Climate Action Wales Logo

Cyhoeddi yn gyntaf: 30 Awst 2024 -

Wedi diweddaru: 9 Medi 2026 -

Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol

Medi Ail-law: Sut gall prynu eitemau ail-law arbed arian a lleihau gwastraff

Croeso i fis Medi ail-law. Rydych ar fin darganfod ffordd wych effeithiol o helpu ein planed gan ddarganfod pethau gwych ar yr un pryd.

A man and woman in a second-hand vintage store looking through clothing rails

Beth yw Medi Ail-Law?

Mae Medi Ail-Law yn ymgyrch sy'n annog pawb i brynu eitemau ail-law yn unig am y mis cyfan.

Mae'n ffordd wych o hyrwyddo siopa cynaliadwy, lleihau gwastraff, a rhoi bywyd newydd i eitemau ail-law. Hefyd, mae'n her a all arwain at ddarganfyddiadau ffasiwn ac addurno'r cartref unigryw.

Mae prynu yn newydd yn rhoi hapusrwydd, ond yn aml mae'n fyrhoedlog. Gall chwilio am drysorau ail-law fod yn antur, gan roi boddhad hirdymor a straeon y tu ôl i bob eitem. Hefyd, mae gwybod eich bod yn helpu'r amgylchedd yn teimlo'n eithaf gwych hefyd.

Sut gall prynu nwyddau ail-law arbed arian i chi?

Trwy ddewis eitemau ail-law, byddwch yn arbed ceiniog neu ddwy. P'un a ydych yn chwilio am ffasiwn o safon uchel, dodrefn ffasiynol, neu declynnau, mae prynu eitemau ail-law yn aml yn rhatach. Mae mwy o gynilion yn golygu mwy o arian ar gyfer profiadau sy'n rhoi mwynhad parhaol, fel cyngherddau, sioeau, neu penwythnos o wyliau.

Pam mae prynu nwyddau ail-law yn well i'r amgylchedd?

Mae cynhyrchu eitemau bob dydd, o geir i ddillad, yn cyfrif am 45% o allyriadau carbon byd-eang. 

Drwy siopa am nwyddau ail-law, byddwch yn helpu i:

  • Gadw eitemau yn cael eu defnyddio am gyfnod hirach

  • Lleihau'r galw am gynhyrchion newydd, sy'n lleihau'r defnydd o ynni a llygredd

Mae'n fuddiol i chi ac i'r blaned.

Sut i gymryd rhan

  • Meddyliwch cyn prynu

    Un o'r ffyrdd gorau o ddechrau yw oedi cyn unrhyw bryniant. Gofynnwch i chi'ch hun, 'Oes gwir angen hwn arnai?' Yn aml, efallai mai'r ateb yw na, sy'n golygu eich bod yn arbed arian ac adnoddau.

  • Dewis ail-law yn gyntaf

    Chwiliwch mewn siopau elusen, siopau bach hen bethau o safon, a marchnadoedd ar-lein fel eBay neu Vinted. Mae apiau fel Olio a gwefannau fel Freecycle yn drysorfeydd i ddod o hyd i eitemau nad oes eu hangen ar eraill mwyach.

  • Rhentu, rhannu neu fenthyg

    Mae defnyddio siopau rhentu, benthyca neu gyfnewid gyda ffrindiau neu deulu hefyd yn ddewisiadau amgen gwych i brynu pethau newydd.

  • Buddsoddi mewn safon

    Pan fydd angen i chi brynu, dewiswch eitemau sydd wedi'u creu i bara. Mae ansawdd dros faint yn sicrhau nad ydych yn prynu rhywbeth a fydd yn mynd i'r bin yn gyflym. Hefyd, mae trwsio eitemau yn hytrach na'u newid yn ffordd wych o ymestyn eu bywyd ac arbed arian.

  • Defnyddio eich pŵer prynu yn ddoeth

    Cefnogi busnesau sy'n mynd i'r afael â newid hinsawdd a hyrwyddo arferion moesegol. Cynnal gwaith ymchwil cyn prynu i sicrhau eu bod yn blaenoriaethu cynaliadwyedd, cyflogau teg, a gweithrediadau ecogyfeillgar. Mae'r cyfeiriadur Good On You yn adnodd gwych ar gyfer gwirio moeseg brandiau ffasiwn.

A man looking through a rail of shirts in a second-hand vintage store

Ffyrdd eraill o siopa mewn ffordd fwy cynaliadwy

  • Dewis deunyddiau naturiol

    Dewiswch ddillad wedi'u gwneud o ddeunyddiau naturiol, bioddiraddadwy fel cotwm organig, lliain a bambŵ. Dylech osgoi ffabrigau synthetig sy'n gadael ffibrau niweidiol ar eu hôl a chwilio am opsiynau wedi'u hailgylchu pan fyddant ar gael.

  • Siopa'n lleol

    Mae cefnogi busnesau bach yn eich ardal yn lleihau'r angen am deithio mewn car a phecynnu gormodol. Mae siopau lleol yn aml yn cynnig cynhyrchion unigryw, cynaliadwy na fyddwch yn dod o hyd iddynt rhywle arall.

  • Gwirio labeli

    Chwiliwch am ddeunyddiau eco-gyfeillgar a llai o gemegau gwenwynig. Po fwyaf syml a naturiol yw'r cynhwysion neu'r deunyddiau, y gorau ydynt i’r blaned.

  • Osgoi plastig a gormod o ddeunydd pacio

    Dewiswch gynhyrchion gyda llai o becynnu neu becynnu ailgylchadwy. Mae siopau diwastraff yn wych ar gyfer prynu hanfodion cartref y gellir eu hail-lenwi heb blastig di-angen.

  • Dewiswch masnach deg

    Mae prynu cynhyrchion masnach deg yn sicrhau parch at yr amgylchedd a thriniaeth deg i weithwyr. Chwiliwch am y nod Masnach Deg neu warant Sefydliad Masnach Deg y Byd.

  • Prynu ar-lein yn ddoeth

    Wrth siopa ar-lein, bwndelu eich pryniannau i leihau deunydd pacio a danfoniadau. Dewiswch opsiynau cyflenwi arafach i leihau allyriadau carbon o ddanfoniadau sengl.

 Ymunwch â'r mudiad

Mae Medi Ail-Law yn fwy na her siopa yn unig; mae'n fudiad tuag at ffordd fwy cynaliadwy a meddylgar o fyw.

Felly, ewch i'ch siopau ail-law lleol, chwilio marchnadoedd ar-lein, a rhannwch eich darganfyddiadau ail-law gyda balchder. Gadewch i ni wneud gwahaniaeth, un trysor ail-law ar y tro.

Os ydych chi'n hoff o ffasiwn ecogyfeillgar, edrychwch ar y brandiau Cymreig sy'n helpu i greu dyfodol glanach a gwyrddach.

I gael rhagor o gymorth neu gyngor ffoniwch

0300 0604400

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol