Climate Action Wales Logo

Cyhoeddi yn gyntaf: 14 Hydref 2025 -

Wedi diweddaru: 14 Hydref 2025 -

Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol

Ffyrdd eraill o gymryd rhan yn Wythnos Hinsawdd Cymru

Mae nifer o ffyrdd eraill y gallwch chi gymryd rhan yn Wythnos Hinsawdd Cymru y tu hwnt i'r gynhadledd rithwir.

Focus group

Anogir rhanddeiliaid i gynnal eu digwyddiadau ymylol eu hunain o amgylch yr wythnos, a fydd yn cael eu cyhoeddi mewn calendr ehangach o ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnal yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru ac o'i chwmpas. I sicrhau bod eich digwyddiad yn cael sylw, anfonwch e-bost ar y tîm Equinox ar walesclimateweek@equinox.wales gyda manylion eich digwyddiad.

Fel rhan o Wythnos Hinsawdd Cymru, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnal tri gweithdy gwahoddiad yn unig. Bydd y rhain ar ffurf gweithdai creu gweledigaeth ar gyfer y dyfodol wedi'u hwyluso a byddant yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau cymunedol parhaus a fydd yn llunio penderfyniadau polisi pwysig Llywodraeth Cymru dros y 5-10 mlynedd nesaf.

Mae Llywodraeth Cymru yn gwahodd sefydliadau ac unigolion sydd â chysylltiadau cymunedol cryf i wneud cais am gyllid grant i gynnal digwyddiadau Sgyrsiau am yr Hinsawdd yn eu cymunedau. Bydd y digwyddiadau hyn yn cael eu cynnal rhwng mis Tachwedd 2025 a mis Chwefror 2026. I weld a yw eich digwyddiad chi yn gymwys i gael cyllid, cliciwch yma.

I gael rhagor o gymorth neu gyngor ffoniwch

0300 0604400

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol