Cyhoeddi yn gyntaf: 06/08/2025 -
Wedi diweddaru: 06/08/2025 -
Verified by our Editorial Panel
A yw eich toiled yn gollwng? Gall Dŵr Cymru ei drwsio am ddim
Rydym wedi ymuno â Dŵr Cymru i'ch helpu i arbed dŵr ac arian.
:fill(fff))
Oeddech chi'n gwybod bod toiled sy'n gollwng yn gallu gwastraffu hyd at 215 litr o ddŵr bob dydd? Mae hynny'n ddigon i lenwi bron i dri bath, a gallai fod yn costio cannoedd o bunnau y flwyddyn i chi!
Pam mae trwsio toiled sy'n gollwng yn bwysig
Er bod Cymru yn un o'r rhannau gwlypaf yn y DU, mae dŵr yn dal i fod yn adnodd gwerthfawr. Mae pob diferyn yn cyfrif. Gall dŵr toiled sy'n rhedeg yn gyson, p'un a yw'n ddiferiad bach neu'n llif cyson, wastraffu swm sylweddol yn fuan.
Toiledau sy'n gollwng yw un o'r achosion mwyaf cyffredin o wastraffu dŵr mewn cartrefi. Os ydych chi wedi sylwi bod dŵr eich toiled yn rhedeg pan na ddylai fod, efallai fod gennych ollyngiad.
Sut i wirio p’un a yw toiled yn gollwng
Oes dŵr i’w glywed yn rhedeg yn eich toiled pan nad yw wedi'i fflysio?
Oes ffrwd fach neu ddiferiad i’w gweld yn y bowlen?
Oes cynnydd wedi bod i’ch bil dŵr yn annisgwyl?
Os mai ‘oes’ oedd yr ateb i unrhyw un o'r rhain, mae'n bryd gweithredu.
Atgyweiriad bach, effaith fawr
Efallai fod trwsio toiled sy'n gollwng yn ymddangos fel rhywbeth dibwys, ond mae'n gam mawr tuag at leihau gwastraff dŵr, arbed arian a lleihau allyriadau carbon.