Cyhoeddi yn gyntaf: 19 Medi 2025 -
Wedi diweddaru: 23 Medi 2025 -
Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol
Cynhadledd ar-lein
Cynhelir cynhadledd ar-lein eleni dros gyfnod o dri diwrnod (3-5 Tachwedd). Bydd yn dod â rhanddeiliaid o bob rhan o'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector at ei gilydd i drafod sut gallwn ni ddatgloi manteision newid.
Byddwn yn edrych i weld lle mae gan Gymru'r pwerau datganoledig i arwain. O dai a thrafnidiaeth i amaethyddiaeth a defnydd tir. Gallwn weithio gyda'n gilydd i droi uchelgeisiau hinsawdd yn gyfle i bob un ohonom.
Beth i'w ddisgwyl
Mae cynhadledd ar-lein eleni ar ei newydd wedd wedi'i chynllunio i fod yn ddiddorol ar bob cam. Bydd y fformat yn cynnwys y canlynol:
Sgyrsiau ar gyfer yfory
Podlediadau fideo gyda lleisiau blaenllaw ar themâu allweddol y dydd. Ar gael i chi eu gwylio neu i wrando arnynt yn fyw neu i ddal i fyny â nhw wrth fynd.
Y tu hwnt i'r meic
Trafodaethau panel gydag arbenigwyr yn y diwydiant. Bydd cyfleoedd hefyd i'r rhai sy'n bresennol ymuno â'r drafodaeth.
Cydweithdai Hinsawdd
Gweithdai ar y cyd ar bynciau a osodwyd ymlaen llaw. Gwahoddir pawb i rannu syniadau, barn, profiadau ac atebion.
Sesiynnau
Sesiynau gyda phanel arbenigol sy'n archwilio elfennau cyffredin fel chwarae teg, cyfiawnder cymdeithasol a thegwch. Yn ogystal â rôl pobl yng nghyswllt llunio a chyflawni newid, ac arloesi a meithrin gallu.
Sut i gymryd rhan yn y gynhadledd ar-lein
Bydd rhaglen lawn y gynhadledd a rhagor o fanylion am y man arddangos ar gael cyn bo hir...
I gael yr holl wybodaeth ddiweddaraf, cofrestrwch eich diddordeb a dilynwch ni ar LinkedIn, X, Facebook ac Instagram. Gallwch hefyd ymuno â'r drafodaeth ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ddefnyddio #WythnosHinsawddCymru
:fill(fff))
Cofrestrwch nawr
Cliciwch yma