Cyhoeddi yn gyntaf: 04/06/2025 -
Wedi diweddaru: 04/06/2025 -
Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol
Cadw olwynion Caerdydd i droi, gan ailgylchu un beic ar y tro
Mae Cardiff Cycle Workshop yn ymdrechu i achub beiciau o’r pentwr sbwriel, gan wneud trafnidiaeth ar ddwy olwyn yn fforddiadwy ac ar gael i bawb yn y brifddinas.
:fill(fff))
Mae nod y tîm yn Cardiff Cycle Workshop yn syml, sef dod â budd seiclo i’r gymuned gyfan. Ers dros bymtheg mlynedd maen nhw wedi adnewyddu a thrwsio mwy na 4,000 o feiciau, gan arbed 65 tunnell o sgrap rhag mynd i dirlenwi – sy’n gyfystyr â 33 car teuluol mewn pwysau.
Maen nhw wedi galluogi eu cwsmeriaid i wneud arbedion mawr hefyd. Gall prynu beic newydd fod yn fusnes drud, ond mae yna garfan fawr o bobl yn poeni am ddewis model ail-law. Mae Cardiff Cycle Workshop yn cynnig beiciau fforddiadwy sydd wedi cael eu rhoi iddyn nhw gan y cyhoedd, ac sydd wedi cael eu hadfer i’r safon uchaf posib gan arbenigwyr proffesiynol.
Hyd fideo:
1 munud 13 eiliad
Meddai cydlynydd y gweithdy, Jon Howes: “Mae pobl yn poeni am ba mor saff ydy beiciau ail-law. Gallech fynd ar y we a chanfod un yn rhad, ond ni fydd gyda chi syniad am ei gyflwr nac o ble mae’n dod.”
“Mae gyda ni broses drwyadl. Mae pob un o’n beiciau yn mynd trwy archwiliad. Rydyn ni’n darganfod ac adnabod unrhyw beth sydd o’i le ac angen ei drwsio, ac yn bwrw ati i’w hatgyweirio un beic ar y tro. Mae technegydd cymwys wedyn yn profi ansawdd a diogelwch pob beic, ac rydym hefyd yn rhoi gwarant o dri mis wrth eu gwerthu – felly os oes rhywbeth yn codi gyda’r beic, fe wnawn ni ei drwsio.”
Menter sy’n wirioneddol gymunedol
Mae Cardiff Cycle Workshop yn sefydliad 100% nid er elw, ac yn defnyddio’r arian a godir i’w ail-fuddsoddi yn ei wasanaethau.
“Unwaith cewch chi feic, does dim angen i chi seiclo i’r gwaith arno bob dydd am weddill eich oes. Gallwch ddechrau’n ara deg gyda theithiau mwy achlysur a chadw’r arfer yn gynaliadwy i chi. Po fwyaf y byddech yn seiclo, po fwyaf y byddwch yn mwynhau gwneud, a byddwch yn magu hyder ar hyd y daith. Cyn pen dim – fyddwch chi ddim eisiau dod bant o’ch beic!”
Jon Howes, hyfforddwr a chydlynydd y gweithdy.
Mae’r tîm hefyd yn ymdrechu’n galed i helpu ceiswyr lloches a ffoaduriaid i fynd o le i le yn y ddinas. Ar gyfartaledd, maen nhw’n rhoi un beic bob wythnos i brosiect i brosiect Oasis yn Sblot.
Meddai Jon: “Un o’r anawsterau sy’n wynebu ffoaduriaid a cheiswyr lloches yw trafnidiaeth. Am ryw bedair awr yr wythnos, mae aelodau o’n staff a gwirfoddolwyr yn mynd draw i Sblot i ailgylchu beiciau, sydd wedyn yn cael eu rhoi i’r cynllun.”
:fill(fff))
Cadw Caerdydd i symud
Yn ogystal â darparu beiciau, mae Cardiff Cycle Workshop yn helpu pobl i gynnal a chadw eu beiciau eu hunain. Gall unrhyw un drefnu apwyntiad i drwsio, gan edrych ar fanion sydd angen sylw neu ail-adeiladu’r beic yn gyfan, am bris cystadleuol. Mae hefyd modd galw ar wasanaeth “Doctor Beiciau” sydd ar gyfer busnesau a sefydliadau eraill, lle mae technegydd yn dod i’r gweithle i wneud gwaith atgyweirio.
Galli di hefyd ddysgu sut i ofalu am dy feic – a beiciau pobol eraill – yn y gweithdy ei hunan. Mae cyrsiau hyfforddi yno at ddant pawb, boed yn gyw-fecanig neu’n beiriannydd beiciau profiadol. Mae’r cyrsiau mwyaf dwys yn arwain at gymhwyster Velotech, sy’n cael ei gydnabod fel y cymhwyster uchaf posib ar gyfer technegwyr beiciau proffesiynol.
Datblyga dy bŵer i bedlo
Mae gwneud teithiau ar feic yn hytrach nag mewn car yn lleihau’r defnydd o betrol a thanwydd ffosil – gan wella ansawdd aer a lleihau llygredd sŵn. Mae’n wych ar gyfer datblygu ffitrwydd, ac i wneud y mwyaf o olygfeydd trawiadol Cymru.
:fill(fff))
Cer i wefan Gweithdy Beiciau Caerdydd i gael gafael ar dy feic dy hun – ac i ddysgu mwy am lwybrau seiclo yn dy ardal, cer i Sustrans.