Cyhoeddi yn gyntaf: 8 Ionawr 2026 -
Wedi diweddaru: 8 Ionawr 2026 -
Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol
Sut mae gwledydd a rhanbarthau bach yn arwain atebion hinsawdd byd-eang
Mae newid hinsawdd yn fater byd-eang, ac mae gwahanol wledydd yn wynebu eu heriau unigryw eu hunain. Felly sut mae gwledydd a rhanbarthau bach, fel Cymru, yn meddwl ac yn teimlo am newid hinsawdd? Fe wnaethon ni siarad â Jess Melbourne-Thomas, Prif Wyddonydd Ymchwil Asiantaeth Wyddoniaeth Genedlaethol Awstralia i glywed mwy am ei phrofiad yn hemisffer y de, a'r hyn y sylwodd hi arno pan ymwelodd hi â ni yma yng Nghymru.
:fill(fff))
Ynys oddi ar arfordir de-ddwyrain Awstralia yw Tasmania. Dyma dalaith leiaf Awstralia – yn ddigon bach fel bod mapiau o'r wlad weithiau’n ei anghofio. Ond mae ond yn "fach" yn ôl safonau Awstralia... mae Tasmania 3 gwaith yn fwy na Chymru, gyda phoblogaeth o ychydig dros hanner miliwn o bobl (llai na 20% o boblogaeth Cymru).
Cefais fy ngeni yn Tasmania – cefais fy magu yma ac rwy'n byw ac yn gweithio yma. Mae pobl frodorol Tasmania, ceidwaid gwreiddiol a pharhaus Lutruwita Tasmania, wedi bod yma ers dros 40,000 o flynyddoedd.
Mae Tasmania hefyd yn fan lle ceir problemau o ran newid hinsawdd. Mae cyfradd cynhesu'r cefnforoedd oddi ar ein harfordir dwyreiniol 3-4 gwaith yn fwy na'r cyfartaledd byd-eang. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf rydyn ni wedi wynebu tonnau gwres morol difrifol, tanau llwyni mawr, sychder a llifogydd. Mae ein fforestydd lludwymon enfawr, lle dysgais i ddeifio sgwba a datblygu fy angerdd am y môr, wedi cael eu lleihau i 5% eu harwynebedd gwreiddiol oherwydd newid hinsawdd.
Fel mam i blant ifanc, rwy'n poeni am sut olwg fydd ar Tasmania - a'r byd - iddyn nhw a chenedlaethau'r dyfodol.
Ond rydw i hefyd yn obeithiol. Mae llawer o bobl Tasmania yn gweithredu mewn ymateb i newid hinsawdd. Mae ein talaith yn un o'r ychydig leoedd yn y byd i fod yn garbon negyddol - hynny yw, mae Tasmania yn amsugno ac yn storio mwy o garbon nag y mae'n ei allyrru. Mae hyn oherwydd ein bod yn defnyddio pŵer trydan dŵr yn bennaf, ac mae gennym ni rai coedwigoedd gwarchodedig sy'n cipio carbon deuocsid.
Ym mis Mai 2025, lansiodd Tasmania y llong gwbl drydanol fwyaf yn y byd - cam sylweddol i leihau allyriadau carbon deuocsid yn sgil cludo gan longau.
Ac mae gennym ni hefyd laeth o wartheg sy'n cael eu bwydo â rhin gwymon sy'n lleihau allyriadau methan yn sylweddol (nwy tŷ gwydr yw methan, sy'n cyfrannu at newid hinsawdd byd-eang). Ond wrth gwrs, ni allwn ni fod yn hunanfodlon, mae llawer mwy y gall Tasmania ei wneud i chwarae ei rhan i daclo newid hinsawdd.
Eleni, yn y gwanwyn, cefais y fraint o dreulio deufis yn ne Cymru – gan aros gyda theulu a gweithio gydag ymchwilwyr newid hinsawdd ac eraill i rannu syniadau am sut yr ydyn ni’n ymdrin â newid hinsawdd ac yn addasu iddo. Rydw i wedi cael fy ysbrydoli'n fawr gan sut mae Cymru'n arwain y ffordd gyda'i Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a phrosiectau sy'n cael eu hysgogi gan y gymuned.
Rydyn ni i gyd yn rhan o'r ateb ar gyfer newid hinsawdd. Trwy ddysgu oddi wrth ein gilydd a rhannu straeon o lwyddiant a gobaith, rwy'n credu y gallwn ni ddatblygu dyfodol gwell, mwy disglair i'n plant a thu hwnt.
Eisiau gwybod mwy?
Dysga fwy am yr hyn rydyn ni'n ei wneud yng Nghymru i daclo newid hinsawdd.
:fill(transparent))