd Cymru 2025, gallwch wneud hynny yma.
:fill(transparent))
:fill(transparent))
:fill(transparent))