Climate Action Wales Logo

Cyhoeddi yn gyntaf: 19 Medi 2025 -

Wedi diweddaru: 31 Hydref 2025 -

Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol

Cronfa Sgyrsiau am yr Hinsawdd

Caeodd ceisiadau ar gyfer Cronfa Sgyrsiau am yr Hinsawdd 2025 ar ddydd Gwener 31 Hydref.

Mae mynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd wedi'i gynnwys yn ein cyfreithiau. Mae gennym dargedau hinsawdd sy'n rhwymo mewn cyfraith i gyrraedd sero net erbyn 2050, a chyllidebau carbon interim. Bydd y nesaf, Cyllideb Garbon 3, yn cael ei chyhoeddi yn 2026.

Bydd Cyllideb Garbon 3 yn llywio sut y bydd Cymru'n ymateb i newid yn yr hinsawdd dros y pum mlynedd nesaf. Bydd y cyfnod hwn dros y pum mlynedd nesaf, ac ymhellach dros y degawd nesaf, yn hanfodol yn nhaith Cymru tuag at sero net ac mae'n cynnig potensial gwirioneddol i ddatgloi cyfleoedd go iawn ar gyfer Cymru decach a mwy cyfartal. Dyna pam rydym ni eisiau clywed gennych chi.

Yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, rydych chi'n cael eich gwahodd i ymuno â'r sgwrs a sicrhau bod llais eich cymuned yn cael ei glywed drwy gynnal eich Sgwrs Hinsawdd eich hun. Bydd yr wybodaeth, y syniadau a'r profiadau sy’n cael eu rhannu yn ystod y trafodaethau hyn yn cael eu hystyried wrth ddatblygu'r cynllun ar gyfer Cyllideb Garbon 3, gan helpu i sicrhau ymateb teg a chynhwysol sy'n dod â manteision ariannol, llesiant ac iechyd i ni gyd.

Gwnewch gais ar-lein nawr.

I gael rhagor o gymorth neu gyngor ffoniwch

0300 0604400

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol