Cyhoeddi yn gyntaf: 20 Tachwedd 2025 -
Wedi diweddaru: 20 Tachwedd 2025 -
Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol
Gwerthfawrogi'r Gaeaf: Darganfod, gwarchod a dathlu natur
Mae Gwerthfawrogi'r Gaeaf yn eich gwahodd i ddarganfod y rhyfeddodau tymhorol hyn, dathlu eu harddwch, a chymryd camau syml i helpu i warchod y natur sy'n ein hamgylchynu.
:fill(fff))
Pan fyddwn yn meddwl am y gaeaf, mae'n hawdd dychmygu coed noeth, awyr lwyd, a chaeau rhewllyd, a thirwedd sy'n gaeafgysgu. Ond o edrych ychydig yn agosach, byddwch chi'n gweld bod natur yn dal yn llawn bywyd.
Aeron: Tlysau gaeaf natur
Wrth i ddail ddisgyn a blodau bylu, mae aeron yn cael cyfle i serennu. Mae perthi a choetiroedd ledled Cymru yn dod yn fyw gyda ffrwydradau o goch, oren a phorffor:
Mae aeron y celyn yn disgleirio fel rhuddem yn erbyn dail gwyrdd sgleiniog, symbol Nadoligaidd clasurol a ffynhonnell fwyd hanfodol i adar fel adar duon a bronfreithod.
Mae coed criafol a drain gwyn yn drwch o ffrwythau ysgarlad, gan ddenu heidiau o ymwelwyr gaeafol fel esgyll cochion a chesig yr eira.
Mae aeron yr eiddew, sy'n aeddfedu yn hwyrach yn y tymor, yn achubiaeth i adar pan fydd bwyd arall yn brin.
Cennau a mwsoglau: Y gwyrdd a'r aur cudd
Yn aer llaith, glân bryniau a choetiroedd Cymru, mae cennau a mwsoglau yn ffynnu.
Mae'r organebau hyn, sy'n aml yn cael eu hanwybyddu, yn paentio creigiau, boncyffion coed, a waliau cerrig yn wyrdd golau, yn arian, yn felyn lliw mwstard, ac yn wyrddlas.
Mae mwsogl y deri (evernia prunastri) a chen y ceirw yn creu gweadau meddal, barugog ar risgl a changhennau.
Mae cen oren y cerrig yn ychwanegu ffrwydrad o heulwen i dirweddau tywyll fel arall.
Mae eu presenoldeb nid yn unig yn brydferth ond hefyd yn arwydd o ansawdd aer iach.
Ffyngau: Gweithiau celf o'r ddaear y gaeaf
Er bod llawer o ffyngau yn ymddangos yn yr hydref, mae rhai yn goroesi i mewn i'r gaeaf neu'n dod i'r wyneb yng nghanol yr oerfel, hyd yn oed:
Mae'r coesyn melfed sy'n tywynnu'n oren ar foncyffion coed, yn aml dan orchudd ysgafn o rew.
Mae clustiau'r ysgaw, gyda'i siâp rhyfedd a'i wead meddal, yn glynu wrth goed ysgaw.
Mae cwnffon twrci yn agor allan i greu enfys o haenau glas, brown a hufen, fel mandalâu naturiol ar foncyffion sydd wedi cwympo.
Mae'r dadelfenwyr hyn yn chwarae rhan hanfodol mewn ecosystemau coetiroedd, trwy ailgylchu maetholion a chefnogi bioamrywiaeth.
:fill(fff))
Machlud haul a'r awyr: Tân yn y rhew
Gall awyr y gaeaf yng Nghymru fod yn syfrdanol. Gyda'r haul yn is yn yr awyr, mae'r wawr a'r machlud yn para'n hirach gan daenu eu lliwiau'n fwy llachar:
Disgwyliwch liwiau oren tanllyd, pinc, a phorffor dros glogwyni arfordirol, dros gopaon mynyddoedd, a thros gaeau rhewllyd.
Ar nosweithiau clir, mae awyr dywyll Eryri, Bannau Brycheiniog, a Dyffryn Elan yn datgelu golygfeydd syfrdanol o sêr, planedau, a hyd yn oed y Llwybr Llaethog.
Mae Eryri a Bannau Brycheiniog wedi'u dynodi yn Warchodfeydd Awyr Dywyll Rhyngwladol, tra bod Cwm Elan yn dal statws Parc Awyr Dywyll Rhyngwladol, mae pob un yn cael eu cydnabod am ansawdd eithriadol awyr y nos a'u hymrwymiad cryf i leihau llygredd golau.
Cyfunwch daith gerdded aeafol gyda machlud yr haul neu gyfle i syllu ar y sêr am brofiad gwirioneddol hudolus.
:fill(fff))
Dathlwch y gaeaf a helpwch i'w warchod
Y gaeaf hwn, rydym yn eich gwahodd i arafu a gwerthfawrogi harddwch tawel y tymor - o berthi rhewllyd a chennau euraidd i olau meddal machlud haul dros y bryniau. Mae'n amser i fyfyrio ar y natur sy'n ein hamgylchynu ac ystyried sut y gallwn helpu i'w gwarchod.
Ledled Cymru, mae cymunedau eisoes yn cymryd camau i gefnogi bioamrywiaeth drwy'r misoedd oerach. Gallwch chi gymryd rhan hefyd - mae pob cam bach yn gwneud gwahaniaeth.
Gweithredoedd cymunedol y gallwch ymuno â nhw neu eu cychwyn
Plannu ac adfer perthi - Ymunwch â digwyddiadau lleol gyda Coed Cadw (y Woodland Trust yng Nghymru) i adfer coridorau bywyd gwyllt hanfodol.
Casglu sbwriel a glanhau traethau - Helpwch i ddiogelu cynefinoedd drwy ymuno â grŵp Cadwch Gymru'n Daclus neu drefnu eich gwaith glanhau eich hun.
Prosiectau gwyddoniaeth dinasyddion - Cymerwch ran mewn arolygon bywyd gwyllt y gaeaf fel Penwythnos Gwylio Adar yr Ardd neu Nature's Calendar.
Gerddi cymunedol a pherllannau - Gwirfoddolwch mewn mannau gwyrdd a rennir i blannu rhywogaethau sy'n gyfeillgar i beillwyr a gofalu am gynefinoedd y gaeaf.
Garddio sy'n gyfeillgar i fywyd gwyllt - Gadewch bennau hadau, pentyrrau coed, a sbwriel dail yn eich gardd i gefnogi adar, pryfed a mamaliaid bach. Gellir dod o hyd i ddigon o syniadau yma.
Trwy sylwi a meithrin rhyfeddodau'r gaeaf, rydyn ni'n dod yn rhan o'i stori - gwarcheidwaid y tirweddau a'r rhywogaethau sy'n gwneud Cymru mor anhygoel.
Am fwy o straeon ewch i'r dudalen bioamrywiaeth a natur.
:fill(transparent))
:fill(transparent))
:fill(transparent))