Climate Action Wales Logo

Cyhoeddi yn gyntaf: 05/09/2025 -

Wedi diweddaru: 05/09/2025 -

Verified by our Editorial Panel

Pam mae sbwriel traeth yn bwysig a sut i'w ymladd

O draethau i'n platiau cinio, mae llygredd plastig yn effeithio ar bob un ohonom. Mae Fforwm Ieuenctid Moroedd Byw yn cymryd camau un botel blastig ar y tro.

Children picking up litter on a beach

Rydych chi'n cerdded ar hyd eich hoff draeth, yn chwilio am gregyn a gwydr môr, ond yn lle hynny, rydych chi'n taro ar ddarn o blastig lliwgar. Neu efallai eich bod chi'n snorclo, yn gobeithio gweld eich hoff bysgod, ond yn lle hynny, mae hen becyn creision yn mynd heibio. Beth bynnag rydych chi’n wneud, padlfyrddio, chwilota traeth neu fwynhau diwrnod ar lan môr, byddwch yn siŵr o sylwi ar rywbeth pryderus - sbwriel ym mhobman.

Mae arbenigwyr yn amcangyfrif bod 12 miliwn tunnell o sbwriel yn mynd i'n cefnforoedd bob blwyddyn, ac mae bellach yn amhosibl ymweld ag unrhyw draeth heb ddod ar draws rhyw fath o lygredd.

Rydyn ni'n ymladd yn ôl

Fel pobl ifanc o Fforwm Ieuenctid Moroedd Byw Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru, rydym wedi gweld y broblem hon â'n llygaid ein hunain o’n cartref yng Nghanolfan Bywyd Gwyllt Morol Bae Ceredigion yng Nghei Newydd. Dyna pam rydyn ni'n trefnu glanhau'r traeth yn aml ac yn ceisio ysbrydoli eraill i wneud yr un peth, trwy ddigwyddiadau cymunedol a'r cyfryngau cymdeithasol. Ond mae angen help arnon ni.

Pam ddylai fod ots 'da ni?

Yn ogystal â bod yn hyll ac yn ddiflastod, mae sbwriel môr yn broblem ddifrifol i fywyd gwyllt ac i bobl.

I'n bywyd gwyllt: Bob blwyddyn, mae mwy a mwy o adar y môr yn marw o newyn - nid oherwydd diffyg bwyd, ond am fod eu stumogau'n llawn o blastig amhosibl ei dreulio. Mae llyncu plastig yn gwneud iddyn nhw deimlo'n llawn, felly maen nhw'n rhoi'r gorau i fwyta bwyd go iawn. Mae gwyddonwyr yn amcangyfrif erbyn 2050, bydd gan 99% o holl adar môr y byd blastig yn eu stumogau.

Ac mae mwy. Mae offer pysgota, rhaffau, rhwydi a chewyll yn fagl marwol i anifeiliaid y môr o bob maint, o forfilod anferth i'r crancod lleiaf. Mae tua 300,000 o forfilod, dolffiniaid, a llamhidyddion yn marw o fynd yn sownd mewn rhwydi bob blwyddyn. Maen nhw'n cael eu dal, yn methu dod yn rhydd, yn cael eu hanafu, yn marw o newyn neu'n brae hawdd i anifeiliaid ysglyfaethus.

I ni: Dyma'r rhan fydd yn eich synnu. Ydych chi'n cofio'r pysgod a'r sglodion gawsoch chi benwythnos diwethaf? Neu'r cregyn gleision gawsoch chi i ginio? Fwy na thebyg roedd microplastigau ynddyn nhw. Mae gan y cannoedd o rywogaethau rydyn ni'n eu bwyta'n rheolaidd bellach ddarnau bach o blastig yn eu cyrff. Mae'r llygredd rydyn ni'n ei ollwng i'r môr yn llythrennol yn dod yn ôl i'n bwrdd bwyd.

Gallwch chi wneud gwahaniaeth

Yn teimlo bod y cyfan yn drech na chi? Peidiwch â theimlo hynny! Gall hyd yn oed y pethau lleiaf wneud gwahaniaeth.

Mae'r Great British Beach Clean yn cael ei gynnal rhwng 19 a 28 Medi, ac rydyn ni am i chi gymryd rhan.

Hyd yn oed os nad ydych chi'n byw ger y môr, gallwch helpu trwy drefnu casglu sbwriel yn eich ardal neu sôn am lygredd môr ar y cyfryngau cymdeithasol.

Cofiwch: efallai'r botel blastig rydych chi'n ei chasglu heddiw yw'r un fyddai wedi lladd aderyn môr yfory. Mae pob darn o sbwriel rydych chi'n ei gasglu yn un bygythiad yn llai i fywyd y môr - ac un cam yn nes at foroedd glanach i bawb eu mwynhau.

I gael rhagor o gymorth neu gyngor ffoniwch

0300 0604400

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol