Climate Action Wales Logo

Cyhoeddi yn gyntaf: 19 Medi 2025 -

Wedi diweddaru: 19 Medi 2025 -

Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol

Gwybodaeth am y Gronfa Sgyrsiau am yr Hinsawdd

Grant gan Lywodraeth Cymru yw'r gronfa Sgyrsiau am yr Hinsawdd. Mae’r gronfa’n cael ei hagor bob blwyddyn ar gyfer ceisiadau o gwmpas Wythnos Hinsawdd Cymru. Mae'n bodoli i gefnogi'r cyhoedd i ymuno â'r sgwrs am atebion i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.

A woman addressing a room of students

Gall mudiadau sydd â chysylltiadau â chymunedau wneud cais am gyllid i gynnal digwyddiadau lleol. Nod y gronfa yw casglu tystiolaeth a syniadau gan y cyhoedd. Bydd yr wybodaeth hon wedyn yn llywio proses gwneud penderfyniadau Llywodraeth Cymru am y newid yn yr hinsawdd.

Bydd gofyn i ymgeiswyr llwyddiannus ateb cyfres o gwestiynau penodol gyda chyfranogwyr. Bydd y rhain yn gysylltiedig ag un neu fwy o'r pynciau canlynol:

  • Tai

  • Trafnidiaeth

  • Amaethyddiaeth a defnydd tir

Bydd eich sylwadau yn helpu i lywio penderfyniadau Llywodraeth Cymru. Bydd hyn yn sicrhau tegwch ac yn helpu i ddatgloi manteision newid i bawb. Rhoddir blaenoriaeth i ddigwyddiadau sy'n ymgysylltu â grwpiau a ymyleiddiwyd.

Mae Llywodraeth Cymru eisiau clywed gan gynifer o bobl â phosibl. Mae hyn yn cynnwys y canlynol:

  • Sefydliadau yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat

  • Sefydliadau addysg

  • Sefydliadau trydydd sector

  • Grwpiau cymunedol

  • Aelodau o'r cyhoedd, yn enwedig y rheini y bydd hyn yn cael effaith anghymesur arnynt. E.e. pobl ifanc, pobl hŷn, y rheini sydd â phrofiadau bywyd ac o gefndiroedd amrywiol.

I fod yn gymwys i gael cyllid, rhaid i'ch digwyddiad ymwneud ag o leiaf un o'r tair thema. Bydd angen i'r rhai sy'n bresennol ateb cwestiynau penodol (wedi'u cynnwys yn eich pecyn trefnydd). Rhaid i chi hefyd rannu sylwadau ac adborth ar ffurflen werthuso ar ôl y digwyddiad. Bydd hyn yn helpu i lywio penderfyniadau Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.

Bydd digwyddiadau'r Gronfa Sgyrsiau Cymunedol yn dechrau ar ôl Wythnos Hinsawdd Cymru, ac yn para tan ddiwedd mis Chwefror. Byddant yn adeiladu ar dri gweithdy rhanbarthol, gwahoddiad yn unig, a gynhelir yn ystod y brif wythnos. I gael rhagor o wybodaeth am y gweithdai rhanbarthol gwahoddiad yn unig, cliciwch yma.

I gael rhagor o gymorth neu gyngor ffoniwch

0300 0604400

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol