Cyhoeddi yn gyntaf: 27 Ionawr 2026 -
Wedi diweddaru: 27 Ionawr 2026 -
Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol
Yr hyn sydd i'w weld ar safleoedd Cadw y gaeaf hwn
Mae dwsinau o safleoedd Cadw yng Nghymru sydd wedi'u hamgylchynu gan dirweddau hardd, bywyd gwyllt a digon o hanes.
:fill(fff))
Gall ymgysylltu â'n hanes a'n treftadaeth roi hwb i'n lles a'n hiechyd meddwl, gan ein helpu i gael syniad o'n lle yn y byd.
Mae gennyn ni ddwsinau o safleoedd treftadaeth yng Nghymru, yn aml mewn lleoliadau tawel wedi'u hamgylchynu gan natur. Gall bod yn bresennol yn y mannau gwyrdd hyn ein helpu i ymlacio a dianc rhag straen bywyd modern.
P'un a ydych chi eisiau eistedd yn dawel a myfyrio, cerdded, rhedeg, beicio neu archwilio o gartref, gallwch chi gysylltu â thirwedd hanesyddol eang ac amrywiol Cymru drwy lwybrau a theithiau treftadaeth Cadw.
Dyma sut allwch chi gymryd rhan..
Oddi ar y llwybr arferol
Gogledd Cymru
Ffynnon Gybi
Wedi'i leoli mewn man diarffordd ar waelod Garn Bentyrch yng Ngwynedd, mae'r safle sanctaidd hynafol hwn yn teimlo'n hynod o hudolus. Wedi'i chysegru i Cybi, sant o'r 6ed ganrif, credir ers amser maith bod dyfroedd y ffynnon yn gallu iachau pobl. Yn ddelfrydol i'r rhai sy'n hoffi cerdded traws gwlad.
:fill(fff))
Y Canolbarth
Abaty Ystrad Fflur
Fe welwch adfeilion heddychlon yr Abaty Sistersaidd yng nghanol tirweddau mwyaf hudolus ac anhysbys y wlad, a alwyd yn 'Gymru Wyllt' ar ôl llyfr teithio enwog o'r 19eg ganrif. Cymerwch eiliad i fwynhau'r awyrgylch cyn crwydro cors eang Tregaron lle gallwch weld gweision neidr disglair o rwydwaith o lwybrau pren wedi'u codi. Paciwch bicnic ac ewch i Byllau Teifi, sydd mewn darn wyllt o wlad uchel gydag ystod o lynnoedd golygfaol a chronfeydd dŵr.
De Cymru
Castell Carreg Cennen
Yn cael ei ystyried yn swyddogol yr adfail mwyaf rhamantus yng Nghymru – yn ôl darllenwyr cylchgrawn Countryfile. Wedi'i leoli ar graig galchfaen fawr bron i 90 metr uwchben Afon Cennen, mae silwét dramatig Carreg Cennen yn dominyddu'r gorwel am filltiroedd o'i gwmpas ac yn cynnig golygfeydd anhygoel dros gefn gwlad Sir Gaerfyrddin.
Llwybrau
Mae llwybrau a theithiau hunan-arwain yn rhoi'r cyfle i ymwelwyr grwydro tirweddau hanesyddol, abatai a chestyll canoloesol ysbrydoledig a heddychlon.
:fill(fff))
Gogledd Cymru
Castell Harlech
Mynnwch gip ar y Daith i'r Entrychion am ddiwrnod o archwilio tirweddau epig a hanesyddol, gan gynnwys bylchfuriau uchel castell canoloesol a chopa hynafol Yr Wyddfa.
Y Fflint i Dreffynnon
Gall Llwybr Arfordir Cymru fynd â chi i fan cyfarfod i frenhinoedd, trwy fynachlog ganoloesol ac i ffynnon hynafol iachusol.
Pentraeth i Fiwmares
Traeth hardd, goleudy, eglwys hynafol, castell Normanaidd a'r olaf o gestyll Edward I yng Nghymru. Traeth tywodlyd hardd, golygfeydd arfordirol heddychlon, y cyfle i weld bywyd gwyllt gwych, a digonedd o safleoedd hanesyddol. Mae hwn yn llwybr sydd ag ychydig o bopeth sy'n wych am Ynys Môn.
Y Canolbarth
Ffwrnais i'r Borth - Treftadaeth ddiwydiannol a naturiol
Gan ddechrau gydag enghraifft o dreftadaeth ddiwydiannol sydd wedi'i chadw'n dda, mae'r llwybr hwn yn symud trwy goetir, tir fferm a choedwigaeth i fannau naturiol arbennig, gan gynnwys cors uchel, twyni tywod ac aber hardd.
De Cymru
Abaty Tyndyrn
Taith gerdded 5km ar hyd glan orllewinol Afon Gwy gydag ymweliad ag Abaty Sistersaidd godidog. Yng nghanol Dyffryn Gwy mae Abaty Tyndyrn, yr abaty canoloesol sydd wedi'i gadw orau yng Nghymru, sy'n enwog am gynnig lle i ymwelwyr deimlo'n llonydd. Dechreuwch eich diwrnod gydag ymweliad â'r safle, ac yna taith gerdded hamddenol 90 munud ar hyd glan orllewinol afon Gwy a thrwy goetir i gyrraedd Pulpud y Diafol.
Castell Cas-gwent / Abaty Tyndyrn
Taith gerdded ysgafn i leoliad sy'n dod â'r Oesoedd Canol â'r byd modern ynghyd, gydag ymweliad â thref farchnad Cas-gwent a'i chaer ganoloesol.
Cylchdeithiau cerdded Llansteffan
Mae aber tywodlyd enfawr, coetiroedd, hanes a diwylliant lleol, lonydd cefn gwlad a phentref bach hyfryd yn rhan o'r daith gerdded 3-6km hon.
Cylchdaith Dewi Sant a Santes Non
Gan ddilyn yn ôl troed seintiau, tywysogion ac esgobion, mae'r daith gerdded hon yn mynd trwy ardaloedd gwych ar ben clogwyni a lonydd gwledig tawel wrth i chi ddilyn yn ôl troed seintiau o'r Oes Dywyll a ddaeth yma fel pererinion, ac yn croesi dyfroedd cythryblus a pheryglus Swnt Dewi. Gellir gweld cyfoeth o fywyd gwyllt, gan gynnwys dolffiniaid a llamidyddion i hebogau tramor a brain coesgoch. Ac unwaith rydych chi ar yr arfordir, gwnewch yn siŵr bod y môr ar y dde.
:fill(fff))
Eisiau gwybod mwy?
Darganfod sut y gall dim ond 20 munud y dydd yn yr awyr agored yn rhoi hwb i'ch lles. Neu ewch i'r dudalen bioamrywiaeth a natur am fwy o straeon natur.
:fill(transparent))
:fill(transparent))
:fill(transparent))
:fill(transparent))