Cyhoeddi yn gyntaf: 27/06/2025 -

Wedi diweddaru: 27/06/2025 -

Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol

Beth yw newid hinsawdd? Dyna gwestiwn dau blentyn chwilfrydig i’r Swyddfa Dywydd

Ydych chi erioed wedi meddwl beth mae newid hinsawdd yn ei olygu mewn gwirionedd a pham ei fod hyd yn oed yn bwysig? Ni hefyd. Ollie a Millie ydym ni, dau blentyn chwilfrydig iawn, ac fe wnaethom ni gwrdd â Dr James Pope,  gwyddonydd hinsawdd go iawn o'r Swyddfa Dywydd. Atebodd ein cwestiynau i gyd, o beth yw newid hinsawdd yn y lle cyntaf hyd yn oed, i a allwn ei atal?

Ollie and Millie sat on a wall outside the Met Office building

I ddechrau, beth yw newid hinsawdd?

Newid hinsawdd yw'r ffordd y mae ein byd yn cynhesu oherwydd bod nwyon tŷ gwydr wedi mynd i'r atmosffer. Mae nwyon tŷ gwydr, fel carbon deuocsid, nitrogen deuocsid a methan, yn dal golau'r haul wrth iddo ddod i atmosffer y Ddaear. Wrth i'r haul fownsio oddi ar wyneb y Ddaear, mae'n cael ei ddal yn ein hatmosffer ac felly’n cynhesu ein planed.

Felly, pam mae hyn yn bwysig?

Mae newid hinsawdd yn mynd i newid y ffordd y mae ein byd yn gweithio. Bydd gennym aeafau cynhesach, gwlypach, a hafau poethach a sychach yn y DU a Chymru. Efallai nad yw'n ymddangos fel newid enfawr, ond bydd gaeafau gwlypach yn golygu bod mwy o risg o lifogydd a byddwn yn cael anawsterau wrth hau cnydau i dyfu bwyd. Gallai hafau poethach olygu sychder ac fe fyddwn yn cael trafferth dyfrio ein cnydau.

Bydd newid hinsawdd yn effeithio ar bawb ar draws y byd i gyd, ond bydd yn effeithio ar bobl mewn ffyrdd gwahanol yn dibynnu ar ble maen nhw. Felly, mae'n bwysig oherwydd gallai rhai newidiadau fod mor ddifrifol fel bod pobl yn gorfod symud o'u cartrefi, newid eu swyddi neu'r amser o'r dydd y maen nhw'n gweithio.

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng y tywydd a'r hinsawdd?

I esbonio hyn, rydyn ni’n hoffi cymharu'r tywydd a'r hinsawdd â'n cypyrddau dillad.

Y tywydd yw'r hyn rydyn ni'n ei weld bob dydd, ac mae hynny'n helpu i benderfynu pa ddillad i wisgo. Felly, ar ddiwrnod poeth, heulog byddwch chi'n gwisgo siorts a chrys-t ond, ar ddiwrnod oer a glawog, efallai y byddwch chi'n gwisgo cot fawr drwchus. Yr hinsawdd sy'n penderfynu pa ddillad sydd gennych yn eich cwpwrdd dillad yn y lle cyntaf, neu sut dywydd rydych chi'n ei ddisgwyl. Tywydd yw'r hyn rydych chi'n ei gael, a'r hinsawdd yw'r hyn rydych chi'n ei ddisgwyl. Rydyn ni’n edrych ar arsylwadau cyfartalog dros nifer o flynyddoedd i ddweud wrthym beth i’w ddisgwyl o ran yr hinsawdd, ond y tywydd yw’r hyn rydyn ni'n ei weld bob dydd.

Ollie and Millie standing in front of a large projector screen showing a visual of a weather map over the UK. Ollie is pointing towards Wales on the map.

Sut ydych chi'n gwybod pryd mae taranau a mellt ar y ffordd?

Mae stormydd taranau yn digwydd oherwydd proses o'r enw darfudiad. Pan fydd yr ynni o'r haul yn taro'r ddaear, mae'n achosi i leithder godi'n gyflym iawn. Mae'r cyflymder hwnnw wrth iddo fynd i fyny yn creu'r cymylau taranau rydych chi'n eu gweld. Ond gall hynny ddigwydd ar raddfa fach iawn. Oherwydd bod yr aer sy'n codi yn ansefydlog, mae ein cyfrifiaduron yn ei chael hi'n anodd rhagweld yn union ble mewn ardal y gallai'r stormydd ddigwydd pan fydd y raddfa mor fach. Felly, os ydym ni'n cyhoeddi rhybudd i ogledd Cymru, ni fydd pawb yno yn cael storm ond mae siawns y bydd rhai ardaloedd yn ei chael.

Rydyn ni'n dwlu ar chwaraeon. A fydd newid hinsawdd yn effeithio ar ein gallu i fynd allan a chymryd rhan mewn chwaraeon?

Mae newid  hinsawdd eisoes yn effeithio ar chwaraeon yma a ledled y byd. Mae'r caeau yn llawn dŵr a glaw yn achosi llifogydd yn y gaeaf ar lawr gwlad yr holl ffordd i fyny i glybiau proffesiynol. Yna yn yr haf mae rhai athletwyr yn dioddef o drawiad gwres oherwydd ei bod yn rhy gynnes.

Sut gall y Swyddfa Dywydd ein helpu gyda newid hinsawdd?

Rydym yn helpu pawb yn y DU, ac yn gweithio gyda phobl ar draws y byd i edrych ar yr hinsawdd er mwyn ein helpu ni i ddeall beth sy'n digwydd ar hyn o bryd.

Rydym hefyd yn defnyddio ein cyfrifiaduron mawr i edrych ar newidiadau tywydd ar gyfer y DU ac ar draws y byd. Rydym ni'n dod â'r holl wybodaeth at ei gilydd fel y gallwn weld sut olwg fydd ar yr hinsawdd yn y dyfodol. Rydym yn ceisio rhannu cymaint o wybodaeth â phosibl gyda gwyddonwyr eraill fel y gallant wneud penderfyniadau. Yna gallwn ni i gyd fynd i'r afael â newid hinsawdd gyda'n gilydd.

Ollie, Millie and Dr James Pope standing on the landing in the Met Office building smiling

A allwn ni wneud unrhyw beth i atal newid hinsawdd?

Gallwn, drwy leihau faint o nwy tŷ gwydr rydym ni'n ei ryddhau. Os gwnawn ni hynny ar draws y byd i gyd, gallwn arafu newid hinsawdd yn bendant. Gallwn ni i gyd, yn llywodraethau, gwledydd neu bobl fel ni wneud gwahaniaeth i leihau maint y nwyon tŷ gwydr ac effeithiau newid hinsawdd.

Eisiau gwybod mwy?

Ar gyfer plant, mae rhagor o wybodaeth am newid hinsawdd yma.

Ar gyfer oedolion, mae rhagor o wybodaeth gan Dr James Pope am effaith tymheredd sy’n codi.

Wedi'ch ysbrydoli i weithredu?

Beth am ddechrau trwy ddysgu mwy am sut mae eich dewisiadau dyddiol, sut rydych chi’n teithio, defnyddio ynni a dewisiadau bwyd yn gallu lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr?

Gallwch hefyd gael rhestr wedi'i theilwra o gamau gweithredu i ddechrau arni gyda Dewis Gwyrdd.

I gael rhagor o gymorth neu gyngor ffoniwch

0300 0604400

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol