)
Beth yw newid hinsawdd?
Cyhoeddi yn gyntaf: 02/09/2025 -
Wedi diweddaru: 02/09/2025 -
Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol
Mae newid hinsawdd yn argyfwng byd-eang. Rydyn ni eisoes yn gweld ei effaith yn fyd-eang, o donnau gwres eithafol a sychder i stormydd a thanau gwyllt. Yng Nghymru, rydyn ni wedi cael llifogydd, tymereddau poethach ac ansawdd aer gwael.
Pan fyddwn yn sôn am newid hinsawdd, rydyn ni’n golygu newidiadau mewn patrymau tywydd hirdymor sy'n cael eu hachosi gan weithgarwch pobl. Nid yw'n broses naturiol. Mae allyriadau carbon – yn bennaf o losgi tanwydd ffosil fel glo, olew a nwy – yn cronni yn yr atmosffer ac yn dal gwres yr haul, gan godi tymereddau byd-eang.
Mae angen i ni weithredu gyda’n gilydd bellach i’w ddatrys.
Pam gweithredu?
Mae newid hinsawdd yn effeithio ar bob un ohonom, ac mae angen i ni gymryd camau brys i gyfyngu ar ei effeithiau a’u lliniaru. Drwy wneud hynny, gallwn wella sawl agwedd ar ein bywydau yng Nghymru:
Yr argyfwng costau byw
Mae tywydd eithafol a achosir gan newid hinsawdd yn costio arian i aelwydydd – yn eu biliau ynni ar gyfer gwresogi ac oeri, costau yswiriant uchel a phrisiau bwyd hyd yn oed yn uwch.
Darparu amgylchedd glanach
Mae allyriadau o gynhyrchu pŵer, trafnidiaeth, diwydiant ac amaethyddiaeth nid yn unig yn achosi newid hinsawdd – maen nhw’n llygru'r aer a'r tir o'n cwmpas.
Gwella ein hiechyd
Mae newid hinsawdd yn cynyddu'r risg o gyflyrau iechyd sy'n gysylltiedig â gwres, problemau anadlol o lygredd aer, a hyd yn oed clefydau newydd yn cyrraedd y DU.
Creu swyddi gwyrdd newydd
Gallai newid i economi werdd greu twf cynaliadwy a swyddi ledled Cymru, yn y sectorau ynni adnewyddadwy, seilwaith a gweithgynhyrchu.
Beth allwn ni ei wneud?
Gallwn ni i gyd gymryd camau i fynd i'r afael â newid hinsawdd. Yng Nghymru, rydym wedi addo cyrraedd sero net erbyn 2050, gan leihau allyriadau fel nad ydym yn rhyddhau mwy o nwyon tŷ gwydr i'r atmosffer nag y gallwn eu tynnu allan. Rhaid i ni gymryd camau beiddgar i gyflawni'r nod hwn – cefnogi ein gilydd i wneud newidiadau cadarnhaol i'r ffordd rydyn ni'n byw ein bywydau. Gyda'n gilydd, gallwn ni wneud gwahaniaeth.
Hyd fideo:
1 munud 29 eiliad