Climate Action Wales Logo

Cyhoeddi yn gyntaf: 17 Rhagfyr 2025 -

Wedi diweddaru: 17 Rhagfyr 2025 -

Verified by our Editorial Panel

Sut all AI chwarae rhan yn helpu i ddatrys ein problemau hinsawdd?

Wrth i Gymru geisio cydio yn y cyfleoedd i leihau allyriadau o’r sector amaethyddol – mae technoleg, arloesi ac AI yn cynnig datrysiadau chwyldroadol.

A man using a watering can to water the ground at a community allotment

Yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru, daeth arbenigwyr o’r sector amaeth a rheoli tir ynghyd er mwyn trafod sut allwn amrywio’r ffordd rydym ni’n rheoli ein tir - gyda ffocws cryf ar gymryd y cyfle i gydbwyso cynhyrchu bwyd gydag amddiffyn bioamrywiaeth, lleihau allyriadau a gwella gwytnwch ein tir yn wyneb effeithiau newid hinsawdd.

O AI a dronau i arloesiadau mewn bwydydd anifeiliaid a datblygiadau mewn mesur ansawdd y pridd, cytunwyd y byddai technoleg yn chwarae rhan hanfodol o ran lleihau ein hallyriadau carbon ar draws y sector amaethyddol.

Yn ystod ei thrafodaeth gyda Steffan Powell yn y podlediad 'Talks for Tomorrow' pwysleisiodd Dr Rebecca Heaton y rôl bwysig mae rheoli ein tir yn ei chwarae yn achos nifer o faterion yn ymwneud â’r hinsawdd. Roedd hi’n ymarferol iawn o ran meddwl am y ffyrdd y gallai Cymru symud yn ei blaen ond roedd ganddi un ble eglur iawn – yr angen i gynnwys pawb yn y sgwrs. 

Canolbwyntiodd y trafodaethau ar bedair thema allweddol:

  • Rôl technoleg ac AI

  • Cydweithredu

  • Cyfathrebu

  • Datblygu’r datrysiadau

Women smiling and gardening together

Rôl technoleg ac AI

Pwysleisiodd Dr Rebecca Heaton bwysigrwydd y rôl y bydd gan dechnoleg wrth adeiladu gwytnwch hirdymor o ran newid hinsawdd a chynaliadwyedd.

Er bod ffermwyr a rheolwyr tir yn datblygu eu harferion rheoli tir yn gyson, mae peth petruster o hyd ynghylch defnyddio technoleg, yn arbennig felly o safbwynt addasu’r hinsawdd. Fodd bynnag, fel y dywedodd Dr Heaton, mae gan Gymru nifer o brifysgolion, sy’n cyflawni llawer o arloesi a fydd yn helpu i yrru datrysiadau yn y gofod hwn, yn arbennig felly o ran rheoli pridd, rheoli da byw a rheoli a dosbarthu maeth a gwrtaith.  Gall y technolegau hyn helpu gyda chymhwyso manwl yn ogystal â mesur effaith.

Yr allwedd fydd sicrhau nad yw ffermwyr a rheolwyr tir yn teimlo wedi’u llethu gan yr holl dechnoleg newydd a bod y dewisiadau, y buddion a sut i ddefnyddio technolegau yn cael eu cyfathrebu’n eglur.

Gweithio gyda’n gilydd yw’r ateb

Trafododd siaradwyr a phanelwyr am gymhlethdod lleihau allyriadau carbon o’n harferion rheoli tir. Rhoddwyd pwyslais ar y ffaith bod gan bob rheolwr tir, tirfeddiannwr a ffermwr wahanol amcanion ar gyfer eu tir, felly bydd yn bwysig sicrhau y bydd unrhyw newidiadau a awgrymir i arferion ffermio yn cefnogi’r rhain, gan leihau allyriadau carbon hefyd.

Yn ogystal, cytunodd arbenigwyr y bydd gweithredoedd yn cael eu cyflawni dim ond os yw pawb yn gweithio gyda’i gilydd i ddod o hyd i ddatrysiadau ymarferol sy’n gallu bod o fudd i bob un, a bod cynifer o bobl â phosib yn rhan o’r sgwrs. Bydd penderfyniadau cydweithredol ac ar y cyd yn allweddol i ddwyn pobl ynghyd ar y daith.

Beth am gael pawb i siarad

Gan adeiladu ar destun cydweithredu, nododd arbenigwyr y diwydiant y pwynt ein bod angen gwneud yn fawr o sefydliadau fel y Friendly Farmers Network er mwyn sicrhau bod y buddion yn cael eu cyfathrebu’n eglur. Mae yna bwyslais cryf ar sicrhau bod ffermwyr yn deall yn llwyr beth yw’r cyfleoedd ariannol ac ymarferol sy’n gysylltiedig ag amrywio eu harferion ffermio. Nid yn unig hyn, ond cytunodd arbenigwyr fod angen i ffermwyr a thirfeddianwyr fod yn rhan o’r trafodaethau hefyd, er mwyn cytuno ar y dull o wneud hyn cyn i’r newidiadau gael eu rhoi ar waith.

Fel y dywedodd Dr Rebecca Heaton, Mae’n ymwneud â sicrhau bod gan y tirfeddiannwr lais, a bod pobl wedi ymgynghori gyda nhw ynghylch y newidiadau i’w tir.”

Datblygu’r datrysiadau

Yn ddiweddar mae’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy wedi’i addasu i greu rheol gyffredinol ar gyfer rheoli tir, gan bwysleisio’r effaith ar fyd natur, glaswelltir a dŵr. Mae yna wedyn opsiynau, os yw’n briodol, i fynd dros y trothwy sy’n dod â buddion ariannol ychwanegol. Drwy gael yr opsiynau hyn yn eu lle, gall ffermwyr ddatblygu eu harferion er mwyn bodloni anghenion eu tir, gan ganiatáu agwedd fwy ymarferol at newid.

Dywedodd Dr Heaton: “Nid newid graddfa’n gyfan gwbl mo hyn, ond yn hytrach rhyw fath o esblygiad. Mae cymryd rhai o’r camau hawdd yna i ddechrau arni, megis newid eich bwyd anifeiliaid yn gwneud pethau’n llai brawychus.”

Beth sy'n digwydd nesaf?

Bydd mewnwelediadau a thystiolaeth o’r trafodaethau hyn yn sail i gynllun Cyllideb Carbon 3 (2026-2030). Bydd crynodeb o ddeilliannau o drafodaethau Wythnos Hinsawdd Cymru yn cael eu cyhoeddi ochr yn ochr â’r cynllun newydd ar ddiwedd y flwyddyn nesaf.

Os hoffech wylio sesiynau Wythnos Hinsawdd Cymru 2025, gallwch wneud hynny yma.

I gael rhagor o gymorth neu gyngor ffoniwch

0300 0604400

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol