Cyhoeddi yn gyntaf: 19 Medi 2025 -
Wedi diweddaru: 19 Medi 2025 -
Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol
Pam cymryd rhan?
Mae Llywodraeth Cymru eisiau i bobl ledled Cymru elwa o'r cyfleoedd sy'n deillio o newid. Dyna pam mae lleisiau pobl o wahanol gefndiroedd, lleoliadau a phrofiadau bywyd yn bwysig.
:fill(fff))
Dyma rai rhesymau dros gymryd rhan:
Dweud eich dweud
Mae Llywodraeth Cymru eisiau clywed gan gynifer o bobl â phosibl. Bydd hyn yn sicrhau bod penderfyniadau a wneir yn y dyfodol yn adlewyrchu cefndiroedd a phrofiadau amrywiol.
Gadael effaith barhaol
Bydd eich sylwadau a'ch adborth yn llywio penderfyniadau polisi pwysig Llywodraeth Cymru y mae angen eu gwneud dros y 5-10 mlynedd nesaf.
Sicrhau bod gweithredu dros yr hinsawdd yn gweithio i’ch cymuned chi
Mae Llywodraeth Cymru eisiau i bawb elwa o'r cyfleoedd sy'n deillio o newid. Dyma eich cyfle chi i roi llais i brofiadau eich cymuned.
Sicrhau bod gweithredu dros yr hinsawdd yn gweithio i Gymru
Drwy gynnal digwyddiad, byddwch yn cefnogi eraill i ddweud eu dweud. Bydd y safbwyntiau a'r profiadau a rennir yn helpu i lywio penderfyniadau a fydd yn effeithio ar bobl ledled Cymru.