Climate Action Wales Logo

Cyhoeddi yn gyntaf: 28 Hydref 2025 -

Wedi diweddaru: 29 Hydref 2025 -

Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol

Ein harddangoswyr

Wales Climate Week Bluestone

Believ – At the Heart of Your Journey

Bydd Believ yn barod i ateb eich cwestiynau am wefru cerbydau trydan ledled Cymru, gan gynnig cipolwg ymarferol ar yr hyn y mae angen i awdurdodau lleol ei gyflawni erbyn 2030 i fodloni uchelgeisiau cynyddol Cymru ar gyfer cerbydau trydan. Ewch i'w stondin i archwilio'r tueddiadau, heriau a chyfleoedd diweddaraf wrth adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gwyrddach.

Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

Ar stondin Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, archwiliwch sut mae'r rhanbarth yn ysgogi ffyniant cynhwysol drwy ei Strategaeth Hinsawdd a Natur ddatblygol. Dysgwch sut mae menter Hinsawdd Busnes De-ddwyrain Cymru yn helpu mentrau lleol i ffynnu mewn economi Sero Net. Gwahoddir ymwelwyr i rannu eu syniadau a'u dealltwriaeth i helpu i lunio dyfodol gwyrddach a thecach i Dde-ddwyrain Cymru.

CCR Energy

Ar stondin CCR Energy, darganfyddwch sut mae trawsnewid hen Orsaf Bŵer Aberddawan yn paratoi'r ffordd ar gyfer cyfnod newydd o dwf glân ac arloesi yng Nghymru. Gallwch hefyd archwilio Academi Aberddawan – platfform dysgu dwyieithog diddorol sydd wedi'i gynllunio ar gyfer ysgolion a rhieni, sy'n dangos sut mae pŵer solar, y gwynt, y llanw a niwclear yn llywio ein dyfodol carbon isel.

Canolfan y Dechnoleg Amgen

Mae Canolfan y Dechnoleg Amgen yn dod â degawdau o arbenigedd mewn byw’n gynaliadwy i'r arddangosfa rithwir. Bydd eu trafodaethau’n archwilio enghreifftiau o’r byd go iawn o ynni adnewyddadwy, dylunio adeiladau carbon isel a gweithredu ar newid hinsawdd ymarferol. P'un a ydych chi'n wneuthurwr polisi, yn addysgwr neu'n angerddol am gynaliadwyedd, bydd Canolfan y Dechnoleg Amgen yn eich ysbrydoli i droi syniadau yn weithredoedd bob dydd.

Cymunedau Arloesi Economi Gylchol

Ymunwch â thîm Cymunedau Arloesi Economi Gylchol i ddarganfod sut y gall cylcholrwydd helpu Cymru i gyrraedd ei thargedau sero net. Bydd eu sgyrsiau yn archwilio sut y gall arloesi a chydweithio rhwng busnesau a'r trydydd sector wneud gwahaniaeth parhaol

Gwasanaeth Newid Diwylliant

Bydd y Gwasanaeth Newid Diwylliant yn agor trafodaeth ar yr ymddygiadau bob dydd sy'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf. Drwy enghreifftiau ymarferol a sgwrs, byddant yn archwilio sut y gall newidiadau bach mewn agwedd a gweithredu wneud bywyd yn haws, prosesau'n fwy effeithlon a chanlyniadau'n fwy effeithiol

Egin

Drwy Egin, gallwch ddarganfod sut mae cymunedau ledled Cymru yn cymryd eu camau cyntaf tuag at weithredu ar newid hinsawdd gyda chefnogaeth Mentoriaid Cymheiriaid. Darganfyddwch sut y gallwch fanteisio ar fentora a chyllid drwy raglen Camau Cynaliadwy Cymru a chael eich ysbrydoli gan straeon bywyd go iawn am newid ar lawr gwlad.

Bwyd a Diod Cymru

Darganfyddwch sut mae'r diwydiant bwyd a diod yn addasu i heriau a chyfleoedd hinsawdd sy'n newid.

Forest Research

Archwiliwch sut mae gwaith Forest Research ar reoli coedwigoedd, iechyd coed, ehangu coetiroedd, a gwasanaethau ecosystemau yn cyfrannu at ddyfodol gwydn, sero net - gan helpu Cymru a'r DU ehangach i fanteisio i'r eithaf ar ei choed a'i choedwigoedd wrth fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.

Hydrogen Gwyrdd Di-Lol

I unrhyw un sy'n chwilfrydig am ddyfodol ynni glân, bydd Hydrogen Gwyrdd Di-Lol yn dangos sut y gall hydrogen bweru’r broses o drawsnewid Cymru oddi wrth danwydd ffosil. Bydd eu stondin yn dangos sut mae'r dechnoleg hon eisoes yn lleihau'r defnydd o ddisel ar safleoedd adeiladu, yn datgarboneiddio fflydoedd trafnidiaeth, ac yn trawsnewid gweithgynhyrchu.

Hapus: Ar gyfer ein lles meddyliol

Bydd Hapus yn canolbwyntio ar les, gan archwilio sut y gall cysylltiad rymuso gweithredu ar newid hinsawdd. Gall ymwelwyr ddysgu am rwydwaith Hapus sy'n tyfu, a sut mae sefydliadau ledled Cymru yn helpu pobl i ddod at ei gilydd i ddiogelu a gwella lles wrth gefnogi dyfodol mwy cynaliadwy.

LUNZ Hub

Bydd LUNZ Hub yn arddangos sut mae dealltwriaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn helpu i drawsnewid defnydd tir ledled Cymru a'r DU – drwy ddarparu ymchwil hygyrch i lunwyr polisi, cymunedau a diwydiant a all helpu i droi tystiolaeth yn weithredoedd yn y byd go iawn ar gyfer dyfodol sero net.

  • Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru

  • Rhaglen Cefnogi Newid Hinsawdd CLlLC

MACC Hub: Maximising UK Adaptation to Climate Change Hub

Bob dydd, yn ystod egwyliau'r bore, ymunwch ag aelod o dîm MACC Hub i gael trosolwg o'i brosiect a chyfle i ofyn cwestiynau am addasu a gwydnwch yng Nghymru.

Yn ystod yr egwyliau cinio, bydd y stondin yn cynnal cyfres o weminarau ysgogol gan gynnwys:

  • Dydd Llun - Visions for a Well-Adapted UK

  • Dydd Mawrth – Improving the way we engage with vulnerability as a pathway to transformational adaptation

  • Dydd Mercher - Climate Ready Healthcare Systems – our biggest challenge?

Nyth Cymru

Mae Nyth Cymru, sy'n rhan o raglen Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru, yn helpu i wneud cartrefi ledled Cymru yn gynhesach, yn wyrddach ac yn fwy fforddiadwy i'w cynnal. Yn eu stondin rithwir, gallwch ddysgu sut mae cynllun Nyth yn cefnogi cartrefi gyda gwelliannau effeithlonrwydd ynni am ddim a darganfod sut y gall newidiadau syml wneud gwahaniaeth mawr ar gyfer eich cyfforddusrwydd a'ch ôl troed carbon.

Diwydiant Sero Net Cymru

Mae Diwydiant Sero Net Cymru yn cefnogi diwydiannau Cymru ar eu taith i sero net, gan helpu sefydliadau i gydweithio, datgloi buddsoddiadau, a chyflawni prosiectau carbon isel. Yn eu stondin rithwir, archwiliwch sut mae datgarboneiddio diwydiannol yn ysgogi cynhyrchu cynaliadwy, yn creu swyddi gwerth uchel, ac yn lleoli Cymru fel canolfan ynni glân flaenllaw ac yn gonglfaen sylfaen ddiwydiannol y DU.

Caffi Trwsio Cymru

Bydd Caffi Trwsio Cymru yn tynnu sylw at sut y gall camau gweithredu bach a arweinir gan y gymuned sbarduno newid mawr. Bydd eu trafodaethau’n canolbwyntio ar normaleiddio atgyweirio ac ailddefnyddio, ymgysylltu â phobl ifanc, a datblygu partneriaethau sy'n ymgorffori arferion atgyweirio ledled Cymru. Dysgwch sut mae gweithredu gan ddinasyddion yn symud Cymru'n uwch yn yr hierarchaeth wastraff ac yn llunio diwylliant lle mae "bodloni a thrwsio" yn cwrdd ag arloesedd modern.

Cynnal Cymru

Ar stondin Cynnal Cymru, darganfyddwch sut y gall eich sefydliad droi nodau cynaliadwyedd yn weithredoedd beiddgar, ymarferol. Gyda dros 20 mlynedd o brofiad yn cefnogi cyrff cyhoeddus, busnesau ac elusennau, mae Cynnal Cymru yn cynnig cyngor arbenigol, hyfforddiant a chysylltiadau i'ch helpu i leihau allyriadau carbon ac adeiladu dyfodol tecach a gwyrddach. Archwiliwch eu gweledigaeth ar gyfer Cymru carbon isel erbyn 2050 a dysgu sut y gallwch chi fod yn rhan o'r newid

Mynd am Sero Net

Bydd Mynd am Sero Net yn annog ymwelwyr i gymryd rhan mewn llunio'r sgwrs drwy gwblhau arolwg cyflym trwy eu cod QR. Bydd eu trafodaethau’n canolbwyntio ar ddatgloi cyfleoedd o fewn y trawsnewidiad sero net - gan helpu unigolion a sefydliadau ledled Cymru i nodi camau ymarferol y gallant eu cymryd heddiw.

Coed a Phren

Bydd Coed a Phren yn dangos sut mae llunio polisïau cydweithredol yn llywio dyfodol coetiroedd Cymru. Dan arweiniad Strategaeth Coetiroedd i Gymru, mae'r tîm yn gweithio i gefnogi plannu coed ar gyfer storio carbon, tyfu pren o Gymru ar gyfer economi carbon isel, a datblygu Coedwig Genedlaethol ar gyfer pobl Cymru. Dysgwch sut mae rheoli coedwigoedd cynaliadwy yn cadw ein coetiroedd yn iach, yn wydn ac yn ffynnu am genedlaethau i ddod.

Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru

Mae Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru yn helpu i sbarduno trawsnewidiad Cymru tuag at economi carbon sero. Ers 2018, mae'r gwasanaeth wedi cefnogi sefydliadau o’r sector cyhoeddus a grwpiau cymunedol gyda chyllid, arweiniad arbenigol a chymorth ymarferol i gynnig ynni adnewyddadwy, gwella effeithlonrwydd a lleihau allyriadau carbon. Gall y rhai fydd yn ymweld â’u stondin rithwir ddysgu sut mae prosiectau ledled Cymru yn creu dyfodol glanach a mwy cynaliadwy.

Rhaglen Cefnogi Newid Hinsawdd CLlLC

Dan arweiniad Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a thrwy gylllid Llywodraeth Cymru, mae’r Rhaglen Gymorth Newid Hinsawdd yn helpu cynghorau ledled Cymru i roi dyheadau ar waith mewn perthynas â’r hinsawdd. Bydd y tîm yn dangos sut mae awdurdodau lleol yn cydweithio i gyrraedd y nod o sero net yn y sector cyhoeddus yng Nghymru erbyn 2030 - drwy rannu arbenigedd, caffael ar y cyd, a phrosiectau arloesol sy’n ymdrin ag argyfyngau hinsawdd a byd natur.

I gael rhagor o gymorth neu gyngor ffoniwch

0300 0604400

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol