Cyhoeddi yn gyntaf: 19 Medi 2025 -
Wedi diweddaru: 19 Medi 2025 -
Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol
Ardal arddangosfa rithiol Wythnos Hinsawdd Cymru
Mae Wythnos Hinsawdd Cymru eleni'n cael ei chyflwyno i chi drwy lwyfan digwyddiad rhithiol o'r enw Airmeet. Nid eich llwyfan digwyddiad cyffredin mo hwn. Yn hytrach, dylech ei ystyried fel eich canolfan gynadledda ddigidol, sy'n cynnwys popeth sydd ei angen arnoch i gysylltu, cydweithio a chanfod cyfleoedd newydd.
Mae'r llwyfan wedi'i gynllunio i helpu cyfranogwyr i lywio'n ddidrafferth drwy'r gynhadledd rithiol. Bydd modd i chi neidio rhwng sesiynau, cael cipolwg ar yr amserlen lawn ar gyfer yr wythnos, galw mewn i fannau rhwydweithio ac archwilio'r gofod arddangos rhithiol - i gyd drwy bwyso botwm.
:fill(fff))
Arddangos eich gwaith
Mae'r llwyfan Airmeet hefyd yn cynnig y cyfle i chi arddangos eich gwaith mewn bwth y gellir ei addasu'n llwyr o fewn ei ofod arddangos rhyngweithiol.
Mae modd brandio'r bythau gan ddefnyddio logos neu ddelweddau a byddant yn cynnig cyfle i chi arddangos adnoddau, cynnal trafodaethau byw a neidio i mewn i drafodaethau un-i-un gyda rhanddeiliaid eraill drwy nodwedd sgwrs fyw o gwmpas bwrdd cyfarfod rhithiol. Mae gofodau arddangos yn rhad ac am ddim, felly os oes gennych ddiddordeb mewn bachu un, cysylltwch â walesclimateweek@equinox.wales a bydd y trefnwyr yn cysylltu â chi maes o law i'ch cynghori ar y camau nesaf. Os bydd gennych chi fwth, cofiwch y bydd angen i chi fod wrth law yn ystod y gynhadledd i sgwrsio ag ymwelwyr ac ymateb i geisiadau am gyfarfodydd.
Beth all ymwelwyr ei ddisgwyl
Bydd yr ardal arddangosfa yn agored i bawb sy'n cymryd rhan yn Wythnos Hinsawdd Cymru. Yma, cewch archwilio'r ganolfan gynadledda ddigidol wrth eich pwysau. Bydd modd i chi wylio trafodaethau panel byw, ymuno yn y sgyrsiau, cymryd rhan mewn pleidleisiau, cysylltu'n uniongyrchol â rhanddeiliaid eraill drwy'r llwyfan arddangosfa a lawrlwytho adnoddau defnyddiol.
Bydd cynhadledd rithiol Wythnos Hinsawdd Cymru eleni heb ei thebyg ac edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno.