Cyhoeddi yn gyntaf: 9 Mawrth 2026 -
Wedi diweddaru: 9 Mawrth 2026 -
Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol
Swyddi gwyrdd: Y rolau, y sgiliau a’r hyfforddiant sydd ar gael yng Nghymru
:fill(fff))
Wrth i Gymru agosáu at ei nodau sero net, mae’r diddordeb mewn swyddi gwyrdd yn cynyddu’n gyflym. Ond felly hefyd mae’r cwestiynau. Beth yn union yw swydd werdd? Oes angen gradd mewn gwyddoniaeth arnoch? A sut allwch chi ailhyfforddi heb gostau mawr neu gyrsiau hir? Mae’r canllaw hwn yn darparu’r atebion mewn ffordd glir a syml.
Beth yw swydd werdd?
Swydd werdd yw unrhyw rôl sy’n helpu i ddiogelu’r amgylchedd neu’n cefnogi’r broses o bontio i ddyfodol carbon isel yng Nghymru. Gallai hynny olygu lleihau allyriadau, gwella effeithlonrwydd ynni, adfer natur, neu helpu sefydliadau i weithio’n fwy cynaliadwy. Mae rolau gwyrdd yn bodoli ym mron pob sector nawr – dydyn nhw ddim yn gyfyngedig i dyrbinau gwynt neu ganolfannau ailgylchu.
Dyma rai enghreifftiau o swyddi werdd:
Adeiladu: cydlynwyr ôl-ffitio, gosodwyr pympiau gwres, dylunwyr carbon isel
Trafnidiaeth: Technegwyr cerbydau trydan, cynllunwyr logisteg gynaliadwy
Gweithgynhyrchu: peirianwyr cynhyrchu carbon isel, arweinwyr effeithlonrwydd adnoddau
Sector cyhoeddus: swyddogion bioamrywiaeth, addysgwyr amgylcheddol
Creadigol a chyfathrebu: crewyr cynnwys cynaliadwyedd, swyddogion ymgyrchu, arbenigwyr newid ymddygiad
Rolau busnes: prif swyddogion cynaliadwyedd, rheolwyr prosiectau cynaliadwyedd
Does dim angen gradd mewn gwyddoniaeth arnoch bob amser. Mae llawer o rolau yn rhoi pwys ar gyfathrebu clir, sgiliau prosiect, profiad ym maes crefftau, neu allu ymarferol.
Sut allwch chi ddilyn gyrfa werdd – a pha gymorth sydd ar gael?
Mae mwy nag un ffordd o ddilyn gyrfa werdd. Yng Nghymru, mae cymysgedd eang o opsiynau hyfforddi hyblyg a hygyrch sy’n cael eu hariannu yn golygu ei bod hi’n hawdd dechrau mewn rôl werdd neu symud iddi.
Prentisiaethau
Mae prentisiaethau ar gael i bawb yng Nghymru sydd dros 16 oed mewn 23 o sectorau. Gyda 4 lefel o brentisiaethau – o lefel sylfaen i lefel radd – mae rhywbeth at ddant pawb. Mae’r sectorau’n cynnwys ynni, adeiladu a gwasanaethau adeiladu, peirianneg, technoleg ddigidol a mwy. Gallwch chi ddarganfod mwy ar wefan Cymru’n Gweithio.
Cyfrifon Dysgu Personol
Cyrsiau hyblyg, rhan-amser ac wedi’u hariannu’n llawn ar gyfer oedolion dros 19 oed sy’n byw yng Nghymru. Os ydych chi’n ennill llai na £34,303 y flwyddyn ac yn edrych i ddatblygu gyrfa mewn sector blaenoriaeth fel ôl-ffitio, effeithlonrwydd ynni, cynnal a chadw cerbydau trydan neu gynaliadwyedd, gallai Cyfrif Dysgu Personol fod yn gyfle gwych i chi. Gellir dod o hyd i restr lawn o gyrsiau cymeradwy sy’n gysylltiedig â Chyfrifon Dysgu Personol gwyrdd ar wefan Llywodraeth Cymru.
Rhaglen Sgiliau Hyblyg
Mae’r Rhaglen Sgiliau Hyblyg yn fenter a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy’n helpu busnesau ledled Cymru i fuddsoddi ynddyn nhw eu hunain ac i adeiladu gweithlu cryfach a mwy medrus. Gall cyflogwyr wneud cais am gyllid i dalu 50% o gostau hyfforddiant achrededig, gyda chyfraniad o hyd at £50,000 fesul cais. Nid oes terfyn ariannu isaf. P’un a ydych chi’n awyddus i lenwi bylchau sgiliau, cadw staff, neu ddenu talent newydd, gall y Rhaglen Sgiliau Hyblyg eich helpu i fuddsoddi yn nyfodol eich tîm.
Darpariaeth brifysgol
Mae prifysgolion ledled Cymru yn cynnig llwybrau hyblyg sy’n gysylltiedig â sero net, gan gynnwys:
Cynaliadwyedd a rheolaeth amgylcheddol
Ynni adnewyddadwy a systemau ynni
Cynllunio a pholisi hinsawdd
Adeiladu carbon isel a’r amgylchedd adeiledig
Mae llawer o brifysgolion yn cynnig cyrsiau byr, micro-gymwysterau, a dysgu ar-lein nawr, gan helpu pobl yng Nghymru i feithrin gwybodaeth arbenigol heb fod angen gradd lawn arnynt.
Cyrsiau rhan-amser yn eich coleg lleol
Mae colegau addysg bellach yn darparu hyfforddiant ymarferol mewn sgiliau gwyrdd gan gynnwys:
Sgiliau ôl-ffitio ac adeiladu
Cynnal a chadw cerbydau a moduron trydan
Gosod mesurau effeithlonrwydd ynni
Sgiliau digidol a data sy’n gysylltiedig â thechnoleg lân
Mae llawer o gyrsiau yn cael eu cynnal gyda’r nos neu ar benwythnosau, gan olygu eu bod yn ddelfrydol ar gyfer dysgwyr sy’n gweithio ac sydd â chyfrifoldebau gofalu.
Ble mae’r swyddi gwyrdd?
Mae swyddi gwyrdd yn tyfu ledled Cymru, mewn meysydd fel ynni adnewyddadwy, ôl-ffitio, cadwyni cyflenwi ynni gwynt ar y môr a gweithgynhyrchu uwch.
Yng Nghymru, mae cwmnïau fel Vattenfall a NappiCycle yn dangos pa mor amrywiol yw’r sector – o ôl-ffitio i ynni gwynt ar y môr i arloesi yn yr economi gylchol.
Ond y pwynt allweddol yw hyn: mae pob sector yn troi’n wyrdd. Mae hynny’n cynnwys marchnata, technoleg, llywodraeth leol, cynhyrchu teledu, twristiaeth, a gwasanaethau proffesiynol.
Ydy gyrfaoedd gwyrdd yn ddiogel i’r dyfodol?
Ydyn, mae pob rhagolwg yn pwyntio at dwf cyflym. Mae diwydiannau yn mabwysiadu technolegau newydd, yn wynebu cyfyngiadau amgylcheddol llymach, ac yn ehangu eu gweithrediadau gwyrdd. Mae’r galw am sgiliau eisoes yn tyfu’n gyflymach nag ymwybyddiaeth y cyhoedd. I unrhyw un sy’n ymuno â’r sector nawr, mae’r rhagolygon tymor hir yn ardderchog.
:fill(transparent))