Climate Action Wales Logo

Cyhoeddi yn gyntaf: 9 Mawrth 2026 -

Wedi diweddaru: 9 Mawrth 2026 -

Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol

Pympiau gwres yn rhoi hwb i economi Cymru ac yn creu swyddi gwyrdd

Mae postiad gwadd gan HPA UK, y gymdeithas genedlaethol ar gyfer y sector pympiau gwres, yn dangos sut mae’r genedl yn elwa wrth i aelwydydd uwchraddio eu systemau gwresogi.

A woman stood next to a heat pump

Pam mae pympiau gwres yn bwysig i economi Cymru

Mae Cymru yn arwain y ffordd o ran systemau gwresogi glân. Mae mwy a mwy o aelwydydd yma yn dewis buddsoddi mewn pwmp gwres i leihau eu hallyriadau carbon a’u biliau ynni. 

Ac mae yna fwy o newyddion da. Mae’r cynnydd sydyn mewn gosodiadau yn rhoi hwb economaidd mawr i Gymru hefyd. Mae’n addo darparu miloedd o swyddi o ansawdd uchel ac economi gryfach ar gyfer y dyfodol.

Mae adroddiad diweddaraf HPA UK yn dangos yr hyn y gall Cymru ei ddisgwyl os bydd y duedd yn parhau. Os byddwn ni’n cynyddu gwres wedi’i ddatgarboneiddio yn unol â Chynllun Cyflawni Twf a Chyllideb Carbon Llywodraeth y DU ar gyfer 2025-2035:

  • Gallai cyfanswm gwerth nwyddau a gwasanaethau o osod a gwasanaethu pympiau gwres yng Nghymru (a ddiffinnir fel arfer fel “Gwerth Ychwanegol Gros” neu GYC) dyfu i £529 miliwn y flwyddyn erbyn 2035. Mae hyn yn gynnydd o 500% o’r ffigur presennol o tua £80 miliwn.

  • Ledled y DU, gallai trydaneiddio systemau gwresogi cartrefi (yn bennaf trwy bympiau gwres) arwain at gynnydd o 85% mewn GYC o’r sector gwresogi cartrefi cyfan erbyn 2035, hyd at £22.5 biliwn.

Mae hyn yn golygu busnesau lleol cryfach, mwy o fuddsoddiad a mwy o gyfleoedd economaidd.

Sgiliau a gyrfaoedd ar gyfer dyfodol cynaliadwy

Mae’r sector pympiau gwres yn darparu swyddi medrus o ansawdd uchel. Bydd marchnad sy’n tyfu yn golygu y bydd galw mawr am yrfaoedd mewn hyfforddiant, gweithgynhyrchu, gosod a chynnal a chadw.

Yn 2025, amcangyfrifwyd bod y sector gosod a gwasanaethu pympiau gwres yng Nghymru yn darparu 905 o swyddi cyfwerth ag amser llawn. Mae gwaith modelu HPA UK yn awgrymu y gallai hyn godi i 5,446 erbyn 2035. 

Mae hyn yn golygu cyfleoedd i:

  • Bobl ifanc sy’n chwilio am swyddi gwyrdd medrus.

  • Newydd-ddyfodiaid i’r gweithlu carbon isel.

  • Peirianwyr boeleri nwy presennol sy’n awyddus i ehangu eu set sgiliau.

Cael cymorth i wneud y newid

Os ydych chi’n bwriadu uwchraddio i bwmp gwres, efallai y bydd gennych chi hawl i gael cymorth ariannol fel y Cynllun Uwchraddio Boeleri yng Nghymru a Lloegr. 

I fanteisio ar y cymorth hwn, mae angen i’r gosodiad gael ei ardystio gan MCS – cynllun marc ansawdd y DU ar gyfer systemau ynni adnewyddadwy fel paneli solar a phympiau gwres.

Mae’r data ar osodiadau sydd wedi’u hardystio gan MCS yn dangos bod nifer cynyddol o bobl yng Nghymru yn dewis systemau gwresogi dibynadwy, glân ac effeithlon ar gyfer eu cartrefi:

  • Mae gan 2.3% o gartrefi yng Nghymru bwmp gwres sydd wedi’i ardystio gan MCS eisoes.  Dyma’r gyfran uchaf o blith unrhyw un o wledydd y DU.

  • Gosododd 6,682 o aelwydydd bympiau gwres yng Nghymru y llynedd.

  • Yn 2025, roedd chwech o’r 10 awdurdod lleol yn y DU â’r ganran fwyaf o aelwydydd â phwmp gwres yng Nghymru. Roedd Ceredigion, Ynys Môn a Gwynedd ymhlith y pump uchaf. 

Yn ystyried ymuno â nhw? Efallai y byddwch chi’n gymwys i wneud cais i Cartrefi Gwyrdd Cymru, sy’n cynnig asesiad ôl-ffitio am ddim a benthyciadau llog o 0% hyd at £25,000. Gydag un o osodwyr ardystiedig MCS, gallech chi gael hyd at £7,500 i uwchraddio i bwmp gwres trwy’r Cynllun Uwchraddio Boeleri.

Faint o bympiau gwres fydd eu hangen ar Gymru?

Er mwyn cyflawni nodau hinsawdd Cymru a gwneud cartrefi yn gynhesach ac yn fwy effeithlon o ran ynni, mae gwaith modelu’r Pwyllgor Newid Hinsawdd yn dangos y bydd angen i nifer y gosodiadau pympiau gwres gynyddu dros y degawd nesaf:

  • I bron i 25,000 o osodiadau’r flwyddyn mewn cartrefi erbyn 2030. 

  • A mwy nag 80,000 o osodiadau’r flwyddyn mewn cartrefi erbyn 2035. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod uchelgais i osod cyfanswm o 580,000 o bympiau gwres erbyn 2035. Mae’r nod hwn wedi’i nodi yn ei Strategaeth Gwres, a gyhoeddwyd yn 2024.

Ble i gael rhagor o wybodaeth

Cymerwch gipolwg ar ein canllaw hanfodol i bympiau gwres.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio yn y sector, gallwch chi ddysgu am ddod yn osodwr pympiau gwres. Gallwch chi hefyd ddysgu am Gyfrifon Dysgu Personol Gwyrdd a all gefnogi eich taith hyfforddi, a gall MCS eich helpu i ddod o hyd i gwrs hyfforddi

I gael rhagor o fanylion am adroddiad HPA UK, ewch i hpa.uk.org.

HPA UK yw llais y sector pympiau gwres yn y DU. Mae’n dod â mwy na 400 o aelodau at ei gilydd, gan gynnwys gweithgynhyrchwyr a gosodwyr pympiau gwres, cwmnïau ynni a darparwyr hyfforddiant.

I gael rhagor o gymorth neu gyngor ffoniwch

0300 0604400

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol