Cyhoeddi yn gyntaf: 31/07/2025 -
Wedi diweddaru: 31/07/2025 -
Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol
Cadwch y dyddiad ar gyfer Wythnos Hinsawdd Cymru | 03-07 Tachwedd 2025
Mae Cymru lanach, wyrddach a chryfach ar y gorwel... Ac mae'r cyfan yn dechrau yma.
:fill(fff))
Bydd y dewisiadau a wnawn nawr a thros y degawd nesaf yn hanfodol ar ein llwybr at sero net. Mae Wythnos Hinsawdd Cymru yn dychwelyd ym mis Tachwedd, gan ddod â phobl Cymru at ei gilydd i siarad, cynllunio a gweithredu ar y penderfyniadau hinsawdd pwysicaf.
Ar beth fyddwn ni'n ei ganolbwyntio eleni? Gyda'r cynllun 5 mlynedd nesaf yn cael ei ddatblygu, mae angen i ni edrych ar y newidiadau y gellir eu gwneud mewn meysydd lle mae gan Gymru'r pŵer i arwain a'r cyfle i ffynnu – o sut rydyn ni'n teithio, i sut rydyn ni'n gwresogi ein cartrefi, tyfu ein bwyd a gofalu am ein tir. Byddwn yn ysgogi sgyrsiau ynghylch:
Sut y gallwn ddatgloi manteision newid - o filiau ynni is a swyddi gwyrdd newydd i gymunedau iachach a byd naturiol sy'n ffynnu.
Sut rydyn ni'n chwalu'r rhwystrau sy'n sefyll yn ein ffordd.
Y lleisiau sydd wedi'u tangynrychioli y mae angen i ni glywed oddi wrthynt.
Y risgiau neu'r canlyniadau y mae angen i ni eu hosgoi.
:fill(fff))
Felly, p'un a ydych chi'n dod o'r sector cyhoeddus; diwydiant neu fyd busnes; yn gweithio yn y gymuned; neu'n aelod o'r cyhoedd sydd eisiau gwneud gwahaniaeth - gallwch gymryd rhan drwy:
👥 Ymuno â sesiynau byw ar-lein
📍 Cymryd rhan mewn digwyddiadau lleol – neu gynnal digwyddiad eich hun
📱 Ymuno â'r sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #WythnosHinsawddCymru a #WalesClimateWeek
Bydd mwy o fanylion yn cael eu datgelu'n fuan. Tan hynny, rhowch y dyddiad yn eich calendr a gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn Gweithredu ar Hinsawdd Cymru ar Facebook, Instagram or neu X.