Climate Action Wales Logo

Cyhoeddi yn gyntaf: 21 Ionawr 2026 -

Wedi diweddaru: 27 Ionawr 2026 -

Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol

Trwsia fe, paid taflu fe

Oes gen ti eitem sydd angen ei drwsio? Paid â'i daflu i ffwrdd - trwsia fe am ddim.

Mae Caffi Trwsio Cymru yn cynnal digwyddiadau am ddim sy'n cael eu cynnal gan wirfoddolwyr sydd wedi trwsio dros 21,000 o eitemau ac wedi arbed dros £1m drwy drwsio eitemau. Felly, p'un a yw dy hoff bar o jîns, esgidiau, lamp, hwfer neu feic, gallai gwirfoddolwyr medrus Caffi Trwsio Cymru roi bywyd newydd i dy eitemau am ddim.

Chwilia am dy ddigwyddiad agosaf yma.

Pa fath o eitemau y mae Caffi Trwsio Cymru yn eu trwsio?

  • Hwfer

  • Lamp

  • Dillad

  • Teganau plant

  • Offer trydanol bach yn y cartref fel clorian drydan, peiriant rhwygo papur, peiriant creu sudd, chwaraewyr recordiau a radio.

  • Offer pŵer

A button being sewn back onto a blue jacket

Chwilia am dy ddigwyddiad agosaf:

Caerdydd

  • Rhiwbeina - 01/02, 13:30 - 16:00

  • Cathays - 07/02, 10:00 - 13:00

  • Grangetown - 07/02, 11:00 - 14:00

  • Sblot - 14/02, 10:00 - 13:00

  • Y Tyllgoed - 14/02, 11:00 - 13:00

  • Treganna - 21/02, 11:00 - 13:00

  • Yr Eglwys Newydd - 21/02, 14:00 - 16:00

  • Llanisien - 22/02, 13:00 - 15:00

  • Caerau a Threlái - 28/02, 10:00 - 13:00

Bro Morgannwg

  • Y Barri - 07/02, 10:00 - 13:00

  • Sili - 08/02, 14:00 - 16:30

  • Llanilltud Fawr - 14/02, 10:00 - 12:00

  • Y Bont-faen - 21/02, 10:00 - 12:00

  • Penarth - 22/02, 14:00 - 16:30

  • Gwenfô - 28/02, 10:00 - 12:30

Wrecsam

  • Plas Madoc - 06/02, 12:15 - 14:15

  • OJ Dolywern - 12/02, 14:00 - 16:00

  • Parc Caia - 14/02, 11:00 - 13:00

  • Tŷ Pawb - 21/02, 11:00 - 15:00

Ddim yn gweld dy ardal leol ar y rhestr?

Ar wefan Caffi Trwsio Cymru mae rhagor o ddigwyddiadau yn dy ardal di.

Mae Caffis Trwsio yn ymwneud â mwy na thrwsio pethau - maen nhw'n dod â phobl at ei gilydd i rannu sgiliau a helpu i leihau gwastraff.

Pam trwsio yn hytrach na phrynu un newydd?

Coin icon

Arbed arian

Mae trwsio eitem fel arfer yn rhatach na phrynu un newydd. Gallai gwirfoddolwyr Caffi Trwsio Cymru drwsio dy eitemau am ddim hyd yn oed.

Bin icon

Lleihau gwastraff

Mae trwsio yn hytrach na thaflu eitemau i ffwrdd yn helpu i gadw gwastraff allan o safleoedd tirlenwi.

Cadw dy eitemau am gyfnod hirach

Mae'n iawn bod rhai eitemau yn bwysig iawn i ti. Mae trwsio yn dy helpu i fwynhau'r pethau rwyt ti’n dwlu arnyn nhw am gyfnod hirach. 

Emissions cloud icon

Lleihau allyriadau

Mae 45% o'n hallyriadau byd-eang yn cael eu cynhyrchu wrth greu cynhyrchion newydd. Mae trwsio yn lleihau'r galw ac yn helpu i ddiogelu adnoddau gwerthfawr. 

Dysga fwy

I gael rhagor o gymorth neu gyngor ffoniwch

0300 0604400

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol