Cyhoeddi yn gyntaf: 18 Chwefror 2026 -
Wedi diweddaru: 18 Chwefror 2026 -
Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol
Gwneud y pethau bychain dros natur: Myfyrdod ar Ddydd Gŵyl Dewi
Dysgwch sut mae Dydd Gŵyl Dewi yn ysbrydoli gweithredoedd bob dydd syml i amddiffyn natur, bywyd gwyllt a chynefinoedd Cymru wrth i'r gaeaf ildio i'r gwanwyn.
:fill(fff))
Mae Dydd Gŵyl Dewi yn ddiwrnod o ddathlu i ni'r Cymry. Mae'n rhan o'n traddodiad a'n hunaniaeth ac yn gyfle i fynegi’n gwerthfawrogiad dwfn o'r tir y mae ein diwylliant wedi'i adeiladu arno. Ynghyd â’r genhinen, y ddraig a'n gwlatgarwch, mae’n amser i oedi a rhyfeddu at y newidiadau sy'n digwydd ledled y wlad wrth i'r gaeaf lacio ei afael ac ildio i'r gwanwyn.
Tirweddau gwyllt Cymru a'r rhywogaethau maen nhw'n eu cynnal
Mae tirweddau Cymru yr un mor eiconig â'i hiaith a'i threftadaeth. O fynyddoedd mawreddog Eryri a chribau garw Bannau Brycheiniog i’n dyffrynnoedd bras, ein cymoedd cul a’n harfordir gwyllt, mae daearyddiaeth y wlad yn cynnal amrywiaeth ryfeddol o rywogaethau a chynefinoedd. Mae dros un rhan o bump o dir a môr Cymru wedi'i chydnabod yn bwysig o ran yr amgylchedd, gan gynnig lloches i blanhigion, adar a mamaliaid prin.
Mae enw Dewi Sant wedi'i gysylltu â byw’n syml, bod yn drugarog a gwneud daioni. Mae ei neges "gwnewch y pethau bychain" yn dal i'n hatgoffa gymaint o wahaniaeth y gall bod yn ystyriol ei wneud, yn enwedig o ran amddiffyn ein byd naturiol.
Bywyd gwyllt eiconig Cymru i wylio yn gynnar yn y gwanwyn
Mae Cymru'n gartref i amrywiaeth syfrdanol o fywyd gwyllt. Mae barcutiaid coch, y bu bron iddyn nhw ddiflannu’n llwyr o’n tir, bellach i'w gweld yn gyffredin uwchlaw tir y Canolbarth. Mae palod yn dychwelyd bob blwyddyn i Skomer a Skokholm ac mae dolffiniaid trwyn potel i'w gweld yn crwydro dyfroedd Bae Ceredigion. O dan glogwyni diarffordd, mae morloi yn magu eu rhai bach, ac mae ein coedwigoedd hynafol yn gartref i'r pathew, yr ystlum pedol lleiaf a'r dyfrgi.
Mae'r rhywogaethau hyn yn rhan o glytwaith ehangach o fioamrywiaeth sy'n cyfrannu at hunaniaeth naturiol Cymru - gwydn ac amrywiol, ac yn annwyl iawn gan bawb.
:fill(fff))
Ffyrdd syml o helpu natur y gwanwyn hwn
Mae geiriau Dewi Sant i'n hatgoffa i "wneud y pethau bychain" yn teimlo'n arbennig o bwerus ar yr adeg hon o'r flwyddyn, wrth i'r gaeaf golli'i afael ac i'r gwanwyn a bywyd gwyllt raddol ddeffro.
Cymerwch ran
Dyma gamau syml, pwysig y gallwch eu cymryd i helpu natur:
Gadwch ddarnau bach heb eu twtio mewn gerddi i gynnig lloches i bryfed sy'n dechrau bywiogi ar ôl treulio'r gaeaf ynghudd yn y dail marw a’r pridd.
Plannwch flodau cynnar fel y briallu, y saffrwn a'r eirlys i roi neithdar ac egni mawr ei angen i gacwn benyw wrth iddynt ddeffro o aeafgwsg i fagu.
Helpwch bryfed peillio trwy blannu perlysiau fel rhosmari, saets a mintys. Dewiswch gompost heb fawn, a pheidio â defnyddio plaladdwyr.
Glanhewch flychau nythu i helpu adar yr ardd sy'n chwilio am leoedd diogel i fagu eu cywion. Rhowch fwyd a dŵr glân i helpu adar ac anifeiliaid i oroesi wythnosau oer olaf y tymor.
Diffoddwch oleuadau gardd yn y nos yn helpu i amddiffyn ystlumod, gwyfynod a rhywogaethau nos eraill ac mae
Casglwch dŵr glaw yn lleihau'r pwysau ar gyflenwadau dŵr lleol.
Cysylltu cymunedau â natur ledled Cymru
Y tu hwnt i ffiniau'r ardd, mae yna lawer o bethau bach y gallwch eu gwneud i dynhau'r cwlwm rhwng y gymuned a natur. Gall ymuno â grŵp casglu sbwriel, gwirfoddoli gyda grŵp cadwraeth, neu hyd yn oed codi ambell ddarn o blastig wrth fynd am dro, wneud byd o wahaniaeth i fyd natur ar y tir ac ar yr arfordir a glannau afonydd. Mae'n bwysig cadw cŵn ar dennyn mewn ardaloedd sydd â bywyd gwyllt sy'n sensitif i aflonyddwch fel adar sy'n gaeafu, ac mae cofnodi beth rydych yn ei weld ar apiau 'gwyddoniaeth y bobl' yn help mawr i ymchwilwyr a chadwraethwyr sy’n casglu data.
Gall hyd yn oed mynd am dro bach a sylwi ar gân yr adar ac ar egin newydd, ac anadlu ychydig o awyr iach fod yn falm i’r enaid a chryfhau ein perthynas â byd natur. Mae rhannu profiadau natur gyda phlant, cymdogion neu ffrindiau yn helpu i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf i eisiau gofalu am yr amgylchedd.
Nodyn atgoffa o neges Dewi Sant: Gwnewch y pethau bach
Mae byd natur Cymru yn destun balchder, ysbrydoliaeth a lles ac mae ei ddyfodol yn dibynnu ar bob un ohonom yn gwneud y "pethau bychain" pwysig hyn.
Dewch o hyd i fwy o straeon ar ein tudalen bioamrywiaeth a natur, fel sut y gall 20 munud y dydd yn yr awyr agored wella eich lles a pham mae gwenyn mor bwysig.
:fill(transparent))
:fill(transparent))