Climate Action Wales Logo

Cyhoeddi yn gyntaf: 19 Medi 2025 -

Wedi diweddaru: 31 Hydref 2025 -

Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol

Cwestiynau Cyffredin

Pwy sy'n gallu gwneud cais am y Gronfa Sgyrsiau am yr Hinsawdd?

Bydd pob cais yn cael ei werthuso'n unigol gan Lywodraeth Cymru. Rhoddir blaenoriaeth i sefydliadau sydd â chysylltiadau cymunedol cryf a phobl sydd wedi cael profiadau uniongyrchol. Mae hyn yn cynnwys y canlynol:

  • Sefydliadau llywodraeth leol, e.e. awdurdodau lleol a chynghorau tref

  • Sefydliadau nid-er-elw yn y trydydd sector fel grwpiau amgylcheddol ac elusennau

  • Sefydliadau sy'n cynrychioli grwpiau a ymyleiddiwyd

  • Darparwyr addysg, gan gynnwys colegau a phrifysgolion

  • Rhwydweithiau busnes

Mae ceisiadau sy’n cael eu gwneud at ddibenion masnachol, neu geisiadau gan ddylanwadwyr ar y cyfryngau cymdeithasol wedi’u heithrio o’r gronfa.

Caeodd ceisiadau ar gyfer Cronfa Sgyrsiau am yr Hinsawdd 2025 ar ddydd Gwener 31 Hydref.

Mae'r telerau ac amodau ar gael yma.

Ar gyfer pwy mae’r digwyddiadau?

Mae'r Gronfa Sgyrsiau am yr Hinsawdd yn agored i sefydliadau sydd â chysylltiadau â chymunedau ac aelodau o'r cyhoedd ledled Cymru. Rhoddir blaenoriaeth i ddigwyddiadau sy'n ymgysylltu â grwpiau a ymyleiddiwyd, gan gynnwys y canlynol:

  • Lleiafrifoedd ethnig a mudwyr

  • Unigolion sy'n rhan o'r gymuned LHDTCRhA+

  • Pobl anabl

  • Pobl sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol

  • Plant a phobl ifanc

  • Pobl hŷn

  • Ffermwyr a grwpiau gwledig

  • Cymunedau economaidd-gymdeithasol is

  • Cymunedau Cymraeg

  • Pobl mewn sefyllfaoedd byw ansefydlog

Pryd mae'n rhaid cynnal fy nigwyddiad?

Dylech gynnal eich digwyddiad rhwng dydd Llun 17 Tachwedd a dydd Gwener 27 Chwefror.

Alla i newid dyddiad fy nigwyddiad?

Gallwch newid dyddiad eich digwyddiad os oes angen. Os oes angen i chi newid y dyddiad, rhowch wybod i ni drwy e-bostio walesclimateweek@equinox.wales.

Pryd fyddai’n cael gwybod os yw fy nghais wedi bod yn llwyddiannus?

Bydd pob ymgeisydd yn cael gwybod am y canlyniad erbyn dydd Gwener 7 Tachwedd.

Sut mae ceisiadau'n cael eu gwerthuso?

Bydd ceisiadau'n cael eu gwerthuso gan banel o swyddogion Llywodraeth Cymru. Byddant yn asesu ceisiadau ar sail y meini prawf canlynol:

  • Dealltwriaeth o delerau ac amodau'r grant - 40%

Mae'r cais yn cyfleu dealltwriaeth o'r angen i archwilio cyfres o gwestiynau allweddol (wedi’u darparu gan Lywodraeth Cymru) ar un neu fwy o'r pynciau sy'n gysylltiedig â Thai, Trafnidiaeth, Amaethyddiaeth a Defnydd Tir. Mae'r cais yn disgrifio dulliau priodol o wyntyllu’r cwestiynau gyda chynulleidfa'r digwyddiad, ac yn cadarnhau y bydd adroddiad ar ôl y digwyddiad yn cael ei gyflwyno gyda'r dystiolaeth ofynnol.

  • Cynulleidfa darged - 30%

Mae'r cais yn disgrifio'n glir sut mae cynulleidfa darged y digwyddiad yn cyd-fynd ag un neu fwy o gynulleidfaoedd blaenoriaeth y gronfa grant, a sut byddant yn hyrwyddo'r digwyddiad i sicrhau'r nifer darged o fynychwyr.

  • Costau/gwerth am arian - 30%

Mae'r costau cyffredinol o'u cymharu â'r amcangyfrif o nifer y rhai a fydd yn bresennol yn cynnig gwerth am arian, ac mae'r holl gostau unigol yn bodloni meini prawf cymhwysedd y gronfa.

Dylid cyflwyno ffurflenni gwerthuso ar ôl y digwyddiad cyn gynted â phosibl ar ôl eich digwyddiad (o fewn saith diwrnod) neu erbyn y dyddiad cau terfynol, sef dydd Gwener 13 Mawrth.

Pa gwestiynau fydd angen i mi eu harchwilio yn ystod y digwyddiadau?

Bydd y cwestiynau y bydd angen i chi eu harchwilio yn ystod eich digwyddiad yn dibynnu ar ba un o'r themâu rydych chi wedi dewis eu trafod. Dyma'r rhestr lawn.

Pa gymorth fydd ar gael i drefnwyr digwyddiadau?

Bydd cymorth parhaus ar gael i helpu i arwain ymgeiswyr llwyddiannus drwy bob cam o drefnu eu digwyddiadau Sgyrsiau am yr Hinsawdd - o gynllunio i ddarparu ac adrodd.

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, bydd Equinox yn eich gwahodd i sesiwn wybodaeth. Bydd y sesiynau hyn yn gyfle i drafod gofynion y digwyddiadau yn fanylach ac i ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych chi.

Y tu allan i'r sesiynau hyn, byddwch chi'n cael cyswllt penodol yn Equinox a Phecyn i Drefnwyr yn cynnwys cyfres o dudalennau sy'n cynnwys canllawiau, gwybodaeth, awgrymiadau ac offer defnyddiol i'ch helpu i gynllunio a chyflwyno eich digwyddiad.

Pa gostau mae'r Gronfa Sgyrsiau am yr Hinsawdd yn eu talu?

Mae'r Gronfa Sgyrsiau am yr Hinsawdd yn talu costau rhesymol sy'n gysylltiedig â chynnal eich digwyddiad, fel:

  • Costau lleoliad gan gynnwys llogi lleoliad ac unrhyw gostau sy'n gysylltiedig â'r lleoliad rydych chi wedi’i ddewis e.e. llogi offer clyweledol, arlwyo ac ati. Sylwch, os ydych chi'n cynnal eich Sgwrs am yr Hinsawdd fel rhan o ddigwyddiad ehangach, dim ond i dalu am ran o'ch costau y mae modd defnyddio'r Gronfa.

  • Arlwyo, ar yr amod bod y costau'n rhesymol. Gallai hyn gynnwys te a choffi (os nad yw'n cael ei ddarparu gan eich lleoliad), byrbrydau fel bisgedi a ffrwythau neu frechdanau os yw eich digwyddiad yn cael ei gynnal dros amser cinio, er enghraifft.

  • Costau 'pobl' fel mân dreuliau staff a gwirfoddolwyr, is-gontractio siaradwyr gwadd, hwyluswyr, arbenigwyr iaith arwyddion, cyfieithwyr ar y pryd ac ymgynghorwyr i helpu i drefnu eich digwyddiad os oes angen. Yn ogystal, mae modd defnyddio'r Gronfa i dalu costau trydydd parti rhesymol i helpu i gasglu tystiolaeth a llenwi'r ffurflen werthuso ar ôl y digwyddiad os na allwch chi wneud hyn eich hun. Ni fydd y Gronfa'n talu costau staff sydd eisoes wedi'u cyflogi yn y mudiad sy'n ymgeisio oni bai fod achos penodol. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Equinox gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost isod.

  • Offer clyweledol gan gynnwys costau llogi offer clyweledol os nad yw'r rhain wedi'u cynnwys yng nghostau eich lleoliad, a chostau trwyddedu rhesymol sy'n gysylltiedig â chwarae cerddoriaeth a/neu ddangos cynnwys fideo mewn digwyddiad cyhoeddus.

  • Deunyddiau fel deunyddiau hygyrch mewn braille i gefnogi pobl sydd â nam ar eu golwg, arwyddion cyfeirio, bathodynnau enwau, deunyddiau atgoffa cyfyngedig i gefnogi gweithgareddau'r gweithdy a chostau bach ar gyfer gwobrau gystadlaethau. Er mwyn sicrhau bod digwyddiadau mor gynaliadwy â phosibl, dylid argraffu cyn lleied o ddeunyddiau â phosibl.

  • Trafnidiaeth, er enghraifft llogi bws mini i'r rhai sy'n bresennol.

Hyrwyddo gan gynnwys nifer cyfyngedig o bosteri, marchnata digidol a chostau cyfryngau cymdeithasol. Sylwch y dylid argraffu cyn lleied o ddeunyddiau hyrwyddo ag y bo modd, ac na fydd y Gronfa'n talu costau dosbarthu llawer iawn o daflenni neu lythyrau.

Oherwydd diogelu data a GDPR, nid oes modd defnyddio'r Gronfa i dalu costau ffotograffiaeth neu ffilmio, ac ni ddylid rhannu delweddau neu fideos sy'n cynnwys mynychwyr fel rhan o unrhyw adborth ar ôl y digwyddiad. Mae rhagor o fanylion yn y datganiad preifatrwydd.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y costau y mae'r Gronfa Sgyrsiau am yr Hinsawdd yn eu talu neu ddim yn eu talu, anfonwch e-bost at walesclimateweek@equinox.wales.

Gyda phwy ddylwn i gysylltu i gael rhagor o wybodaeth?

Mae'r Gronfa Sgyrsiau am yr Hinsawdd yn cael ei rheoli gan Equinox. Equinox yw trefnydd Wythnos Hinsawdd Cymru, wedi’i benodi gan Lywodraeth Cymru. I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch walesclimateweek@equinox.wales.

I gael rhagor o gymorth neu gyngor ffoniwch

0300 0604400

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol