Cyhoeddi yn gyntaf: 17/06/2025 -
Wedi diweddaru: 17/06/2025 -
Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol
Gwledd gynaliadwy i’r gymuned
Wedi ei leoli mewn hen siop ar y stryd fawr, mae Yr Orsaf yn helpu pobl Penygroes i leihau gwastraff, gwneud i fwyd fynd ymhellach ac ailymgysylltu gyda byd natur.
:fill(fff))
Wedi cyfnod hir a llewyrchus o fod yn siop haearnwerthwr, bu Siop Griffiths yn segur am ddegawd hyd nes i bobl Penygroes, Gogledd Cymru, roi bywyd newydd iddo. Dyma bellach ydy Yr Orsaf, sef canolfan gymunedol boblogaidd.
Mae yma gaffi prysur, gwesty, a hefyd ganolfan ddigidol lle gall pobl ifanc ddatblygu eu sgiliau codio, podledu a chynhyrchu fideo. Mae Yr Orsaf yn cynnal gweithdai celf a digwyddiadau arbennig, yn trefnu digwyddiadau i bobl mewn oed ac yn darparu trafnidiaeth gymunedol gyda’i fflyd o geir trydan.
Bwydo pobl, brwydro gwastraff
Mae cynaliadwyedd bwyd a lles ar frig yr agenda yn yr Orsaf. Meddai rheolwr y ganolfan gymunedol, Ben Gregory: “Po fwyaf y medrwn ni annog pobl i dyfu eu bwydydd eu hunain, meddwl am o ble y daw bwyd a phrynu bwyd yn lleol, bydd mwy fyth o fudd i’w hiechyd, ac i’r economi lleol a’r amgylchedd.”
Mae pob person yng Nghymru yn cynhyrchu tua 100kg o wastraff bwyd bob blwyddyn. Yn ogystal â chynhyrchu nwyon tŷ gwydr wrth iddo bydru, mae bwydydd a diodydd sy’n cael eu gwastraffu yn golygu gwastraff arian – cymaint â £250 fesul person dros gyfnod o flwyddyn.
Hyd fideo:
1 minute 4 seconds
Gwenllian Spink ydy cydlynydd bwyd a lles Yr Orsaf. Hi sy’n rhedeg yr hwb bwyd, gan helpu i ddosbarthu ffrwythau a llysiau a dyfir yn lleol, ac mae’n cydlynu rhandir cymunedol sydd gerllaw. Mae Gwenllian hefyd yn goruchwylio’r pantri cymunedol, prosiect sy’n brwydro gwastraff bwyd ac yn darparu help hanfodol i bobl sy’n diodde’ o’r argyfwng costau byw.
“Mae lleihau gwastraff bwyd yn hanfodol i ni yn Yr Orsaf. Rydan ni o hyd yn ceisio meddwl am ffyrdd newydd i leihau tlodi bwyd yn y gymuned, a sut hefyd y medrwn ni ledaenu’r neges bod angen i ni leihau gwastraff.”
Gwenllian Spink, cydlynydd bwyd a lles Yr Orsaf.
Unwaith yr wythnos, gall unrhyw un ddod â bag i’r pantri cymunedol a’i lenwi â bwyd yn rhad ac am ddim. Mae siopau lleol yn rhoi bwyd sydd dros ben i’r pantri bob wythnos. Cefnogir y prosiect gan FareShare Cymru, gan weithio gydag archfarchnadoedd fel y Co-op, Tesco, Morrisons a Waitrose.
Digwyddiad wythnosol arall ydy Llond Bol. Mae Yr Orsaf yn gwahodd trigolion lleol o bob oed i eistedd hefo’i gilydd i gael swper yn neuadd y pentre, gan ddefnyddio cynhwysion iachus sydd yn eu tymor. Mae’n ffordd arall o sicrhau nad oes dim yn cael ei wastraffu: mae bwydydd sydd dros ben yn cael eu rhewi a’u defnyddio’n ddiweddarach.
Cyfleon sy’n tyfu
Mae Yr Orsaf yn awyddus i helpu’r gymuned i dyfu ei bwyd ei hun a dod yn fwy hunangynhaliol. Gall pobl ymuno mewn sesiynau garddio wythnosol yn y rhandir cymunedol. Mae tynnu’r to iau i mewn i’r fenter yn hanfodol: mae’r ysgol gynradd leol, Ysgol Bro Lleu, yn rhentu llain ar y rhandir.
Meddai Gwenllian: “Y peth gorau am weld yr ysgol yn defnyddio’r rhandir, hyd yn oed yn fwy na’r pwmpenni bendigedig maen nhw’n eu tyfu, ydy gweld y plant yn mwynhau’r awyr iach ac yn tyfu’n agosach at y tir.”
O ran y dyfodol, mae Gwenllian a’i chyd-weithwyr yn archwilio dulliau i gadw bwyd drwy biclo, mygu, trin a halltu. Mae ‘Y Cwt Piclo’ yn yr arfaeth, ac mae Yr Orsaf yn bwriadu cynnal gweithdai a hyd yn oed gyhoeddi cylchgrawn ar y pwnc.
Meddai Gwenllian: “Rydan ni hefyd yn y broses o blannu perllan a chloddau bwytadwy, diolch i gefnogaeth gan Gronfa Treftadaeth Y Loteri Genedlaethol.”
:fill(fff))
Eisiau gwneud dy ran?
Dos i Cymru’n Ailgylchu i gael awgrymiadau ar sut i leihau gwastraff bwyd yn y cartref, neu galwa mewn i Yr Orsaf i ymuno â sesiwn arddio, rhannu pryd o fwyd cymunedol neu wirfoddoli hefo nhw.