)
Bioamrywiaeth a natur
Cyhoeddi yn gyntaf: 04/06/2025 -
Wedi diweddaru: 04/06/2025 -
Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol
Gadewch i ni fynd yn ôl at natur, a gyda'n gilydd, gallwn ei helpu i ffynnu.
Mae Cymru yn gartref i blanhigion a chreaduriaid anhygoel, ond mae llawer yn prinhau. Trwy warchod cynefinoedd, lleihau llygredd a gwneud lle i fyd natur yn ein bywydau bob dydd, gallwn ddod â'r bywyd a'r lleoedd gwyllt sy'n gwneud Cymru mor arbennig yn ôl.
Mae 1 o bob 6 rhywogaeth
yng Nghymru mewn perygl o ddiflannu
18%
Mae traean o'r bwyd rydyn ni'n ei fwyta
yn dibynnu ar wenyn i'w beillio
1/3
Gwelwyd cwymp yn nifer y gwylanod coesddu
yn Nghymru ers 2000 o
34%
:fill(fff))
Pam gweithredu?
Colli bywyd gwyllt a bioamrywiaeth
Mae cynefinoedd wedi cael eu dinistrio, gan olygu bod un o bob chwech rhywogaeth bywyd gwyllt yng Nghymru mewn perygl o ddiflannu.
Cadw Cymru'n iach
Mae gwarchod natur yn helpu i'n cadw'n iach. Mae treulio amser yn yr awyr agored yn dda i'r corff a'r meddwl.
Lleihau llygredd
Mae torri coedwigoedd a llygru dŵr, pridd ac aer yn cynyddu allyriadau niweidiol sy'n cynhesu'r blaned.
Gwarchod ein hecosystemau
Rydym yn dibynnu ar natur am aer, dŵr a bwyd glân - pethau fydd yn prinhau wrth i'r argyfwng natur waethygu.
Hyd fideo:
60 eiliad
Beth allwn ni ei wneud?
Plannu a gwarchod coed
Mae coed yn glanhau'r aer, yn oeri ein strydoedd ac yn gartref i fywyd gwyllt. Dysgwch sut i dyfu eich cornel werdd eich hun a diogelu ein coedwigoedd rhag niwed.
Gwneud lle i natur
Cyfnewid concrit am gorneli gwyllt, gadael i'r glaswellt dyfu, chwynnu â llaw yn lle defnyddio plaladdwyr i annog bioamrywiaeth a helpu gloÿnnod byw, gwenyn a rhywogaethau eraill.
Croesawu bywyd gwyllt
Gall gwesty gwenyn, tŷ draenogod neu flwch adar gyfrannu at greu cornel glyd ar gyfer bywyd gwyllt a helpu i ddiogelu rhai o hoff anifeiliaid Cymru.
Bod yn ddoeth â dŵr
Arbedwch ddŵr trwy ddefnyddio caniau dyfrio yn lle sprinclers, a chasglu dŵr glaw mewn casgen ar gyfer diwrnodau sych. Mae'n well i'r blaned ac i'ch cyfrif banc hefyd.