Cyhoeddi yn gyntaf: 5 Tachwedd 2025 -
Wedi diweddaru: 5 Tachwedd 2025 -
Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol
Pŵer natur: Sut mae natur yn ein hamddiffyn rhag llifogydd
Rydym yn cael mwy a mwy o lifogydd yng Nghymru wrth i’n hinsawdd newid – ond mae Rheoli Llifogydd yn Naturiol (NFM) yn cynnig ffordd bwerus sy’n defnyddio natur i helpu cymunedau i addasu a ffynnu. Trwy weithio gyda natur, gallwn arafu llif dŵr, lleihau’r risg o lifogydd a chreu cynefinoedd cyfoethocach i fywyd gwyllt.
:fill(fff))
Beth yw ‘Rheoli Llifogydd yn Naturiol’?
Mae Rheoli Llifogydd yn Naturiol yn defnyddio atebion sy’n seiliedig ar natur (prosesau naturiol) i ddal dŵr yn ôl, arafu llif dŵr ac amsugno dŵr yn y dirwedd. Mae’n golygu adfer tir gwlyb, plannu coed, adeiladu argaeau sy’n mân-ollwng, ailgysylltu afonydd â’u gorlifdir ac ati i gadw dŵr lle mae’n disgyn a lle na all creu difrod. Yn lle dibynnu ar walydd concrit a draeniau, gallwn ddefnyddio systemau natur i ddiogelu’n heiddo, ein ffyrdd a’n ffermydd.
Mae Rheoli Llifogydd yn Naturiol yn rhoi sylw arbennig ar gadw dŵr ym mlaenau’r dalgylch, i leihau’r llif i lawr yr afon a rhoi mwy o amser i gymunedau baratoi pan ddaw glaw trwm.
Dyma enghreifftiau o Reoli Llifogydd yn Naturiol:
Defnyddio tir gwlyb fel sbwng anferth
Defnyddio coed a pherthi (gwrychoedd) i ddal y glaw cyn iddo daro’r llawr
Defnyddio dolydd blodau i wella’r pridd, fel bod dŵr yn treiddio trwyddo’n well
Ailgysylltu afonydd sy’n gorlifo â mannau diogel yn lle trefi.
Pam mae Bioamrywiaeth yn bwysig
Mwya’n y byd o amrywiaeth o blanhigion ac anifeiliaid sydd gennym, cryfa’n y byd yw’n systemau naturiol. Mae ardaloedd bioamrywiol:
yn helpu pridd i amsugno mwy o ddŵr
yn cynnal planhigion sy’n arafu llif y dŵr ffo ar y tir
yn gartref i frogaod, pryfed ac adar sy’n cynnal ecosystemau cytbwys
yn ymadfer yn gynt ar ôl stormydd a chyfnodau o sychder
O’i grynhoi felly, mae natur iach yn golygu amddiffyniad gwell rhag llifogydd.
:fill(fff))
Enghreifftiau go iawn yng Nghymru - Prosesau naturiol ar waith
Ledled Cymru, mae cymunedau a grwpiau cadwraeth yn dangos sut y gallwn, trwy weithio gyda natur, amddiffyn ein cartrefi, cynnal bywyd gwyllt a gwrthsefyll effeithiau newid hinsawdd. Mae Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru ac Awdurdodau Rheoli Risg (RMA) yn gweithio gyda’i gilydd i wneud NFM yn norm, trwy gefnogi prosiectau sy’n dod â manteision i bobl a natur. Mae Llywodraeth Cymru’n ariannu nifer o RMAs yng Nghymru i Reoli Llifogydd yn Naturiol, i helpu cymunedau i wrthsefyll effeithiau llifogydd.
Lefelau Gwent: Gwlyptir sy’n gweithio
Lefelau Gwent yw un o dirweddau gwlyb pwysicaf Cymru. Mae’n estyn o Gaerdydd i Gasgwent. Mae gwaith adfer yno wedi:
Ailgysylltu dros 30km o ffosydd (reens yw’r enw lleol arnyn nhw) i wella llif y dŵr a lleihau’r perygl o lifogydd.
Helpu rhywogaethau prin fel y gardwenynen feinlais, y gornchwiglen a llygoden y dŵr i ddod ‘nôl a ffynnu ym mioamrywiaeth gyfoethog y gwlypdir.
Creu lleiniau clustogi naturiol sy’n storio dŵr pan fydd glaw trwm gan helpu i ddiogelu cymunedau gerllaw rhag llifogydd.
Grwpiau lleol fel Ymddiriedolaeth Natur Gwent a Friends of the Gwent Levels sy’n arwain y gwaith, gan gyfuno adfer cynefinoedd ac addysgu a ennyn diddordeb y cyhoedd.
Ceredigion: Coed ar lannau Afon Teifi
Yng Ngheredigion, mae ffermwyr a grwpiau cymunedol yn plannu coed ar lan afonydd fel Afon Teifi i:
Sefydlogi’r glennydd a lleihau erydiad gan stormydd.
Arafu llif y dŵr dros wyneb y tir, i atal llifogydd sydyn.
Creu coridorau bioamrywiol cysgodol sy’n gartref i’r dyfrgi, glas y dorlan a phryfed peillio.
Mae prosiectau fel Llwybr Dyfrgwn Aberteifi wedi gweddnewid glan afon y dref i fod yn lle gwyrdd i bobl a natur, yn sgil plannu blodau gwyllt, creu mannau chwarae naturiol a gwella’r cysylltiadau â’r llwybrau ar lan yr afon.
Sir Fynwy: Arafu’r llif yn nalgylch Afon Wysg
Dingestow Estate (Old Lands):
Yn Dingestow Estate yn Llanddingad, ar ôl cynnal asesiadau a gwaith modelu o’r safle, gwnaeth JBA Consultants ddatblygu cynigion ar gyfer Rheoli Llifogydd yn Naturiol a gweithio gyda Chyngor Sir Fynwy i gynnal y cynllun. Gorffennwyd y gwaith ym mis Medi 2024, gan greu:
14 pwll dŵr
4 pwll dwr tymhorol
5 argae sy’n gollwng
1 pwll glaw
Gyda’i gilydd, mae’r nodweddion yn gallu storio rhyw 3,300 metr ciwbig o ddŵr. Mae’r arwyddion cyntaf yn dangos bod y mesurau’n gweithio yn unol â’r bwriad.
Lower Gockett Farm:
Gan gydweithio’n glos â pherchennog y tir, datblygodd Cyngor Sir Fynwy nifer o nodweddion Rheoli Llifogydd yn Naturiol, a’u darparu mewn dau gam. Roedd Cam 1 yn cynnwys argaeau sy’n gollwng, stwffio gwlïau, pyllau dŵr glaw dros dro a phyllau tymhorol i ddal dŵr ffo. Datblygwyd y gwaith hwn yng Ngham 2:
Stwffio rhagor o gwlïau
Argaeau sy’n gollwng
Argae fawr
Lagŵn o bren i ddal dŵr ffo
Cynhaliodd Tirwedd Genedlaethol Dyffryn Gwy ddiwrnod o hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth am Reoli Llifogydd yn Naturiol ar y fferm, gan ddod â chontractwyr, perchenogion tir a rhanddeiliaid ynghyd i weld y gwaith oedd wedi’i wneud.
Ydych chi am helpu? Dyma sut
Does dim angen ichi fod yn wyddonydd na pherchen ar dir i wneud gwahaniaeth. Dyma ffyrdd syml ichi ddefnyddio natur i amddiffyn rhag llifogydd:
Plannwch goeden neu berth (gwrych)
Gall hyd yn oed un goeden arafu’r glaw a chynnal adar a phryfed.Plannwch flodau gwyllt
Maen nhw’n gwella’r pridd, yn denu pryfed peillio ac yn helpu’r dŵr i ddraenio’n naturiol.Crewch wlyptir neu bwll bach
Gwych ar gyfer brogaod, gweision y neidr ac am amsugno dŵr!
Ymunwch â grŵp natur lleol
Helpwch i adfer cynefinoedd, monitro bywyd gwyllt a glanhau afonydd.
Siaradwch dros natur
Cefnogwch atebion sy’n seiliedig ar brosesau naturiol yn eich cymuned a chynlluniau lleol.
Nid rhywbeth i’w edmygu yn unig yw natur - mae natur yn ein hamddiffyn. Trwy adfer bioamrywiaeth, rydyn ni’n adeiladu Cymru gryfach, mwy diogel a gwyrddach. Gadewch i ni weithio gyda’n gilydd a gadael i natur wneud yr hyn mae’n wneud.
:fill(transparent))
:fill(transparent))