Cyhoeddi yn gyntaf: 7 Tachwedd 2025 -
Wedi diweddaru: 10 Tachwedd 2025 -
Verified by our Editorial Panel
Hwb i’ch lles o ddim ond 20 munud y dydd yn yr awyr agored
Siaradodd Gareth Clubb, Cyfarwyddwr Cronfa Natur y Byd (WWF) Cymru, â ni am eu hymgyrch Presgripsiwn Natur.
Mae astudiaethau wedi dangos y gall dim ond 20 munud y dydd ym myd natur roi hwb i'ch lles a'ch cysylltu â'r byd naturiol.
P'un a yw'n ychydig o arddio tawel neu'r heddwch a geir ar daith gerdded ddistaw mewn coetir, mae ffyrdd syml o gefnogi ein lles, hyd yn oed yn ystod yr hydref a'r gaeaf.
“Dydy hi ddim bob amser yn hawdd mynd allan am dro hir, ond byddech chi'n synnu faint o bethau bach, hygyrch y gallwn ni eu gwneud bob dydd," mae Gareth yn esbonio.
:fill(fff))
8 ffordd i gael eich dos dyddiol o natur
Bod yn egnïol ym myd natur. Gallai hyn gynnwys ymarfer corff yn yr awyr agored yn hytrach na'r tu mewn; newid eich llwybr cerdded i fan gwyrdd; plannu pethau yn yr awyr agored - fel man cymunedol neu ardd; neu hyd yn oed noson o wersylla.
Hwyl gyda'r teulu. Ewch am dro ar eich llwybr coedwig agosaf; ewch ar helfa drysor ar thema natur; neu wneud coridor ar gyfer draenogod.
Gweithgareddau hygyrch. Dylai'r byd naturiol fod ar gael i unrhyw un. Ewch am ychydig o awyr iach pan allwch chi, ac os na allwch fynd allan, ceisiwch wrando ar recordiadau sain o fyd natur; a rhowch gynnig ar goginio gyda'r tymhorau trwy ddefnyddio ffrwythau a llysiau tymhorol.
Meddylgarwch. Gall syllu ar awyr y nos neu ysgrifennu mewn dyddlyfr natur eich helpu i ymlacio. Ceisiwch wrando ar y myfyrdod dan arweiniad ar wefan WWF.
Natur yn eich gardd. Hyd yn oed yn yr hydref a'r gaeaf gallwch blannu planhigion sy'n addas i'r gaeaf, neu gynllunio lle ar gyfer dôl blodau gwyllt erbyn haf nesaf; adeiladu gwesty i chwilod; neu osod bwydwr adar i gadw bywyd gwyllt yn hapus trwy gydol y misoedd oerach.
Anturio trefol. Cymerwch amser i sylwi ar y byd naturiol hyd yn oed mewn tref neu ddinas. Tynnwch luniau o’r hyn fyddwch chi’n dod o hyd iddo.
Gartref gyda natur. Beth am geisio tyfu rhywfaint o blanhigion yn y tŷ? Yn ogystal â lleihau straen a dod ag ymdeimlad o dawelwch, mae planhigion hefyd yn gwella ansawdd aer y tu mewn i'ch cartref.
Crefftau creadigol. Mae natur yn ffynhonnell ddiddiwedd o ysbrydoliaeth - yn enwedig lliwiau'r hydref. Casglwch ddail wedi cwympo, conau pinwydd, neu bennau hadau i greu clytwaith tymhorol, neu dynnu lluniau o'r pethau sy'n dal eich llygaid: tirweddau rhewllyd, cerrig wedi'u gorchuddio â mwsogl, cysgod canghennau heb ddail yn erbyn yr awyr, neu fywyd gwyllt fel robin goch, a gwiwerod.
:fill(fff))
Am lawer mwy o syniadau, ewch i dudalen Presgripsiwn Natur WWF lle gallwch hefyd ddod o hyd i fideos a dolenni i ddigwyddiadau.
Gallwch hefyd edrych ar weddill y dudalen bioamrywiaeth a natur yma ar wefan Gweithredu Hinsawdd Cymru.
:fill(transparent))
:fill(transparent))