Climate Action Wales Logo

Cyhoeddi yn gyntaf: 12 Tachwedd 2025 -

Wedi diweddaru: 14 Tachwedd 2025 -

Verified by our Editorial Panel

Noddfa byd natur: Ffyrdd syml i deimlo'n dda yn yr awyr agored

Wrth i'r dyddiau fyrhau a'r tymheredd ostwng, mae'n hawdd swatio dan do ac aros am y gwanwyn. Ond mae'r gaeaf yn cynnig cyfle unigryw i arafu, i ailgysylltu â'r byd naturiol, a chefnogi ein llesiant yn y broses.

River and moutains

Meddyginiaeth byd natur

Dangoswyd bod treulio amser ym myd natur yn lleihau straen, gwella hwyliau, ac yn helpu i glirio'r meddwl.  Yn y gaeaf, mae'r manteision hyn yr un mor, os nad yn fwy pwerus. Gall llonyddwch tawel taith gerdded mewn coetir rhewllyd neu lawenydd syml gweld robin goch yn eich gardd gynnig eiliadau o dawelwch a'ch gwreiddio mewn tymor digon prysur fel arall.

Croesawu'r gaeaf

Yn hytrach na brwydro yn erbyn y gaeaf, gall croesawu ei rythmau fod yn adferol iawn. Lapiwch yn gynnes a darganfod eich mannau gwyrdd lleol trwy fynd am dro, waeth pa mor hir neu fyr ydyw. Sylwch ar harddwch y canghennau noeth, sŵn crensian rhew o dan eich traed, neu olau euraidd machlud haul isel y gaeaf. Gall y profiadau synhwyraidd hyn ein gwreiddio a chodi ein hysbryd.

Teithiau cerdded gaeafol i'ch gwreiddio

Mae'r gaeaf yn amser perffaith i archwilio lleoedd cyfarwydd mewn goleuni newydd. Dyma rai teithiau cerdded trawiadol yng Nghymru sy'n cynnig heddwch, harddwch, a chyfle i weld bywyd gwyllt tymhorol:

  • Llwybr Arfordir Ynys Môn – Moelfre i Draeth Lligwy
    Dilynwch lwybrau dramatig ar hyd clogwyni gyda golygfeydd ysgubol dros Fôr Iwerddon, gan fynd heibio gorsafoedd badau achub hanesyddol a childraethau tawel. Mae'r darn heddychlon hwn o Lwybr Arfordir Ynys Môn yn cynnig awyr iach y môr, golau mwyn y gaeaf, ac ymdeimlad o lonyddwch - y lle perffaith ar gyfer ailgysylltu â natur a rhoi hwb i'ch llesiant.

Isle of Anglesey Coastal Path
  • Ystâd Castell y Waun, Wrecsam
    Crwydrwch 480 erw o dir parc hanesyddol a choetir hynafol. Mae taith yr Hen Golf yn cynnig golygfeydd panoramig a chyfle i weld coed hynod a cheirw, o bosibl.

  • Gwarchodfa Natur Genedlaethol Gwlyptiroedd Casnewydd
    Hafan i adar sy'n gaeafu fel chwiwellau, corhwyaid, cornchwiglod, a hyd yn oed hebogau tramor. Mae llwybrau hygyrch a chuddfannau gwylio adar yn gwneud hwn yn lle perffaith ar gyfer gwylio bywyd gwyllt mewn llonyddwch.

Newport Wetlands National Nature Reserve
  • Bae Oxwich, Penrhyn Gŵyr
    Mae'r trysor o le arfordirol hwn yn cyfuno traeth, twyni a choetir. Yn y gaeaf, chwiliwch am adar gwyllt, adar y bwn, a rhegennod y dŵr, a mwynhewch wylio merlod gwyllt yn pori'r twyni.

Oxwich Bay, Gower Peninsula
  • Pen y Fan, Bannau Brycheiniog
    I'r rhai sy'n chwilio am daith gerdded fwy bywiog, mae Pen y Fan yn cynnig dringfa aeafol gyda golygfeydd syfrdanol. Ar ddiwrnodau clir, mae'r copaon dan gwrlid ysgafn o eira ac mae'r dyffrynnoedd rhewllyd yn fythgofiadwy.

Pen y Fan, Brecon Beacons
  • Parc Erddig, Wrecsam
    Taith gerdded hamddenol ar lan yr afon trwy dir parc hanesyddol, sy'n cynnwys rhaeadrau, coed hynafol, ac awyrgylch heddychlon sy'n ddelfrydol ar gyfer teuluoedd neu daith gerdded dawel ar eich pen eich hun.

Byd natur o glydwch eich cartref

Nid oes angen i bob cysylltiad â natur ddigwydd yn yr awyr agored. Dewch â'r tymor tu fewn trwy addurno gyda deunyddiau naturiol fel moch coed, celyn, neu ganghennau bytholwyrdd. Rhowch gynnig ar ysgrifennu dyddiadur natur wrth ffenestr, neu yn syml cymerwch eiliad i fod yn bresennol trwy sylwi ar adar yn bwydo. Gall y defodau bach hyn helpu i gynnal ymdeimlad o dawelwch a pharhad trwy fisoedd tywyll y gaeaf.

Mae helpu bywyd gwyllt yn ein helpu ni hefyd

Gall cefnogi bywyd gwyllt lleol yn y gaeaf trwy fwydo adar, creu lloches i ddraenogod, neu adael rhannau o'ch gardd yn wyllt fod yn ffordd bwerus o deimlo'n rhan o rywbeth mwy. Mae'n ein hatgoffa nad rhywbeth ar wahân yw natur a bod cysylltiad annatod rhyngom a'r byd naturiol.

Y rhodd o arafu

Mae'r gaeaf yn ein gwahodd i orffwys ac adlewyrchu. Mae'n amser i adfer, i sylwi ar y byd wrth i bethau dawelu, ac i baratoi ar gyfer bywyd newydd y gwanwyn. Trwy ddilyn rhythmau natur, gallwn ddod o hyd i gydbwysedd a gwytnwch yn ein bywydau ni ein hunain.

Y gaeaf hwn, gadewch i natur fod yn noddfa i chi. P'un a yw'n daith gerdded yn y goedwig, eiliad o lonyddwch o dan y sêr, neu mor syml â sylwi ar rew ar eich ffenestr, mae pob cysylltiad â natur yn cyfrif.

Dysgwch fwy am natur yn y gaeaf, neu edrychwch ar ein tudalen bioamrywiaeth a natur am fwy o straeon.

I gael rhagor o gymorth neu gyngor ffoniwch

0300 0604400

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol