Climate Action Wales Logo

Cyhoeddi yn gyntaf: 10 Hydref 2025 -

Wedi diweddaru: 10 Hydref 2025 -

Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol

Byddwch yn rhan o’r trafodaethau yng nghynhadledd rithwir Wythnos Hinsawdd Cymru

Mae cynhadledd rithwir eleni wedi’i chynllunio i fod yn un gwbl ryngweithiol, felly byddwch yn barod i fod yn rhan o rywbeth gwirioneddol bwysig.

A man sitting at a desk typing on a laptop while wearing headphones

Fel rhanddeiliaid, mae eich cyfraniad yn hanfodol, a’r gynhadledd rithwir yw eich cyfle i helpu i ffurfio dyfodol hinsawdd Cymru am y pum mlynedd a mwy nesaf.

Os ydych yn gweithio yn y sector cyhoeddus, mewn busnes, neu yn y gymuned, ac yn ymuno â ni o swyddfa, ystafell fwrdd neu fwrdd y gegin, mae eich llais yn cyfrif.

Mae gennym i gyd rôl i wireddu’r cyfleoedd sy’n rhan o fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, ac mae cynhadledd rithwir eleni’n cynnig nifer o ffyrdd gwahanol i gyfranogwyr fod yn rhan o’r trafodaethau. 

Mi allwch gymryd rhan drwy rannu eich gwybodaeth, eich syniadau, eich profiad a’ch meddyliau, yn enwedig sut y gall Cymru arwain o ran sut yr ydym yn teithio, yn cynhesu ein cartrefi ac yn gofalu am ein tir.

Gwneud sylwadau yn ein blwch sgwrsio

Yn ystod yr holl bodlediadau a sesiynau panel, gofynnir i’r cyfranogwyr ymuno yn y trafodaethau drwy eu gwahodd i wneud sylwadau, gofyn cwestiynau a rhannu syniadau drwy ein blwch sgwrsio. Bydd yr holl wybodaeth a rennir gan gyfranogwyr yn ystod y gynhadledd yn cael ei chasglu a bydd yn helpu Llywodraeth Cymru i wneud penderfyniadau polisi yn y dyfodol.

Cwblhau ein harolygon barn rhyngweithiol

Yn ystod y gynhadledd bydd cyfres o arolygon barn rhyngweithiol a fydd yn gofyn cwestiynau sy’n deillio o sesiynau blaenorol. Bydd yr arolygon hyn yn bwysig iawn inni i helpu i feincnodi barn, sylwadau ac adweithiau i drafodaethau a gafwyd yn ystod yr wythnos. Byddant hefyd yn gyfle i gyfranogwyr i rannu eu sylwadau neu eu gwybodaeth am y pynciau sy’n cael sylw. 

Mynychu sesiwn Climate Co-Lab 

Yn ogystal â chynnig cyfle i fynychwyr i wneud sylwadau neu ofyn cwestiynau yn y blwch sgwrsio yn ystod pob sgwrs, fel rhan o gynhadledd eleni, bydd cyd-weithdai yn cael eu hwyluso. Bydd un gweithdy rhyngweithiol yn cael ei gynnal yn ystod pob diwrnod o’r gynhadledd gyda phob un yn edrych ar yr heriau sy’n wynebu’r sector.

Os ydych wedi datgan diddordeb mewn ymuno â’n Climate Co-labs wrth gofrestru ar gyfer y digwyddiad, byddwn yn cysylltu â chi i ymuno yn y drafodaeth ac i rannu eich profiad a’ch arbenigedd yn y pwnc o’ch dewis. Yn anffodus, sesiynau caeedig fydd y rhain, felly dim ond y sawl sydd wedi cofrestru i fynychu fydd yn cael gwahoddiad i ymuno. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r rhain neu os hoffech newid eich ymateb, anfonwch e-bost i walesclimateweek@equinox.wales.

Gwneud adduned

Fel unigolyn neu fel rhan o sefydliad, gall y newidiadau bychain y bydd pobl yn eu gwneud arwain at wahaniaeth mawr. Os oes gennych chi fel sefydliad awydd gwneud adduned i newid sut mae eich cydweithwyr yn teithio, yn defnyddio ynni ac yn gwneud dewisiadau o ran bwyd, ewch i’r dudalen addunedau lle ceir cyfres o awgrymiadau a syniadau. 

Mae cynhadledd rithwyr Wythnos Hinsawdd Cymru 2025 yn gyfle pwysig inni i weithredu gyda’n gilydd ac i greu cynllun ymarferol am y pum mlynedd a mwy nesaf. Bydd y gynhadledd rithwir, a’r gweithdai rhanbarthol a digwyddiadau’r Gronfa Sgyrsiau am yr Hinsawdd yn gyfle i glywed barn amrywiaeth eang o bobl o bob cwr o Gymru. Bydd hyn yn ein helpu i wneud penderfyniadau polisi ar gyllid a seilwaith yn y dyfodol. 

Manteisiwch ar stondin yn ein gofod arddangos rhithwir

Eleni, cynigir cyfle i randdeiliaid fanteisio ar stondin yn ein canolfan gynadledda ddigidol, lle byddant yn gallu arddangos adnoddau, cynnal trafodaethau a chael sgyrsiau un i un â rhanddeiliaid eraill. Am ragor o wybodaeth am ein man arddangos, cliciwch yma.

Diolch am eich diddordeb ac edrychwn ymlaen at eich gweld yn Wythnos Hinsawdd Cymru 2025.

I gael rhagor o gymorth neu gyngor ffoniwch

0300 0604400

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol