Cyhoeddi yn gyntaf: 06/06/2025 -

Wedi diweddaru: 06/06/2025 -

Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol

Gwyrddach gyda’n gilydd: clybiau pêl-droed Cymru yn taclo newid hinsawdd

O gynhyrchu trydan glân i greu cynefinoedd newydd ar gyfer byd natur, mae clybiau pêl-droed yn hybu cynaliadwyedd yn y gymuned. 

Aerial view of the pitch at Clarbeston Road football club

Mae'n oes aur i bêl-droed yng Nghymru. Mae timau’r dynion a’r menywod wedi cystadlu yn y twrnameintiau rhyngwladol uchaf, a’u cefnogi gan ein "Wal Goch" enwog o gefnogwyr. Mae'r gêm ar lawr gwlad yn tyfu: mae dros 200,000 o oedolion a 190,000 o blant yn chwarae yn rheolaidd, mewn 943 o glybiau ledled y wlad.  

Mae hi bellach yn bryd adeiladu wal werdd, hefyd.  Mae Football Association of Wales (FAW) eisiau gwneud y gamp mor ecogyfeillgar â phosibl, gan sicrhau bod pawb yn gallu mwynhau manteision iechyd a chymdeithasol y gêm – ar hyn o bryd ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. 

Helen Antoniazzi yw Pennaeth Materion Cyhoeddus a Chynaliadwyedd FAW. Dywedodd: "Pan dwi'n dweud fy mod i'n gweithio ar gynaliadwyedd mewn pêl-droed, mae pobl yn aml yn meddwl ei fod yn ymwneud â lleihau hediadau pan fydd ein chwaraewyr rhyngwladol yn teithio i gemau. Mewn gwirionedd, mae'r rhan fwyaf o'n gweithgarwch ym maes pêl-droed ar lawr gwlad – yr hyn sy'n digwydd bob wythnos ledled Cymru. 

“Rydyn ni eisiau ymwreiddio gweithredu ar yr hinsawdd ym mhopeth a wnawn yn FAW. Mae hynny'n golygu ystyried sut y gallwn gefnogi clybiau ledled y wlad â’u camau eu hunain i fod yn fwy cynaliadwy.”  

Cymorth sy'n newid byd 

I lawer o glybiau lleol, mae adeiladu cyfleusterau gwell ar frig y rhestr o flaenoriaethau. Mae elusen gymunedol FAW, Cymru Football Foundation (CFF) yn eu helpu i wneud hyn mewn ffordd fwy cynaliadwy. 

Gyda grantiau gan CFF, mae clybiau wedi gallu fforddio gwelliannau fel paneli solar ar y to, goleuadau LED pŵer isel mewn ystafelloedd newid, a chasgenni i gasglu dŵr glaw i’w ddefnyddio i ddyfrhau caeau. Mae llawer wedi cael cefnogaeth ariannol i inswleiddio adeilad y clwb, gosod seddi pren sy'n well i'r amgylchedd ar gyfer y cefnogwyr, a phlannu dolydd blodau i greu cynefin i wenyn, adar a bywyd gwyllt o bob math. 

Mae'r hyn sy'n dda i'r amgylchedd yn aml yn dda i gyllidebau clwb. Yn ogystal â lleihau'r allyriadau nwyon tŷ gwydr sy'n achosi newid hinsawdd, bydd newidiadau sy’n arbed ynni yn arbed tua £300,000 mewn costau gweithredu i glybiau Cymru dros y 10 mlynedd nesaf. 

Newidiadau bach, effaith fawr 

Mae FAW bellach yn gwahodd clybiau lleol i gymryd rhan yn Gwyrddach Gyda'n Gilydd. Yn ôl Helen, mae'n rhaglen sydd wedi ei hysbrydoli gan rywun o Gymru a fu'n byw dros 12 canrif cyn genedigaeth pêl-droed gyfoes.  

Dywedodd: "Fe wnaethon ni gofio'r dyfyniad enwog hwnnw gan Dewi Sant, nawddsant Cymru: 'Gwnewch y pethau bychain'. Rydyn ni'n gofyn i glybiau wneud hyn trwy gofrestru ar y Siarter Targedau Gwyrdd. Maen nhw’n ymrwymo i gymryd dau gam a fydd yn lleihau eu hôl troed carbon ac yn helpu i daclo newid hinsawdd.”  

“Rydyn ni eisiau codi ymwybyddiaeth o fewn y teulu pêl-droed am effaith newid hinsawdd, a dangos beth allwn ni ei wneud i’w daclo a'i liniaru.” 

Helen Antoniazzi, pennaeth materion cyhoeddus a chynaliadwyedd FAW 

A young boy heads a football towards a goal

Mae clybiau ym mhob rhan o Gymru yn gwneud addewid i roi eu cefnogaeth. Mae Clwb Pêl-droed Clarbeston Road wedi creu arferion amgylcheddol da yn Sir Benfro. Ar ôl gosod paneli solar a systemau dŵr poeth a goleuadau ynni-effeithlon, mae ar ei ffordd i fod yn gwbl hunangynhaliol o ran trydan.   

Yng nghanolbarth Cymru, mae Clwb Pêl-droed Welshpool Town wedi creu hafan i fyd natur ar ei gaeau chwarae newydd. Mae'r tir o amgylch y caeau wedi'i adael heb ei dorri, gan ddenu gloÿnnod byw, adar, ac ymwelwyr sy'n mwynhau harddwch y dirwedd. Diolch i gyllid gan CFF, mae'r clwb hefyd yn cynnal ei ystafelloedd newid ar ynni adnewyddadwy, gyda phaneli solar yn gwefru batris sy'n cadw'r goleuadau ymlaen hyd yn oed pan nad yw'r haul yn tywynnu. 

Mae gan Glwb Pêl-droed Cambrian United yng Nghwm Rhondda ei orsaf drydan dŵr ei hun. Mae'r dŵr sy'n llifo trwy lyn cyfagos yn cynhyrchu trydan glân i ddiwallu holl anghenion y clwb. Mae'r clwb wedi gosod pwyntiau gwefru solar ar gyfer cerbydau trydan, ac mae mwy o gynlluniau gwyrdd ar y gweill, gan gynnwys ail brosiect trydan dŵr. 

Gyda chynlluniau fel hyn, gall clybiau ysgogi'r gymuned gyfan, nid cefnogwyr pêl-droed yn unig. "Yn draddodiadol, mae pobl yn gwirfoddoli mewn clybiau pêl-droed oherwydd eu bod nhw neu eu plant yn chwarae pêl-droed," meddai Helen. "Ond rydyn ni bellach yn gweld pobl yn cymryd rhan yn eu clwb lleol oherwydd bod ganddyn nhw ddiddordeb yng nghynaliadwyedd yr ardal lle maen nhw'n byw, ac eisiau gweithredu ar newid hinsawdd."  

Eisiau gwybod mwy? 

Dysgwch fwy am weledigaeth FAW i greu gêm fwy cynaliadwy. A darllenwch sut mae Cymru Football Foundation yn helpu i greu clybiau cryfach, mwy cynaliadwy sy'n canolbwyntio ar y gymuned – gan ffrwyno pŵer pêl-droed i warchod ein planed, un nod werdd ar y tro.

I gael rhagor o gymorth neu gyngor ffoniwch

0300 0604400

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol