Cyhoeddi yn gyntaf: 22 Medi 2025 -
Wedi diweddaru: 22 Medi 2025 -
Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol
Cronfa Sgyrsiau am yr Hinsawdd – Telerau ac Amodau
Mae'r Gronfa Sgyrsiau am yr Hinsawdd yn gronfa grant sy'n cael ei lansio gan Lywodraeth Cymru fel rhan o Wythnos Hinsawdd Cymru. Mae'r gronfa wedi'i chynllunio i gefnogi digwyddiadau sy'n cynnwys cymunedau mewn trafodaethau ystyrlon ynghylch newid yn yr hinsawdd. Mae'r telerau ac amodau canlynol yn berthnasol i bob ymgeisydd a phawb sy’n llwyddo i dderbyn grant.
1. Meini prawf cymhwysedd
I fod yn gymwys ar gyfer y Gronfa Sgyrsiau am yr Hinsawdd, rhaid i ymgeiswyr fod yn sefydliadau sydd â chysylltiadau cymunedol cryf neu'n cynrychioli grwpiau sydd ar y cyrion. Rhoddir blaenoriaeth i:
Sefydliadau llywodraeth leol (e.e. awdurdodau lleol, cynghorau tref)
Mudiadau dielw'r trydydd sector (e.e. grwpiau amgylcheddol, elusennau)
Sefydliadau sy'n cynrychioli grwpiau ar y cyrion
Darparwyr addysg (e.e. colegau, prifysgolion)
Rhwydweithiau busnes
Nid yw'r gronfa'n cynnwys ceisiadau at ddibenion masnachol na cheisiadau gan ddylanwadwyr ar gyfryngau cymdeithasol.
2. Amser y digwyddiad
Dylai eich digwyddiad gael ei gynnal rhwng dydd Llun 17 Tachwedd 2025 a dydd Gwener 27 Chwefror 2026.
Os oes angen i chi newid dyddiad y digwyddiad, mae'n rhaid cytuno ar hyn ymlaen llaw gydag Equinox, sy'n gweithredu ar ran Llywodraeth Cymru.
3. Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw dydd Llun 20 Hydref 2025.
Mae Llywodraeth Cymru yn cadw'r hawl i gau'r gronfa ar gyfer ceisiadau yn gynnar os bydd gormod o geisiadau.
4. Adolygu'r cais
Bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu ac yn gwerthuso pob cais.
Bydd Equinox, y contractwr sydd wedi'i benodi ar ran Llywodraeth Cymru, yn delio â'r holl ymholiadau, y gwaith gweinyddol, y cymorth a'r taliadau sy'n gysylltiedig â'r gronfa.
Cyn i'r panel gwerthuso gwrdd, bydd Equinox yn gwirio pob cais am wybodaeth sydd ar goll neu bwyntiau sydd angen eu hegluro.
Bydd panel gwerthuso Llywodraeth Cymru yn adolygu pob cais ym mis Hydref 2025.
Caiff ymgeiswyr wybod am ganlyniad eu cais yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 27 Hydref 2025. Bydd y panel yn rhoi adborth bryd hynny.
5. Meini prawf asesu
Byddwn yn rhoi sgôr i’r ceisiadau yn seiliedig ar y meini prawf canlynol:
Perthnasedd i'r pwnc Addasu
Priodoldeb a chyrhaeddiad y gynulleidfa darged
Arloesedd/creadigrwydd y cynnig
Costau cymwys sy'n gysylltiedig â'r digwyddiad
6. Blaenoriaeth i grwpiau sydd ar y cyrion
Rhoddir blaenoriaeth i ddigwyddiadau sy'n cynnwys y grwpiau canlynol sydd ar y cyrion:
Lleiafrifoedd ethnig a mudwyr
Unigolion LHDTCRhA+
Pobl anabl
Pobl sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol
Plant a phobl ifanc
Pobl hŷn
Ffermwyr a chymunedau gwledig
Cymunedau economaidd-gymdeithasol is
Cymunedau sy'n siarad Cymraeg
Pobl mewn sefyllfaoedd byw ansefydlog
7. Telerau Talu
Taliad cychwynnol: Bydd 50% o'r grant yn cael ei dalu cyn y digwyddiad.
Taliad terfynol: Bydd 50% yn cael ei dalu mewn ôl-daliadau, ar ôl cyflwyno'r adroddiad ar ôl y digwyddiad.
Sylwch: Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn cyfarwyddiadau clir am delerau'r taliad gan Equinox. Mae'n rhaid llofnodi cytundeb grant cyn talu, ac mae'n rhaid codi anfoneb (sy'n cynnwys TAW) a'i hanfon at Equinox i gael swm llawn y grant.
Bydd y taliad terfynol yn cael ei wneud cyn gynted ag y bydd Equinox yn derbyn adroddiad boddhaol ar ôl y digwyddiad yn cadarnhau bod y digwyddiad wedi'i gwblhau'n llwyddiannus.
8. Defnyddio’r arian
Gellir defnyddio'r Gronfa Sgyrsiau am yr Hinsawdd i dalu am gostau rhesymol sy'n uniongyrchol gysylltiedig â threfnu, hyrwyddo a hwyluso'r digwyddiad, gan gynnwys:
Gweithgareddau marchnata a hyrwyddo
Llogi lleoliad
Arlwyo a lluniaeth
Offer clyweledol
Talu am hwylusydd hyfforddedig
Treuliau personol rhesymol
Nid yw'r gronfa ar gyfer:
Costau staffio
Ffioedd siaradwyr
Ffotograffwyr/fideograffwyr
Cynhyrchu deunyddiau i'w defnyddio yn y tymor hir (e.e. llyfrynnau)
Costau argraffu
9. Trefnu’r digwyddiad ac adroddiadau
Mae'r ymgeiswyr llwyddiannus yn gyfrifol am y canlynol:
Trefnu a hyrwyddo eu digwyddiadau.
Bydd Equinox yn darparu Pecyn Trefnwyr a gwahoddiad i gyfarfod rhithwir lle bydd yn rhannu awgrymiadau ar sut i drefnu, hyrwyddo a hwyluso'r digwyddiad.
Data personol: Chi sy'n gyfrifol am reoli gwahoddiadau ac unrhyw ddata personol sy'n gysylltiedig â'ch digwyddiad. Peidiwch â rhannu data personol ag Equinox na Llywodraeth Cymru.
Adroddiad ar ôl y digwyddiad: Mae'n rhaid i chi gyflwyno adroddiad sy'n crynhoi'r trafodaethau o'ch digwyddiad i Equinox o fewn 7 diwrnod gwaith, a dim hwyrach na dydd Gwener 13 Mawrth 2026. Dim ond ar ôl derbyn yr adroddiad wedi'i gwblhau y telir y grant yn llawn.
10. Telerau cyffredinol
Equinox fydd yn rheoli'r holl ymholiadau, y gwaith gweinyddol a’r cymorth sy'n gysylltiedig â'r gronfa. Gallwch gysylltu ag Equinox drwy anfon e-bost at walesclimateweek@equinox.wales.
Os oes gennych chi gwestiynau ynghylch y telerau ac amodau hyn, cysylltwch ag Equinox i gael eglurhad.
11. Cau’r cyfnod cyflwyno ceisiadau
Mae Llywodraeth Cymru yn cadw'r hawl i roi'r gorau i dderbyn ceisiadau'n gynnar neu i roi cap ar nifer y ceisiadau y mae'n eu cymeradwyo, yn dibynnu ar lefel y galw a'r cyllid sydd ar gael.