Cyhoeddi yn gyntaf: 02/05/2025 -
Wedi diweddaru: 02/05/2025 -
Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol
Trwsia fe, paid taflu fe: Profiad Matt Pritchard mewn Caffi Trwsio
Beth petai modd i dy hoff ddilledyn neu eitemau o’r cartref bara am oes? Fel rhan o ‘Fix it February’, darganfyddodd y personoliaeth teledu, cogydd angerddol ac athletwr dygnwch Matt Pritchard pa mor hawdd a buddiol yw trwsio yn lle taflu.
Mae Caffis Trwsio yn cynnig ateb hwyliog a chymdeithasol i wastraff gan helpu i fagu sgiliau trwsio sydd wedi mynd yn angof a hefyd ar yr un pryd yn herio ein diwylliant di-hid o daflu i ffwrdd. Mae caffis trwsio yn creu gofod lle gall pobl o bob oedran rannu gwybodaeth, dysgu sgiliau newydd a chreu cysylltiadau newydd. Drwy ymdrechion gwirfoddolwyr, mae’r canolfannau cymunedol hyn sy’n cynnig gwasanaeth yn rhad ac am ddim yn anelu i drwsio eitemau o’r cartref – fel teclynau trydan, beiciau a gemwaith.
O ddysgu sut i roi bywyd newydd i eitemau sydd wedi torri, i sgwrsio gyda gwirfoddolwyr medrus sy’n gwneud y cyfan yn bosib, taflodd Matt ei hun mewn i’r hwyl gan ddarganfod y manteision o drwsio (yn rhad ac am ddim!) yn hytrach na thaflu i ffwrdd. Fe lwyddon ni i gael sgwrs gydag e i’w holi am ei brofiad…
Hyd fideo:
59 seconds
Pa mor hawdd oedd hi i ffeindio dy gaffi trwsio lleol?
Es i ar wefan Caffi Trwsio Cymru i ffeindio lle roedd yr un agosa’ ata’ i. Roedd e’n rhwydd iawn ac i fod yn onest, roedd eitha tipyn o lefydd i ddewis ohonyn nhw fan hyn yng Nghaerdydd.
Beth oedd dy argraffiadau cyntaf pan gyrhaeddest ti? Pa eitem ddest ti gyda thi a pham oedd hi’n bwysig i ti?
Fe ges i groeso gan ddynes lyfli wrth y ddesg ar fy ffordd mewn ac roedd hi’n barod iawn i helpu. Es i ag un o fy hoff siacedi gyda fi, un sy’n meddwl lot i fi, achos bod y sip wedi rhwygo ac felly o’n i’n awyddus i gael hwnna wedi trwsio. Roedd y naws yn y caffi’n grêt ac roedd yn gyfle perffaith i joio cael sgwrs a disgled o de.
Sut beth oedd y broses drwsio?
Roedd e mor rhwydd! Nage dim ond trwsio fy siaced wnaethon nhw, ond fe ddangosodd y ddynes i fi sut i’w wneud e fel bod modd i fi ei drwsio fy hunan y tro nesa bydd rhywbeth tebyg yn codi.
Beth yw’r peth gorau am fynd i gaffi trwsio?
Wel timod, ble mae dechrau? Mae e i gyd yn grêt! Cafodd fy hoff siaced ei thrwsio, fe ges i goffi a sgwrs a doedd dim rhaid i fi fecso am y gost. Fe wnes i roi cyfraniad ond os ydy’r cash yn dynn yna byddan nhw’n hapus i helpu yn rhad ac am ddim. Roedd pawb mor barod i helpu, o’r foment cerddais i mewn, i’r foment gadawais i.
Sut wnaeth dy brofiad yn y caffi trwsio newid dy safbwynt ar drwsio yn lle prynu pethau newydd?
Bydda i deffo yn gwneud fy ngorau i ddod nôl fan hyn yn y dyfodol i gael fy stwff i wedi eu trwsio cyn hyd yn oed feddwl am eu taflu nhw bant. Roedd yr holl broses mor rhwydd a syml. Bydda i nôl!
Pam wyt ti’n meddwl bod trwsio ac ail-ddefnyddio eitemau yn bwysig wrth drio taclo gwastraff a chynaliadwyedd?
Drwy beidio taflu ein stwff, a’u trwsio nhw yn lle ‘ny, byddwn ni’n safio lot rhag mynd i safleoedd tirlenwi.
Felly byddi di’n dychwelyd i gaffi trwsio yn y dyfodol, byddi?
Cant y cant! A bydden i’n annog pawb i fynd a rhoi shot arni. Pam lai, jyst gwna fe, byt!
Sut byddet ti’n crynhoi dy brofiad mewn caffi trwsio, a hynny mewn un gair?
Mega!
Nid dim ond trwsio pethau yw hanfod caffis trwsio – maen nhw’n dangos y pwysigrwydd o wneud y mwyaf o’r pethau sydd gennym eisoes.
Yn hytrach na thaflu eich hoff siaced neu eitem o‘r cartref sydd wedi torri i’r bin sbwriel, pam ddim dysgu sut i’w drwsio? Mae’n rhad ac am ddim, yn ymarferol, ac yn ffordd wych i ddysgu sgiliau defnyddiol yng nghwmni pobl o’r un anian.
Wedi cael dy ysbrydoli? Cer i chwilio am dy Gaffi Trwsio lleol a rho gynnig arni!