Cyhoeddi yn gyntaf: 21 Hydref 2025 -
Wedi diweddaru: 21 Hydref 2025 -
Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol
Cwestiynau i'r cyhoedd ar gyfer digwyddiadau cymunedol y Gronfa Sgyrsiau am yr Hinsawdd
Cwestiynau Cyffredin
Beth sydd angen ei wneud i annog rhagor o bobl i wneud penderfyniadau mwy gwyrdd – wrth deithio, gwresogi eu cartrefi, a dewis diet?
Sut mae sicrhau bod pobl, yn enwedig y bobl hynny sydd ar incwm is, yn gallu fforddio’r costau sy’n dod law yn llaw â phympiau gwres, paneli solar, cerbydau trydan a thechnolegau carbon isel eraill?
Beth allwn ni ei wneud i baratoi pobl yn well at sgil-effeithiau newid hinsawdd – gan gynnwys llifogydd a thywydd poeth eithriadol – a’u hannog i wneud penderfyniadau sy'n fwy gwyrdd?
Yn eich barn chi, beth fyddai’n helpu i warchod a gwella bywyd gwyllt a llecynnau gwyrdd yn eich ardal chi, a sut mae mynd ati i annog pobl i blannu mwy o goed?
Sut hoffech chi gyfrannu at y penderfyniadau mae’r Llywodraeth yn ei wneud am newid hinsawdd? E.e. cynnal arolygon rheolaidd, pwyllgorau cyhoeddus, a chyfarfodydd yn fy ardal leol.
Bydd angen gweithlu medrus a thechnoleg addas i fynd i’r afael â newid hinsawdd. Beth yw’r sgiliau, swyddi a'r technolegau sydd eu hangen yn eich ardal chi?
Defnydd Tir Amaethyddol
Y prif gwestiynau
Sut allai ffermwyr leihau allyriadau anifeiliaid, newid y ffordd maen nhw’n ffermio a phlannu mwy o goed er mwyn cefnogi byd natur?
Beth yw’r cyfleoedd?
Beth yw’r rhwystrau? Sut mae cael gwared arnyn nhw?
Cwestiynau ategol
Sut dylai Cymru fynd ati i ddewis pa dir sy’n cael ei ddefnyddio i gynhyrchu bwyd, plannu coed, adeiladu tai a chreu ynni adnewyddadwy?
Sut byddai technolegau newydd (drôns, lloerennau, deallusrwydd artiffisial ac ati) yn gallu helpu ffermwyr a’u cymunedau lleol i addasu i’r newid yn yr hinsawdd? (e.e. monitro cnydau, erydu, a lefelau llygredd)
Tai
Y prif gwestiynau
Sut mae mynd ati i gyflymu’r broses o wella effeithlonrwydd ynni ein cartrefi, a’u gwneud yn fwy gwyrdd?
Beth yw’r cyfleoedd?
Beth yw’r rhwystrau? Sut mae cael gwared ar y rhwystrau?
Cwestiynau ategol
Beth fyddai’n eich cymell chi neu eich landlord i wella effeithlonrwydd ynni eich cartrefi, ac ystyried gosod pympiau gwres a/neu baneli solar?
Ydych chi’n gwybod lle i fynd i gael cyngor a chymorth ar sut i wella effeithlonrwydd ynni eich cartref? Os nad ydych chi’n gwybod lle i gael cymorth, nodwch pa fath o gymorth byddech chi’n elwa ohono a phwy ddylai ei ddarparu?
Pa swyddi newydd neu gyfleoedd busnes allai gael eu creu drwy wneud tai yng Nghymru yn fwy gwyrdd? Sut allwn ni ddenu pobl ifanc i’r gyrfaoedd hyn?
Trafnidiaeth
Y prif gwestiynau
Sut allwn ni deithio mewn ffordd sy’n fwy gwyrdd a chynnig datrysiadau cyfleus, hygyrch, fforddiadwy a theg?
Beth yw’r cyfleoedd?
Beth yw’r rhwystrau? Sut mae cael gwared ar y rhwystrau?
Cwestiynau ategol
Beth allai gymell mwy o bobl i gerdded, beicio neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn amlach? Sut mae cael gwared ar y rhwystrau?
Beth allai gymell rhagor o bobl i ystyried cael cerbyd trydan, a sut mae goresgyn yr heriau sy’n atal pobl rhag gwneud hynny?
Pa gamau gweithredu dylai Llywodraeth Cymru eu cymryd i wneud y sector trafnidiaeth yng Nghymru yn fwy gwyrdd? E.e. gwella trafnidiaeth gyhoeddus, ei gwneud hi’n haws i gerdded a beicio neu roi cefnogaeth i’r rhai sy’n awyddus i newid i gerbyd trydan ond sydd ddim yn gallu fforddio gwneud hynny?