Cyhoeddi yn gyntaf: 19/05/2025 -
Wedi diweddaru: 19/05/2025 -
Verified by our Editorial Panel
Cartref newydd i bêl-droed ym Mhowys – ac i fywyd gwyllt
Gyda thri cae pêl-droed newydd, mae Welshpool Town FC wedi creu gwarchodfa natur i’r gymuned gyfan.
Pan gollodd Welshpool Town FC dri o’i gaeau yn 2018, roedd yn ergyd i’r clwb sy’n boblogaidd ar lawr gwlad. Roedd angen y tir er mwyn adeiladu ysgol newydd, gan olygu bod prinder lle i bêl-droedwyr ifanc i ymarfer a chwarae.
Bellach, nid yn unig y mae’r clwb wedi canfod cartref newydd i’w chwaraewyr iau, ond mae hefyd wedi creu hafan i fyd natur a’r gymuned leol ar lannau godidog camlas Maldwyn.
Meddai ysgrifennydd y clwb, Eva Bredsdorff: “Fe ddaethon ni o hyd i dri chae a oedd yn cael eu defnyddio gan ddefaid, rhyw fymryn i’r de o’n cae presennol mewn ardal ryfeddol o hardd. Fe lwyddon ni i ganfod arian i wneud y gwaith o drawsnewid y safle yn gaeau chwarae, ond fe benderfynon ni ddiogelu’r ardaloedd cyfagos ar gyfer bywyd gwyllt.”
Lle i bawb
Agorwyd Caeau Chwarae Wayne Evans yn 2023 – nid dim ond fel adnodd pêl-droed, ond fel lle y gall pawb ddod i amgylchynu eu hunain â byd natur. Gwireddwyd y prosiect drwy arian grant o £65,000 o bunnau gan Cymru Football Foundation.
“Os gallwn ni gyfuno gwarchodfa natur gyda gwneud dros 200 o blant yn hapus drwy bêl-droed, yna i fi mae pawb ar ei ennill.”
Eva Bredsdorff, ysgrifennydd y clwb
Meddai Eva: “Fe weithion ni hefyd gydag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Drefaldwyn a chael grant gan Gynllun Cymunedau'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Helpodd hyn i ni osod blychau adar ac ystlumod. Rydyn ni wedi gosod meinciau a ddefnyddir gan eilyddion a chefnogwyr ar ddiwrnod gêm. Ar adegau eraill, gallwch ddod yma, eistedd a mwynhau sylwi ar fyd natur.
Mae’n ardal sy’n llawn o lonyddwch, ac sy’n gyfoethog o ran adar: gallwn weld y barcud coch, y bwncath a sawl rhywogaeth arall. Rydyn ni wedi prynu strimmers i dorri llwybrau drwy’r gwair, fel y gall pobl gerdded drwy’r dolydd. Dwi’n falch o ddweud ein bod ni’n caniatáu mynediad i gŵn, ac mae hyfforddwr cŵn lleol yn defnyddio ein caeau yn aml. Mae croeso i berchnogion cŵn ddod yma, cyn belled â’u bod yn codi unrhyw fusnes bydd eu cŵn yn ei adael.”
Cadw’r golau ynghynn
Fel arall, mae’r clwb yn cymryd camau i redeg ei gyfleusterau ar ynni adnewyddadwy. Gyda chymorth ariannol gan Cymru Football Foundation, gosododd baneli solar ar do ei stafelloedd newid. Defnyddir y rhain i wefru batris, sy’n golygu bod trydan ar gael hyd yn oed pan nad yw’r haul yn disgleirio.
Y Cam nesaf fydd i osod llifoleuadau LED ar y prif gae chwarae. Meddai Eva: “Mae’r llifoleuadau presennol yn costio £50-£60 bob tro y byddwn yn eu cynnau. Mae hynny’n cyfrannu at gostau uchel pan fydd gyda ni nifer o gemau i’w chwarae gyda’r hwyr. Hoffem gynyddu ein pŵer solar fel y gallwn gyfrannu at bweru ein llifoleuadau yn rhannol, neu hyd yn oed, yn llwyr. Byddai hynny'n golygu ein bod yn arbed ynni ac arian.”
Canfod atebion cynaliadwy
Mae’r clwb nawr yn archwilio sut y gall gompostio gwastraff o’r ffreutur, yn ogystal â thoriadau gwair o’r caeau chwarae. Drwy hau hadau blodau gwyllt, mae gwirfoddolwyr yn gobeithio denu mwy o rywogaethau o löynod byw i’r tir.
Mae yna hefyd gynlluniau i osod toiledau sy’n well i’r amgylchedd ar Gaeau Chwarae Wayne Evans. Mae Eva yn gobeithio gallu canfod arian o brynu bloc hunan-gynhaliol y gellir ei symud ar olwynion i’w le ar y safle, gan gynnwys cyfleusterau i bobl anabl. Wedi ei bweru gan baneli solar, bydd yn defnyddio dŵr glaw ar gyfer pob basin golchi dwylo, gan ddargyfeirio’r dŵr wedyn i’w ddefnyddio yn y toiledau.
Gyda’r caeau newydd yn llawn gweithgarwch, mae adran iau Welshpool Town FC yn ei hanterth eto. Mae deg tîm bellach yn chwarae mewn cynghreiriau lleol, gan olygu bod bechgyn a merched o bob oedran yn cael cyfle i chwarae – o’r tîm o dan 6 oed i’r tîm o dan 16 oed. “Mae gyda ni oddeutu 200 o chwaraewyr ifanc bellach,” meddai Eva. “Rydyn ni wedi bod yn awchu i weld y gêm yn tyfu yma, yn enwedig gêm y merched. Nawr, mi fedrwn ni!”
Eisiau gwybod mwy?
Dysga sut mae Cymru Football Foundation yn helpu i feithrin clybiau cryfach, mwy cynaliadwy sy’n rhoi’r gymuned yn gyntaf, a cher i weld sut mae Clarbeston Road FC a Cambrian United FC yn helpu i greu Cymru wyrddach.