Cyhoeddi yn gyntaf: 22/07/2025 -

Wedi diweddaru: 22/07/2025 -

Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol

Fy siwrne o gerbydau petrol a diesel i gerbyd trydan a'r hyn rwyf wedi ei ddysgu ar hyd y daith

Mae Gwenllian yn byw ar Ynys Môn gyda'i gŵr Berwyn (sydd yn ffan mawr o geir) a daeth y newid o ICE (Injan Tanio Mewnol) yn destun sgwrs wrth wylio fideos You-Tube ar amrywiaeth o gerbydau trydan.

Gwenllian sitting in the driver seat of her red electric vehicle

Mae'n rhaid i mi gyfaddef fy mod wedi tyfu i garu ceir. Mae byw yng nghefn gwlad Ynys Môn yn golygu bod car yn angenrheidiol gan fod trafnidiaeth gyhoeddus yn gallu bod yn eithaf anwadal ar adegau. Ers pan oeddwn i'n 18 oed rydw i wedi gyrru car – "Mini Metro" fy mam i ddechrau ac yna VW Beetle glas llachar yr oeddwn i’n ei rannu efo fy mrawd – am beiriant. Fe wnes i symud ymlaen trwy amrywiaeth o wahanol geir dros y blynyddoedd, a mwynhau gyrru pob un ohonynt. Boed yn ddiesel neu betrol, roedd rhywbeth am bob un ohonynt yr oeddwn i'n ei garu.

Wrth gwrs, daeth gyrru BMW petrol efo to oedd yn codi yn ddrud a bryd hynny dechreuais feddwl am gerbydau trydan. A allai weithio i mi? A oedd y seilwaith yn ei le? A fyddwn i'n gallu dibynnu arno i'm cael i lefydd ac o lefydd heb ail-wefru hanner ffordd? Roeddwn hefyd wedi newid swyddi ac roeddwn i'n gweithio i M-SParc, sefydliad a oedd yn canolbwyntio ar ynni a sero net, ac yn teimlo nad oeddwn i'n gosod esiampl dda iawn drwy yrru car oedd yn llyncu petrol.

Cyn cychwyn gyrru cerbyd trydan, fe wnaethon ni hefyd benderfynu gwella'r defnydd o ynni a lleihau ein costau ynni gartref. Gwnaethon ni osod paneli solar a batri mawr a wnaeth ein hysgogi i osod pwynt gwefru ar gyfer cerbyd trydan i wneud ychydig mwy i leihau ein hôl troed carbon a'n heffaith amgylcheddol. Roedd Berwyn wedi prynu PHEV (cerbyd trydan hybrid) ac roedd yn argyhoeddedig mai gyrru cerbydau trydan oedd y ffordd ymlaen. 

Roedd newid fy ngherbyd am gerbyd trydan yn un ffordd o deithio o gwmpas yn fwy cynaliadwy gan fod hefyd yn fwy cyfrifol am yr effaith roeddwn i'n ei chael ar y blaned ac os gallwn wneud un peth bach i wneud newid, yna dyma oedd fy nghyfle i. Ac wrth gwrs, mae byw mewn ardal wledig yn golygu nad ydym yn cael ein bendithio â chysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus rheolaidd sy'n rhedeg ar adegau cyfleus.

Fy mhrofiad cyntaf o gerbydau trydan

Roedd fy mhrofiad cyntaf o yrru cerbyd trydan yn dipyn o brofiad - y tawelwch, wwwshh y car wrth iddo symud ymlaen, dim synau gêr, dim injan V8 yn canu grwndi, yn hytrach roedd rhywbeth eithaf tawel amdano. Cymerodd amser i ddod i arfer â'r brecio atgynhyrchiol ac i gynnal cyflymder i gael y perfformiad gorau posibl allan o'r batri.

Peugeot E2008 oedd fy ymdrech gyntaf i yrru cerbyd trydan – car ymarferol, gyda phopeth yr oeddwn ei angen ynddo. Er bod yr ystod milltiroedd yn llai nag yr oeddwn wedi'i ddisgwyl (amcangyfrifwyd y byddai'n gwneud 208 milltir fesul gwefriad), roedd modd rheoli hynny gan fod gennym bwynt gwefru cartref a'm bod yn gallu gwneud hynny'n rheolaidd.  I fod yn onest, doeddwn i ddim yn gwneud pellteroedd hir felly roedd digon "yn y tanc" ar gyfer y teithiau roeddwn i'n eu gwneud. Rydych chi'n dysgu addasu eich ffordd o yrru a gall tawelwch y profiad gyrru fod yn ffordd dda o'ch tawelu. Fel gydag unrhyw gar, mae teithio ar gyflymder uwch yn golygu eich bod chi'n defnyddio mwy o "sudd", o arafu ac addasu i'r amodau, rydych chi'n arbed y batri. Gall gyrru yn y gaeaf hefyd gael ychydig o effaith ar yr ystod milltiroedd gan y bydd y gwres ymlaen gennych, bydd y seddi wedi'u gwresogi a'r olwyn lywio wedi'i chynhesu a bydd angen i'r batri gynhesu. Mewn gwirionedd rwy'n cael ychydig yn llai o filltiroedd o bob gwefriad yn y gaeaf ac eto gall hyn gael ei effeithio gan eich arddull o yrru, ond nid yw'n effeithio ar fy hyder o ran pa mor bell y gallaf fynd. 

Rwyf bellach yn gyrru car gydag ystod o tua 320 milltir ac yn ddiweddar cefais daith i Faes Awyr Manceinion ac yn ôl i Ynys Môn ar un gwefriad llawn heb unrhyw bryder o ran ystod milltiroedd, a gyda phopeth yr oeddwn ei angen wedi'i droi ymlaen yn y car.

Cost a chyfleustra

Pan oeddwn i'n gyrru fy nghar petrol olaf, BMW, mae'n debyg fy mod i'n gwario tua £75 yr wythnos ar betrol. Rwan bod gennym y pecyn gartref i wefru'r car, mae'n debyg ein bod ni'n gwario tua £35 y mis i wefru 2 gar a phan fydd yr haul yn dod allan, rydyn ni'n manteisio ar y cyfle i wefru'r car yn ystod oriau'r dydd, sy'n costio dim, neu ychydig iawn i ni. Ein hamser gwefru arferol yw hanner nos tan tua 4am pan fydd trydan ar ei gyfradd rhatach.

Rwyf wrth fy modd â thawelwch y gyrru, mae'n gychwyn sgwrs ac rwy'n aml yn siarad am fy mhrofiad gyda ffrindiau sy'n meddwl tybed pam y byddwn i'n newid i gerbyd trydan a sut nad ydw i'n dioddef o bryder ynglŷn â'r ystod milltiroedd. Bydd rhai pobl yn gofyn i chi "Ond beth os wyt ti eisiau gyrru i'r Alban?".  Fy ymateb yn amlach na pheidio, yw "pa mor aml wyt ti’n gyrru i'r Alban?" a'u hateb bob amser yw "Byth".   

Byddwn yn cynllunio unrhyw daith ymlaen llaw boed hynny mewn car petrol/diesel neu gerbyd trydan. Rwy'n aml yn gwirio i weld a oes gorsafoedd gwefru o gwmpas tua hanner ffordd drwy fy nhaith, dim ond i wefru ychydig mwy ar y car bryd hynny. Yr hyn sy'n wych yw bod gorsafoedd gwefru yn amlach na pheidio yn cael eu canfod ger caffi, canolfan arddio, ardal wasanaeth, fel y gallwch gael coffi a seibiant byr, fel y byddech chi pe baech chi ar daith hir mewn unrhyw gar arall. Rwyf wedi defnyddio apiau fel ZapMap i ddod o hyd i orsafoedd gwefru gerllaw, mae'r sat nav yn y car yn aml yn adnabod rhai lleoliadau gwefru ac mae mwy a mwy yn ymddangos – er bod yna ardaloedd o hyd yng Nghymru a allai wneud gyda mwy o wefrwyr cyflym.    

A yw hi wedi bod yn werth y newid?

Ydy, yn bendant. Oedd, roedd angen dysgu, ac mae'n debyg fy mod i'n dal i ddysgu rhywbeth newydd bob dydd, ond alla’ i byth ddychmygu mynd yn ôl i yrru car petrol. Yr arbedion, tawelwch y gyrru, yr effaith amgylcheddol – mae'r cyfan yn dod at ei gilydd. Rhowch gynnig arni drosoch eich hun. Fyddwch chi ddim yn difaru.

Eisiau gwybod mwy?

Atebodd yr arbenigwraig trafnidiaeth gynaliadwy Sara Sloman eich cwestiynau am gerbydau trydan yma.

I gael rhagor o gymorth neu gyngor ffoniwch

0300 0604400

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol